Caradoc Jones: 30 mlynedd ers i Gymro ddringo Everest

- Cyhoeddwyd
Mae mis yma'n nodi 30 mlynedd ers i'r Cymro, Caradoc Jones, ddringo i gopa Everest.
Caradoc, o Bontrhydfendigaid, oedd y Cymro cyntaf, a'r 724ain person yn y byd i gyflawni'r gamp.
Fe gyrhaeddodd Caradoc y copa gyda Michael Knakkergaard Jørgensen, a greodd hanes ei hun gan mai fo oedd y person cyntaf o Ddenmarc i gyrraedd y copa. Bu farw Jørgensen mewn damwain yn yr Himalaya yn 1999.
Ar ddydd Gwener, 16 Mai, fe siaradodd Caradoc gyda rhaglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru am ei atgofion o'r hyn a gyflawnodd 30 mlynedd yn ôl.
"Rhan bwysig o 'mywyd i"
"Odd e'n rhan bwysig o 'mywyd i, ac yn dal i fod mewn ffordd – rwy'n meddwl amdano fe'n eithaf aml", meddai Caradoc.
"O' chi ddim yn sylwi ar y pryd y bydde fe'n dod yn ddarn mor bwysig o'ch bywyd chi, ond mae pobl yng Nghymru wedi bod yn garedig iawn dros y blynyddoedd, ac yn ymddiddori yn yr hanes."

Mae mynydd Everest yn 8,849m o uchder, sef 29,030 o droedfeddi
Er mai dyn ifanc 33 mlwydd oed oedd Caradoc pan ddringodd Everest, roedd yn fynyddwr profiadol iawn.
"O'n i wedi bod yn dringo ers o'n i'n grwt ifanc, ac o'n i wedi gwneud llawer o fynyddoedd byd-eang erbyn hynny, a oedd yn fy rhoi i mewn sefyllfa weddol hyderus."
10 wythnos o baratoi yn yr Himalaya
Wedi i Caradoc a'r tîm gyrraedd ardal yr Himalaya roedd 10 wythnos o waith paratoi yno, dan arweiniad y mynyddwr o Loegr, Henry Todd.
"Oedden ni am fis yn yr ochr ddeheuol yn Nepal yn dringo mynyddoedd llai'r ardal fel Pokalde ac Island Peake. Y bwriad oedd addasu i'r uchder a chodi'r ffitrwydd a chaledu yn gyffredinol, ac wedyn yna mynd rownd i'r ochr ogleddol yn Nhibet i wneud yr ymgais ei hunan. Roedden ni am chwe wythnos ar yr ochr ogleddol.
"Odden ni'n rhan o dîm rhyngwladol odd yn cael ei arwain gan hen ffrind oedd wedi creu busnes i fynd â phobl at Everest, felly o'n i'n ffodus i gael y cyfle efo fe. Ond oedd gennym ni'r rhyddid i wneud yr ymgais yn ein steil ei hunan o fewn y tîm 'na, a gwneud y route heb dywysydd mwy neu lai."

Mynyddoedd trawiadol yr Himalaya yn gefndir i daith Caradoc
A oedd Caradoc yn hyderus o'i gwneud hi i'r copa?
"Yn eitha' hyderus achos o'n i'n deall y sefyllfa: digon o brofiad, wedi bod mewn sefyllfa anodd ambell i waith, ond buon ni'n anffodus gyda'r tywydd felly odd e yn y fantol tan y diwedd."
Roedd sherpas yn rhan o'r tîm i gario llwythi, ond roedd Caradoc hefyd yn cario nwyddau er mwyn gosod y camps, cario'r bwyd a'r nwy hefyd. Roedd hyn yn helpu i addasu i'r uchder cyn mynd i'r copa.
Partneriaeth â Jørgensen
"Serch bod ni ddim yn nabod ein gilydd, cyn y daith daethon ni'n ffrindiau mawr, ac oedd Michael yn hapus i wneud e mewn steil heb arweinydd.
"Y broblem fwyaf gafon ni oedd bo' ni'n anffodus gyda'r tywydd. Erbyn i ni gyrraedd y camp uchaf roedd y tywydd wedi gwaethygu ac roedd gwyntoedd cryf. Oedden ni ar 8,300m erbyn hynny, a heb ocsigen.
"Roedden ni wedi gobeithio gwneud y cyfan heb ocsigen, ond gafon ni'n dal yno am dair noson mewn storm felly roedd rhaid dechrau defnyddio ocsigen."
Felly, sut deimlad oedd hi i fod ar gopa'r byd?
"Oedd e yn y fantol tan y diwedd. Oedden ni wedi bod yn chwilio am fwyd a nwy er mwyn toddi'r iâ i yfed. O' chi methu sefyll rhy hir ar y copa achos oedd rhaid dychwelyd 'nôl i'r gwersyll uchaf cyn iddo fe nosi.
"Cafon ni rhyw 20 munud i dynnu lluniau, a sylweddoli o'r uchder yna bo chi'n gallu gweld y gorwel yn grwn, ac mae hynny'n cael effaith mawr arnoch chi.
"Hefyd o' chi'n sylwi bod chi wedi camu drwy i fan ble roedd ddim posib byw bron heb ocsigen ychwanegol – roedd hynny'n rhywbeth pwerus iawn."

Caradoc wrth babelli un o'r gwersylloedd ar y ffordd fyny Everst
Y Cymro cyntaf
"O'n i'n ffodus iawn achos oedd Eric Jones yno'r un pryd, ac os oedd unrhyw un yn haeddu cael y clod yna fe oedd. Roedd e'n anffodus wedi cael salwch yn ystod yr ymgyrch, a ges i'r cyfle i fynd am y copa gyda Eric yn cynorthwyo."
Dywedodd Caradoc ei fod hi rhywfaint yn haws dod lawr y mynydd nac yr oedd hi i fynd fyny.
"O'n i weddol hapus ar y ffordd 'nôl lawr, ond erbyn i Michael ddihuno yn y bore oedd e wedi mynd yn ddall oherwydd effaith yr haul, achos oedd e'n gorfod tynnu ei fasg ocsigen i ffwrdd cymaint o weithiau achos odd y pibelli'n rhewi yn yr oerfel.
"Oedd rhaid ni dorri asprin i lan a'i roi mewn i laeth a'i roi yn ei lygaid e, a rhoi dau neu dri phâr o sbectols dros ei lygaid e cyn bod e'n gallu gweld i gerdded lawr. Aethon ni lawr yn araf bach ar yr ochr ogleddol."

Caradoc gyda un arall o fynyddwyr enwog Cymru, Eric Jones
Dal i ddringo
A yw Caradoc yn cael ei demtio i fynd yn ôl i fynyddoedd fel Everest?
"Ambell i waith, ond mae cymaint o fynyddoedd eraill sydd heb eu dringo yn y byd a ni'n dal i chwilio am rheiny yng ngwahanol lefydd, felly mae angen treulio amser at rheiny."
Ond dywed Caradoc ei fod dal yn parhau i ddringo, a bod her yn ei wynebu mewn ychydig fisoedd.
"Dal wrthi, drwy'r amser, yn trio cadw'n ffit pan ddaw'r cyfleon – ni'n dychwelyd i'r Himalayas nawr yn yr hydref."

Crib serth ar y ffordd i gopa Everest
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018