'Ges i fy rhoi mewn coma oherwydd salwch beichiogrwydd'

Atlanta McIntyreFfynhonnell y llun, Atlanta McIntyre
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i feddygon roi Atlanta McIntyre mewn coma oherwydd bod ei symptomau mor ddifrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw a gafodd ei rhoi mewn coma ar ôl profi salwch beichiogrwydd difrifol wedi disgrifio deffro i ddarganfod bod ei babi wedi cael ei eni.

Fe gafodd Atlanta McIntyre, 29 o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf, broblemau salwch mawr yn ystod ei beichiogrwydd - cyflwr o'r enw hyperemesis gravidarum (HG).

Aeth y problemau mor ddifrifol, fe wnaeth Ms McIntyre dagu tra'n cyfogi a bu'n rhaid i feddygon ei rhoi mewn coma.

Pan ddeffrodd o'r coma, fe wnaeth hi ddarganfod bod ei merch wedi cael ei geni trwy doriad cesaraidd.

"Ro'n i mewn sioc, methu coelio'r peth," meddai.

"Dwi'n cofio dweud wrth y nyrsys a fy mhartner eu bod nhw'n dweud celwydd wrtha i 'mod i wedi'i chael hi [ei merch]."

Beth ydy HG?

Mae salwch yn ystod beichiogrwydd yn gyffredin iawn, gydag wyth o bob 10 o fenywod beichiog yn profi symptomau.

Ond mae rhai yn profi salwch a chyfogi difrifol - cyflwr HG - ac yn aml mae angen triniaeth ysbyty o'i herwydd.

Yn ôl y GIG, mae HG yn effeithio ar 1-3% o fenywod beichiog.

Mae rhywun sydd â HG yn gallu cyfogi dros 50 gwaith y dydd ac mae hynny'n gallu arwain at golli pwysau, dŵr a fitaminau o'r corff, gan roi iechyd y fam a'r babi mewn perygl.

Ffynhonnell y llun, Atlanta McIntyre
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Ms McIntyre ddisgwyl 10 diwrnod cyn cael cyfarfod ei merch

"Fe wnaeth fy salwch i ddechrau'n gynnar - o'r eiliad ro'n i'n gwybod 'mod i'n feichiog, hyd yn oed cyn i fi gymryd prawf," meddai Atlanta McIntyre.

"Wedi rhyw chwe wythnos fe wnaeth y salwch boreol ddechrau go iawn. Pob bore ro'n i'n sâl. Unrhyw beth ro'n i'n bwyta, ro'n i'n sâl."

Yn y pendraw roedd Ms McIntyre angen triniaeth ysbyty wrth i'w chyflwr waethygu.

"Wedi i fi gyrraedd 14 wythnos roedd pethau'n dal yn od o ddifrifol - do'n i ddim yn gallu cadw unrhyw beth i lawr.

"Dyna pryd ges i'r diagnosis o HG."

'Rhaid i ni ei chael hi mas nawr'

Fis Chwefror 2024, a hithau 29 wythnos yn feichiog, fe aeth Ms McIntyre yn sâl tra'n bwyta.

"Fe wnes i dagu wrth gyfogi ac fe aeth yn syth i'm hysgyfaint," meddai.

Roedd hi mewn cyflwr mor wael, cafodd ei rhoi mewn coma gan feddygon yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

"Ro'n i yn y coma am tua 20 awr cyn iddyn nhw wneud y caesarean section," meddai Ms McIntyre.

"Fe wnaeth ei churiad calon hi [ei merch] ostwng yn sylweddol ac fe ddywedon nhw wrth fy mhartner 'mae'n rhaid i ni ei chael hi mas nawr neu bydd hi ddim yn goroesi'."

Ffynhonnell y llun, Atlanta McIntyre
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Poppy ei geni yn pwyso tri phwys

Cafodd merch Ms McIntyre, Poppy, ei geni wedi 29 wythnos o feichiogrwydd, yn pwyso tri phwys.

Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Singleton yn Abertawe i gael y gofal gorau posib.

Pan ddeffrodd Ms McIntyre o'r coma dridiau'n ddiweddarach dywedodd ei bod hi wedi dychryn.

"Roedd e'n ofnadwy - peidio gwybod a oedd hi'n iawn," meddai.

"Roedd hi'n cael cymorth ar y pryd, ac mewn ysbyty hollol wahanol i fi."

Roedd partner Ms McIntyre wedi bod yn rhannu ei amser rhwng y ddau ysbyty, yn ei gweld hi a'r babi bach.

Ffynhonnell y llun, Atlanta McIntyre
Disgrifiad o’r llun,

Mae Poppy adref ac yn datblygu'n dda bellach, ond mae'n dal angen ei bwydo gyda thiwb

Tua 10 diwrnod ar ôl deffro o'r coma y cafodd Ms McIntyre gyfarfod ei merch am y tro cyntaf.

"Roedd e'n gyfnod ofnus iawn i ni, ond roedd e'n anhygoel ei gweld hi a sut roedd hi wedi datblygu yn yr ychydig ddyddiau yna," meddai.

Bellach yn 10 mis oed, ma Poppy adref ac yn datblygu'n dda.

Mae Ms McIntyre yn gobeithio y bydd siarad am ei phrofiadau hi o HG yn annog menywod beichiog eraill sy'n profi symptomau difrifol i geisio cael cymorth.

"Bydden i'n dweud wrth ferched eraill - dyw hi ddim yn normal i deimlo fel hyn," meddai.

Pynciau cysylltiedig