Ai nawr yw cyfle Elfyn Evans i ddod yn bencampwr rali'r byd?

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Evans yn arwain Pencampwriaeth Rali'r Byd o 13 pwynt

  • Cyhoeddwyd

Gyda dwy ras yn weddill o'r tymor ralio, ai Cymro fydd yn cael ei goroni'n bencampwr byd?

Mae Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy ar frig y bencampwriaeth gyda dwy rownd yn weddill.

Rali Japan yw'r targed ar hyn o bryd, sy'n digwydd rhwng dydd Iau a dydd Sul yr wythnos hon, cyn i'r tymor ddod i ben yn Saudi Arabia ddiwedd mis Tachwedd.

Ond stori o fod yn agos ati yw un Evans ar hyd y blynyddoedd, ag yntau wedi dod yn ail yn y bencampwriaeth ar bedwar achlysur.

Disgrifiad,

Dywedodd Elfyn Evans ei fod "ddim yn poeni gormod" am y bencampwriaeth cyn rali Japan

A dyw Evans yn bendant ddim am roi'r cart o flaen y ceffyl.

"'Da ni 'di bod yn y sefyllfa yma ambell waith o'r blaen, a 'leni 'da ni wedi bod mewn ac allan o frig y bencampwriaeth," meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru yr wythnos hon.

"Ond 'da ni hefyd yn gwybod faint o agored yw popeth - mae 'na lot o bwyntiau ar gael dros y ddwy rownd ola' 'ma rŵan.

"Wedyn all rhywbeth ddigwydd dal, felly 'da ni ddim yn poeni gormod amdano fo ar y pwynt yma."

Elfyn Evans yn JapanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Evans wedi cael llwyddiant yn Japan yn y gorffennol, gan ennill yno yn 2023 a 2024

Mae'r ras am y bencampwriaeth yn un agos, gydag Evans ar 247 o bwyntiau.

Yn dynn ar ei sodlau mae Kalle Rovanperä a Sébastien Ogier ar 234.

Mae'r tri uchaf yn rasio i'r un tîm hefyd - Toyota Gazoo Racing.

Mae'n golygu bod popeth yn y fantol wrth fynd i'r rowndiau olaf.

'Sefyllfa gyfarwydd iawn'

Un peth sy'n hwb i Evans yn Japan ydy llwyddiant yn y gorffennol, ag yntau wedi ennill yno yn 2023 a 2024.

"Mae'n un o'r ralis mwya' technegol ar y calendr o ran y ralis tarmac - mae'r ffyrdd yn gul dros ben," meddai.

"Wedyn, yn y goedwig mae'r dail o hyd yn cwympo adeg yma'r flwyddyn, sydd yn 'neud pethau'n llithrig dros ben."

Hana Medi
Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n gwybod yn y byd ralio, mae unrhywbeth yn gallu digwydd," meddai Hana Medi

Yn ôl cyflwynydd rhaglen Ralio+ ar S4C, Hana Medi, mae'r sefyllfa yn un gyfarwydd i Elfyn Evans.

"13 pwynt o fantais sydd gan Elfyn ar frig y tabl, a mae 'na 35 o bwyntiau ar gael ymhob rali," meddai.

"Felly mae 'na uchafswm o 70 o bwyntiau ar gael dros y ddwy rali nesa' 'ma.

"Ni'n gwybod yn y byd ralio, mae unrhywbeth yn gallu digwydd.

"Mae'r sefyllfa yma yn gyfarwydd iawn i Elfyn, a ni'n cofio 'nol i Monza yn 2020.

"Rali ola'r tymor pan mai fe oedd y ffefryn i ennill, ac yn y rhew a'r iâ 'naeth y car lithro o'r ffordd, a daeth ei obeithion i ennill y bencampwriaeth i ben yn y fan a'r lle."

Saudi Arabia fydd rownd ola'r tymor - ras newydd fydd yn cynnig her i bob tîm.

Ai Jeddah felly fydd y man i'r Cymro cyntaf tu ol i'r olwyn godi tlws Pencampwriaeth Rali'r Byd?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig