Elfyn Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd gydag un ras yn weddill

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd Evans 11.6 eiliad y tu ôl i Sebastien Ogier yn Rali Japan

  • Cyhoeddwyd

Gydag un ras yn weddill o'r tymor mae gan Elfyn Evans fantais o dri phwynt ar frig Pencampwriaeth Rali'r Byd.

Fe orffennodd Evans yn ail yn Rali Japan yr wythnos hon, 11.6 eiliad y tu ôl i Sebastien Ogier gyda Sami Pajari yn drydydd.

Roedd Ogier - sydd wedi ennill y bencampwriaeth ar wyth achlysur - yn arwain y cymal o'r dechrau, tra bod Evans wedi dechrau yn siomedig cyn brwydro nôl i orffen yn ail yn y tabl.

Mae'r ras am y bencampwriaeth yn parhau yn un agos, gydag Evans ar 272 o bwyntiau, Ogier ar 269 a Kalle Rovanpera ar 248.

Daw'r tymor i ben yn Saudi Arabia ddiwedd mis Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol