Yr awdur awtistig sydd eisiau 'rhoi llais i'r rhai sydd heb lais'

Finn a DewiFfynhonnell y llun, Bragitta Ozhga
  • Cyhoeddwyd

Eisiau lleihau'r rhwystrau i bobl fel hi allu cyhoeddi llyfrau oedd bwriad Bragitta Ozhga pan sefydlodd ei chwmni cyhoeddi ei hun.

A hithau'n awtistig, gydag ADHD ac anabledd cronig, roedd hi hefyd yn awyddus i roi llwyfan i straeon am gymeriadau ag anableddau ac anghenion gwahanol.

Mae ei llyfr cyntaf – Finn and Dewi – yn dilyn anturiaethau bachgen bach awtistig a'i ffrind newydd, sy'n ddraig, wrth iddyn nhw grwydro Cymru a gweld rhyfeddodau'r wlad drwy lygaid prif gymeriad sydd â niwroamrywiaeth.

Eisiau cael eu gweld

Mae Bragitta yn ddynes niwroamrywiol sy'n magu plentyn niwroamrywiol ac mae ganddi salwch sy'n dirywio'r asgwrn cefn, ond anaml mae hi'n gweld pobl fel hi yn y cyfryngau. Mae hyn yn arbennig o wir am lyfrau i blant, meddai.

"Doeddwn i methu dod o hyd i straeon plant lle'r oedd yr arwr yn awtistig neu gydag anghenion gwahanol, fel fi.

"Felly 'nes i benderfynu ei ysgrifennu fy hun; rhywbeth i ddangos i blant eu bod nhw'n perthyn a bod yna bŵer mewn bod yn wahanol. Dwi eisiau i fy llyfrau fod yn rhywle lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld ac yn ddiogel."

Yn y llyfr cyntaf, mae'r prif gymeriad, Finn, yn awtistig, a'i ffrind newydd yn ddraig o'r enw Dewi. Mae'r dewis o greadur yn arwyddocaol, eglurodd Bragitta.

"Dwi'n hoffi'r trosiad o sut mae pobl yn gweld tân ac awtistiaeth fel rhywbeth dinistriol, fel pan mae pobl yn cael meltdowns, a gallan nhw fod yn swnllyd a dychrynllyd.

"Ond mae tân hefyd yn gynnes, yn gallu amddiffyn ac yn creu. Dyna sut dwi'n gweld awtistiaeth; mae'n cael ei gamddeall yn aml, ond mae'n llawn creadigrwydd."

Bragitta OzhgaFfynhonnell y llun, Bragitta Ozhga
Disgrifiad o’r llun,

Bragitta Ozhga gyda'i llyfr cyntaf

Y bwriad yw ysgrifennu cyfres sy'n sôn am gyflyrau gwahanol ym mhob llyfr. Mae hyn am ddangos i'r darllenydd fod yna amrywiaeth o anghenion yn bodoli, a fod profiad pawb yn wahanol, meddai.

"Dwi wedi ysgrifennu gyntaf am awtistiaeth oherwydd dyna dwi'n gwybod amdano oherwydd fy mhrofiad i a fy mab. Ond mae 'na brofiadau di-ri mas yna, a dwi eisiau dangos profiadau go iawn, a dangos mor wahanol ydyn nhw.

"Dynes go iawn, 79 oed, sydd wedi ysbrydoli'r cymeriad Carol yn yr ail lyfr, sy'n colli ei chlyw; roedd wedi siarad gyda fi am yr heriau roedd hi wedi eu profi, yn tyfu lan yn fyddar.

"Dwi wedi profi pa mor anodd ydi hi i fyw mewn byd sydd ddim wedi ei wneud i ti, a sut dydi pobl ddim yn deall.

"Mae'n help i wybod fod yna rywun yna sy'n mynd drwy beth ti'n mynd drwy. Galli di wneud y profiad ychydig llai brawychus iddyn nhw nag oedd e i ti.

"Mae cynrychiolaeth fel hyn mor bwysig."

Cymru - nefoedd ar y ddaear

Yn wreiddiol o Zimbabwe, roedd yr awydd ganddi erioed i fyw yng Nghymru, eglurodd. Bellach yn byw ym Mhort Talbot, mae ei chariad at y wlad i'w weld ym mhob tudalen o'i llyfrau.

"Y tro cynta' ddes i yma, o'n i'n naw oed, ac aeth fy modryb â fi i Rosili. Dwi'n cofio edrych ar y lle a meddwl, 'rhaid bod nefoedd yn edrych fel hyn'.

"O'n i eisiau i bobl fod yn falch a syrthio mewn cariad gyda'r lle eto, fel 'nes i, ac i atgoffa pobl faint o hud a hanes sydd yma."

Dyna pam bod cymeriadau pob llyfr yn y gyfres yn crwydro i rai o leoliadau harddaf Cymru, gyda Finn yn cael profi'r plancton bio-ymoleuol (bio-illuminescent) llachar ar draeth Aberafan, a rhaeadr Sgwd yr Eira.

Mae hefyd gwybodaeth ddefnyddiol yn y llyfr am sut i gyrraedd y mannau yma.

Mae hygyrchedd wedi bod yn rhywbeth mae Bragitta wedi gorfod ei ystyried fwy yn y blynyddoedd diwethaf, ers cael salwch sydd yn dirywio ei hasgwrn cefn:

"Es i o rywun oedd yn caru marchogaeth, hwylio, dringo a neidio bungee i rywun sydd ddim yn gallu cerdded llawer. Nawr dwi'n gorfod meddwl 'alla i fynd yna? Fydd e rhy bell i mi gerdded?'

"Felly mae hygyrchedd yn rhywbeth rhaid i ni feddwl amdano. Dyna pam 'nes i'r canllaw bach, jest i atgoffa am bobl sydd ag anableddau corfforol hefyd.

"O'n i'n methu peidio gallu mynd a gweld llefydd, ond nawr dwi'n gallu ail-fyw'r profiadau dwi wedi eu cael a theithio i'r llefydd yma eto drwy eu paentio."

'Ti ddim angen deall pawb'

Ynghyd ag ysgrifennu a darlunio'r gyfres lyfrau Magical Maps, mae Bragitta hefyd wedi sefydlu ei chwmni cyhoeddi ei hun, er mwyn cefnogi awduron eraill sydd ag anableddau neu anghenion gwahanol; carfan o'r gymdeithas sydd ddim yn cael eu clywed yn aml, meddai, a hynny am fwy nag un rheswm.

"Mae'r ochr gyhoeddi i berson awtistig neu anabl mor flinedig a phoenus; navigatio'r broses o ysgrifennu llythyrau a mynd ar ôl asiantau... ti'n gorfod neidio drwy hoops yn aml.

"Ac os ti'n llwyddo, ti methu bod yn sicr dy fod ti am gael cadw dy weledigaeth greadigol di.

"Dwi'n cofio ysgrifennu cymeriad pan o'n i'n 18 oed, ac roedd cwmni cyhoeddi eisiau i mi ei newid hi ac egluro pam oedd hi'n gwneud y pethau roedd hi'n eu gwneud.

"Roedden nhw'n dweud fyddai 'na neb yn uniaethu gyda hi. Ond roedd wedi ei seilio arna i, ac mae gen i ADHD; does dim angen i mi egluro fy hun.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n iawn i gael cymeriadau ti ddim falle'n eu deall, ond ti dal yn gallu eu hoffi. Ti ddim angen deall pawb."

Llyfr Finn and DewiFfynhonnell y llun, Bragitta Ozhga

Sefydlu Moon Elf Publishing yw ymgais Bragitta i newid y diwydiant cyhoeddi o'r tu mewn, sydd ddim yn draddodiadol wedi bod yn un cynhwysol iawn.

"Dwi'n meddwl fod llawer o ddiwydiannau yn gallu mynd yn sownd yn sut oedd pethau'n arfer cael eu gwneud," eglurai.

"Ond dwi'n meddwl fod angen newid, ac i'r diwydiant cyhoeddi fod yn llawer mwy cynhwysol o ran y gefnogaeth sy'n cael ei roi er mwyn i'r bobl greadigol yma allu dod â'u gweledigaeth yn fyw.

"Dwi eisiau rhoi llais i'r holl bobl sy'n teimlo fel eu bod heb lais."

Gweld y prydferthwch mewn gwahaniaeth

A hithau wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf, a mwy o lyfrau ganddi hi ac awduron eraill ar y gweill, gobaith Bragitta yw i barhau i roi llwyfan i eraill, ac i gael cynrychiolaeth deg i bobl ag anghenion gwahanol.

"Mae'r straeon yma i bawb, ddim jest i bobl anabl. Gallwch chi fwynhau'r stori, a dysgu ohono fe.

"Mae bioamrywiaeth yn hanfodol – alli di ddim cael popeth yr un fath. Falle fod pobl yn wahanol, ond mae hynny dal yn brydferth.

"Dwi'n gobeithio fydd pobl yn dechrau gweld y prydferthwch, nid yn unig yn y wlad anhygoel ry'n ni'n byw ynddi, ond hefyd yn eu hunain ac yn eraill."

Pynciau cysylltiedig