Taith fotorbeics i gofio'r enwog Evel Knievel

Grŵp Ride Cymru Knievels
- Cyhoeddwyd
Ers dros ddegawd mae beicwyr brwdfrydig yn teithio ffyrdd Cymru wedi gwisgo fel y dyn styntiau enwog, Evel Knievel.
Grŵp yw'r rhain o'r enw Ride Cymru Knievels sy'n trefnu teithiau motor-beics er mwyn codi arian at elusennau.
Ar gyfer eu taith ddiweddar, bydd 50 aelod yn teithio cyfanswm o 730 milltir o amgylch Cymru mewn dau ddiwrnod wedi gwisgo fel Evel Knievel.
Mae'n 50 mlynedd ers i'r styntiwr lwyddo i neidio dros 13 o fysus coch Llundain yn Wembley ar 26 Mai 1975.
I ddangos eu gwerthfawrogiad bydd teulu'r diweddar Evel Knievel yn dod i Gorwen, sef man cychwyn y daith ac yn cymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau lleol sydd wedi'u trefnu.
Un sy'n aelod o'r grŵp yw Dafydd Evans, ac fe soniodd ar raglen Caryl ar BBC Radio Cymru am y grŵp motor-beics a'r daith.

Roedd yr Americanwr Evel Knievel yn boblogaidd iawn yn 1970au fel styntiwr
Un o Fachynlleth yw Dafydd yn wreiddiol ac fe ddywedodd ei fod wedi disgyn mewn cariad â motor-beics pan oedd yn ei arddegau.
"Nes i dyfu fyny ym Mach ac roedd 'na draddodiad motor-beics yn lleol, rydw i yn aelod o'r grŵp ac fe fyddai yng Nghorwen ddydd Gwener ond fyddai ddim yn mynd ar y daith eleni," meddai.
Bydd modd adnabod y beicwyr yn syth gan y bydden nhw wedi gwisgo fel Evel Knievel.
"Ers rhyw 2015 rydan ni'n gwisgo fel Evel Knievel, mae gynom ni'r jumpsuit gwyn a'r clogyn gyda sêr baner America arni, rydan ni'n trio creu rhyw awyrgylch carnifal," meddai.
Roedd Evel Knievel yn ffigwr poblogaidd iawn yn y 1970au. Roedd tegan ohono ar gefn ei fotor-beic yn un o'r pethau mwyaf poblogaidd i blant chwarae gyda nhw yn y cyfnod.
Mae Dafydd yn cofio'r tegan yn iawn ac roedd o'n pwysleisio gwerth y tegan heddiw.
"Dwi'n cofio'r tegan yn iawn ac os oes 'na bobl sydd hefo'r tegan mewn cyflwr da a dal yn ei focs, yna dwi'n siŵr y base fo'n werth rhywbeth heddiw," meddai.
Mae stỳnt Knievel yn stadiwm Wembley yn 1975, yn parhau i fod yn enwog hyd heddiw.
Roedd y stadiwm yn llawn i'w weld yn neidio dros 13 o fysus coch Llundain ar ei fotor-beic. Yn dilyn y naid fe gododd a chyhoeddi i'r dorf mai dyna oedd ei naid olaf ac y byddai'n ymddeol yn syth.

Mae 50 mlynedd ers i Evel Knievel ymdrechu i neidio dros y bysiau yn stadiwm Wembley
Bu farw Evel Knievel yn 2007 ond bydd ei dri o blant yng Nghorwen i ateb cwestiynau mewn sesiwn holi ac ateb arbennig cyn teithio i Lundain dros ŵyl y banc er mwyn ymweld â Wembley.
"Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfarfod y teulu ond mae gan y grŵp daith hir o'u blaen cyn iddyn nhw hefyd fynd efo'r teulu am Lundain ddydd Sul," meddai.
"Bydd y daith yn cychwyn ym Mhontcysyllte fore Gwener ac yn teithio lawr am Y Trallwng, Llanelwedd, Y Fenni, Barri, Port Talbot, Llanelli, Caerfyrddin, Dinbych y Pysgod cyn gorffen yn Abergwaun.
"Dydd Sadwrn wedyn mynd o Abergwaun thuag at Aberystwyth, Dolgellau, Pwllheli, Caernarfon, Ynys Môn, Conwy, Fflint, Wrecsam a gorffen yng Nghroesoswallt."
Ers 2012 mae'r grŵp wedi hel dros £280,000 tuag at achosion da a'r bwriad yw bydd modd i bobl gyfrannu wrth i'r criw stopio mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Cymru tra ar eu taith.
Mae gwybodaeth a map y daith i'w weld ar dudalen y grŵp ar y gwefannau cymdeithasol.
Gobaith y criw eleni yw cofio eu harwr, wnaeth ymdrechu a llwyddo i neidio dros y bysus 50 mlynedd yn ôl.
Bydd cyfle iddyn nhw ddod i adnabod Evel Knievel neu Robert Craig Knievel yn well drwy gwrdd â'i deulu a chasglu arian i achosion da ar yr un pryd.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd9 Medi 2024