Cost mynydda yn 'syrcas llwyr', yn ôl y Cymro cyntaf i ddringo Everest

Mae Caradoc Jones, 66, wedi trefnu taith i ardal yr Himalayas ddiwedd y flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caradoc Jones, 66, wedi trefnu taith i ardal yr Himalayas ddiwedd y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r diwydiant antur a mynydda wedi troi'n "syrcas llwyr sy'n rhy gostus", yn ôl y Cymro cyntaf i ddringo mynydd Everest.

Fe lwyddodd Caradoc Jones, 66, i gyrraedd copa mynydd uchaf y byd 30 mlynedd yn ôl.

Ers hynny mae Mr Jones, sy'n wreiddiol o Bontrhydfendigaid, wedi parhau i ddringo mewn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y byd.

Ond mae'n dweud bod cwmnïau mawr yn mynnu gormod o bres a bod angen annog mwy i chwilio am "antur go iawn".

'Dringo Eryri yn grwt'

Pan gyrhaeddodd Caradoc Jones gopa Everest ar 23 Mai, 1995, roedd ei daith wedi costio £2,000-£3,000 iddo, meddai.

Mae'r gost gyfartalog o ddringo Everest bellach yn £40,000-£60,000.

"Mae'r cyhoedd yn dueddol o feddwl does dim hawl gynno chi i fynd allan oni bai bod chi wedi gwneud cwrs neu basio arholiad a phrynu yr holl kit 'ma," meddai.

"Mae rhaid inni fod yn ofalus bod ni ddim yn colli'r elfen o antur go iawn.

"[Mae'r gost] wedi troi yn syrcas llwyr ac mae bron dim byd i 'neud efo mynydda go iawn."

caradocFfynhonnell y llun, Caradoc Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradoc Jones ar gopa Everest - sy'n 8,849m (29,030 o droedfeddi) o uchder

Erbyn hyn mae Caradoc Jones yn byw yn ardal Helsby yn Sir Caer, ond mae'n dal i ddringo.

Gyda thaith i ardal yr Himalayas wedi'i chynllunio at ddiwedd y flwyddyn, dywedodd bod heriau newydd i'w canfod o hyd.

Dylai pobl sydd awydd antur, meddai, ganolbwyntio ar y broses o gynllunio gyda chyfeillion er mwyn magu sgiliau go iawn.

"Mi ddechreuais i drwy ddringo mynyddoedd yn Eryri pan yn grwt ifanc yna dysgu dringo iâ yn yr Alban, yr Alps ac roedd llawer o ymgyrchoedd cyn mynd i Everest," meddai.

"Mae pobl yn gwneud pethau llawer caletach yn dawel bach ym mhob cornel o'r byd, a fanno mae calon mynydda a dringo yn cario 'mlaen fi'n credu."