'Dwi eisiau plant ond dwi'n ofni peidio cymryd y bilsen'

Weithiau mae symptomau PMDD Sera Mai Williams yn para pythefnos
- Cyhoeddwyd
Mae pob mis yn wahanol i Sera Mai Williams o Ddwygyfylchi yn Sir Conwy.
Yn aml mae'n teimlo'n isel, methu codi, ac mae'n anghofus am gyfnodau mawr o'r diwrnod. Weithiau mae'r symptomau yn para pythefnos.
Cafodd hi ddiagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif – neu PMDD – ddwy flynedd yn ôl.
Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar rhwng 6% ac 8% o fenywod yn ystod y mislif.
Roedd hi wedi teimlo bod rhywbeth o'i le am 12 mlynedd.
"O 'na rhywbeth jest ddim yn iawn ers i fi eni'r mab yn 2021," meddai.
"O'n i'n syffro gydag iselder, ond dim o hyd. O'n i'n gweld rhyw batrwm ac o'n i'n mynd yn ôl a 'mlaen at y GP.
"Dwi'n meddwl o'n i'n ffodus ac yn lwcus bod y doctor wedi dweud un diwrnod 'have you ever heard of PMDD?'"
'Dwi'n mynd yn isel iawn'
Gan fod y symptomau'n ormod, mae Sera Mai ar hyn o bryd wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'i gwaith.
"Dwi'n mynd yn isel iawn, a dwi'm yn cofio dim byd dwi'n hel meddyliau rili cas, rili creulon.
"Dwi ddim yn gallu dod allan o'r mood digalon 'ma, mae'n rili anodd mae'n draining."
Y brif driniaeth sy'n cael ei chynnig ar gyfer y cyflwr yw dulliau atal cenhedlu.

Os nad yw Marianne Barry yn cymryd ei philsen atal cenhedlu, mae'n cael teimladau o orbryder
Os nad yw Marianne Barry, 29 yn cymryd ei philsen mae'n cael teimladau gorbryderus a hyd yn oed yn hunanladdol.
Mae'n dweud bod y bilsen atal cenhedlu yn help iddi reoli ei symptomau.
Er bod Marianne eisiau bod yn fam yn y dyfodol, mae'n dweud bod y syniad o beidio cymryd ei meddyginiaethau yn gwneud iddi ailfeddwl.
"Does dim sicrwydd bo' chi'n dod yn feichiog yn syth, chi ddim yn siŵr faint o amser mae'n mynd i gymryd.
"Dwi eisiau cael plentyn ond dwi hefyd eisiau bod yn iawn yn feddyliol.
"Dwi'n ofni peidio cymryd y bilsen nawr."
12 mlynedd ar gyfartaledd am ddiagnosis
Mae arbenigwyr yn dweud bod opsiynau triniaeth yn brin, a gall hyn fod "yn sialens i fenywod sydd eisiau cenhedlu".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n rhoi arian tuag at y Cynllun Iechyd i Fenywod.
Mae PMDD yn effeithio rhwng 6% ac 8% o fenywod yn y Deyrnas Unedig ac mae'n cymryd 12 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis.

I fenywod fel Marianne, sydd eisiau plant yn y dyfodol, dyw peidio cymryd ei meddyginiaeth ddim yn opsiwn ar hyn o bryd
Cafodd Marianne, sy'n gynorthwyydd dysgu yng Nghaerdydd, ddiagnosis ddwy flynedd yn ôl pan roedd ei symptomau ar eu gwaethaf.
"Byswn i'n codi yn y bore ac o'n i'n teimlo'r peth yma'n byrlymu tu fewn i fi.
"Roedd e fel petai fy ymennydd yn boeth gyda theimladau o fod yn ypsét, yn grac ac yn orbryderus – roedd y pryder yn ofnadwy.
"O'n i'n gallu teimlo fe ac o'n i'n gwybod bod fy mislif ar y ffordd."
Cyn iddi gael triniaeth, dywedodd bod y ffaith bod ganddi'r symptomau bob mis yn golygu ei bod hi mewn cylch cyson o bryderu.
"Mae bron yn teimlo fel bo' ti'n 'neud popeth fyny, achos ti'n teimlo'n isel iawn am gyfnod ac wedyn mae pethau'n dechrau gwella unwaith i ti gyrraedd cyfnod o ryddhau wyau.
"Mae rhywun yn teimlo bach yn wallgo', ac wedyn mae popeth yn iawn."

Yn ôl Dr Llinos Roberts, mae PMDD yn gallu bod yn anodd i'w adnabod ac yn aml mae pobl yn cael diagnosis o iselder
Mae'r meddyg teulu Llinos Roberts yn credu mai diffyg ymchwil sy'n gyfrifol am y ffaith ei bod hi'n cymryd amser hir i gael diagnosis yng Nghymru.
"Dwi ddim yn teimlo bod y math o driniaeth 'da ni'n gallu cynnig i fenywod yn ddigonol, ac yn aml mae menywod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael triniaeth sydd wirioneddol yn mynd i wraidd y broblem," meddai.
"Dwi'n meddwl bod hyn yn adlewyrchu'r diffyg ymchwil sydd wedi ei wneud ar gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod yn benodol."
Dulliau atal cenhedlu yw'r prif opsiwn i fenywod sy'n byw gyda PMDD.
Beth i'w wneud os oes gennych chi PMDD?
Yn ôl Dr Roberts, mae PMDD yn gallu bod yn anodd i'w adnabod ac yn aml mae pobl yn cael diagnosis o iselder.
Mae hi'n awgrymu i fenywod sy'n meddwl bod ganddyn nhw PMDD i gadw dyddiadur o'u symptomau er mwyn gweld a oes yna batrwm.
Yn anffodus does dim ateb syml i fenywod sydd â PMDD ac sydd eisiau plant.
"Mae'n gallu bod yn hynod o anodd i ferched sydd eisiau plant yn enwedig pan maen nhw'n gwybod y gall peidio defnyddio dulliau atal cenhedlu waethygu eu symptomau PMDD," meddai Dr Roberts.
"Os yw rhywun yn dioddef o symptomau difrifol, mae'n fater o bwyso a mesur a ddylid peidio cymryd y meddyginiaethau."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Cynllun Iechyd i Fenywod "yn amlinellu pa mor benderfynol ydyn ni o wella diagnosis, triniaeth ac ymwybyddiaeth o gyflyrau sy'n effeithio menywod".
"Mae PMDD yn cael ei gynnwys fel rhan o'r adran cyflyrau mislif yn y cynllun yma," medd llefarydd.
"Bydd £3m yn cael ei wario ar y cynllun."
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd13 Mawrth