Chwaraewyr rhyngwladol Uwch Gynghrair Cymru

Connor RobertsFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts, oedd efo'r Seintiau Newydd o 2018 i 2025

  • Cyhoeddwyd

Daeth y newyddion yr wythnos yma bod golwr a oedd efo'r Seintiau Newydd yn y Cymru Premier tan eleni, Connor Roberts, wedi ei ddewis gan Craig Bellamy ar gyfer carfan hyfforddi Cymru.

Mae nifer o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ar ddechrau ac ar ddiwedd eu gyrfa.

Mae rhain yn cynnwys Dave Edwards, Jazz Richards, Shaun MacDonald, Neville Southall, Mark Delaney, Clayton Blackmore, David Cotterill, Mark Aizlewood, Andy Legg, Jason Bowen, Owain Tudur Jones a Ben Cabango.

Mae hefyd chwaraewyr fel Steve Evans a Glyn Garner sydd wedi cynrychioli Cymru tra'n chwarae ar lefel uchaf pyramid pêl-droed Cymru.

Ond beth am y chwaraewyr sydd wedi cynrychioli gwledydd tramor tra'n chwarae dros glybiau yng Nghymru? Dyma ddetholiad o'r chwaraewyr hynny.

Alec Mudimu

Daw Alec Mudimu o Harare yn Zimbabwe ac mae wedi chwarae pêl-droed yn nifer o wledydd - Cymru, Lloegr, Tunisia, Twrci, Georgia a Moldova.

Rhwng 2017 a 2020 roedd yn chwarae dros Dderwyddon Cefn yn Uwch Gynghrair Cymru, ac yn nhymor 2022/23 chwaraeodd dros Gaernarfon. Treuliodd amser gyda Fflint yn 2023 hefyd.

Alec MudimuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alec Mudimu'n chwarae dros Zimbabwe yn erbyn Yr Aifft

Luke Tabone

Mae Luke Tabone o ynys Malta'n chwarae dros Hwlffordd ers 2023.

Arwyddodd am gyfnod gydag academi ieuenctid Burnley, ond mae wedi chwarae ei bêl-droed i gyd yng Nghymru a Malta.

Enillodd ei gap cyntaf dros Malta mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Groeg ym mis Mehefin 2024.

Luke TaboneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tabone yn penio'r bel yn y golled 2-0 yn erbyn Groeg y llynedd

Greg Draper

Mae Greg Draper yn un o ymosodwyr gorau hanes Uwch Gynghrair Cymru. Chwaraeodd am ddegawd dros Y Seintiau Newydd, gan sgorio 203 o goliau mewn 341 o gemau.

Cafodd gap dros dîm cyntaf Seland Newydd yn 2008, mewn buddugoliaeth yn erbyn Ffiji yn Lautoka. Ond fe chwaraeodd chwe gwaith dros y tîm dan 23, gan sgorio tair gôl - yn cynnwys y gôl fuddugol yn y rownd ragbrofol derfynol i yrru Seland Newydd i'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Greg DraperFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar, mae Draper wedi bod yn hyfforddi timau iau'r Seintiau Newydd

David Artell

Daw'r amddiffynnwr David Artell o Rotherham yn wreiddiol, ac fe chwaraeodd dros nifer o dimau yng nghynghrair Lloegr, gan gynnwys Mansfield Town, Northampton a Port Vale.

Chwaraeodd dros Wrecsam yn 2013/14, cyn symud i'r Bala a Phort Talbot.

Pan roedd yn chwarae dros Y Bala fe gynrychiolodd Gibraltar saith gwaith.

Mae bellach yn rheolwr ar Grimsby Town yn Ail Adran Lloegr.

Dave ArtellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Artell ei gapiau rhyngwladol i gyd yn 2014 a 2015

Theo Wharton

Cafodd Wharton ei eni yng Nghwmbrân yn 1994 ac roedd ar lyfrau Caerdydd pan oedd yn blentyn. Gadawodd Caerdydd yn 2017 ac ymuno ag Efrog, ac yna yn 2018 arwyddodd dros Henffordd.

Cafodd dymor gyda'r Barri ac yna tymor gyda'r Drenewydd. Mae bellach gyda Llanelli, gan ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn 2024/25.

Chwaraeodd dros Gymru dan 17, dan 19 a dan 21, ond i Sant Kitts-Nevis chwaraeodd yn yr oedran hŷn. Hyd yma mae ganddo 21 o gapiau rhyngwladol, ac mae wedi sgorio dwy gôl.

Theo WhartonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Theo Wharton yn chwarae dros dîm Cymru dan 19 yn erbyn Yr Almaen, 10 Medi 2012

Nathaniel Jarvis

Cafodd Jarvis ei eni yng Nghaerdydd, aeth i Ysgol Plasmawr ac mae'n un arall ddaeth drwy academi'r Adair Gleision. Yn 2010/11 roedd gyda Southend United yn Ail Adran Lloegr.

Chwaraeodd dros Gasnewydd a nifer o dimau eraill yng Nghyngres Lloegr, cyn ymuno â'r Barri yn 2020.

Yn 2014 fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Antiga a Barbuda, ac mae bellach wedi 13 o gapiau a sgorio tair gôl.

Nat JarvisFfynhonnell y llun, Barry Town
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jarvis yn gymwys i chwarae dros Antiga a Barbuda oherwydd daw ei daid o'r wlad

Anton Nelson

Chwaraeodd Anton Nelson dros Lanelli yn 2018/19, a tra yr oedd yno gafodd ei alw i garfan Ynysoedd Caiman.

Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Montserrat ar 22 Mawrth, 2019.

Anton NelsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Neloson Llanelli yn 2019 gan ymuno â Sunset FC yn Ynysoedd Caiman

Mika Chunuonsee

Cafodd Mika Chunuonsee ei eni ym Mhen-y-bont, ei fam yn Gymraes a'i dad o Wlad Thai. Chwaraeodd dros dîm dan 18 Caerdydd, cyn chwarae i Fryntirion, Castell Newydd ac Lido Afan.

Chwaraeodd dros nifer o dimau yng nghyngrair Gwlad Thai wedi iddo adael Cymru, fel Suphanburi F.C., Customs United F.C. a Bangkok United F.C.

Cafodd saith cap dros Gwlad Thai rhwng 2015 a 2019.

Mika ChunuonseeFfynhonnell y llun, fussball.com
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mika Chunuonsee bellach yn 36 oed ac yn chwarae dros Samui United F.C. yn nhyrdedd adran Gwlad Thai

Julian Schwarzer

Mae Julian Schwarzer yn fab i un o gôl-geidwad gorau Uwch Gynghrair Lloegr, Mark Schwarzer. Cafodd Julian ei eni yng ngogledd Lloegr yn 1999 tra roedd ei dad yn chwarae dros Middlesborough.

Mae ei fam, Paloma García, o dras Ffilipino, ac felly mae Schwarzer yn gymwys i chwarae dros Y Pilipinas.

Ym mis Ionawr 2025 fe arwyddodd Julian fel gôl-dweidad i'r Drenewydd, ac mae bellach wedi ennill tri chap rhyngwladol.

Julian SchwarzerFfynhonnell y llun, Arema FC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Julian Schwarzer ei eni yn Harrogate yn Sir Efrog

Adam Wilson

Daw Adam Wilson o ardal Newcastle yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ac roedd gydag academi'r pïod pan oedd yn iau.

Arwyddodd i'r Seintiau Newydd yn 2022 cyn mynd ar fenthyg gyda Bradford City yn Ail Adran Lloegr yn 2023. Mae yn ôl gyda'r Seintiau ar fenthyg o Bradford, ac mae newydd ennill Pencampwriaeth Cymru am yr ail waith.

Chwaraeodd dros Loegr dan 18, ond mae hefyd wedi ei enwi yng ngharfan Kenya.

Adam WilsonFfynhonnell y llun, TNS
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Wilson 41 o gemau dros Y Seintiau yn nhymor 2024/25

Sam Durrant

Cafodd Sam Durrant ei eni yn Lerpwl yn 2002 - ei dad yn Sais a'i fam o dras Tamil Sri Lanka.

Ymunodd â Sheffield Wednesday yn 2022, cyn arwyddo dros Dundalk F.C. yn Iwerddon y flwyddyn ganlynol. Ym mis Chwefror 2025 arwyddodd dros Gei Connah.

Chwaraeodd dros Sri Lanka am y tro cyntaf ym mis Medi 2024 ac mae wedi ennill saith cap ers hynny.

Sam DurrantFfynhonnell y llun, Cei Connah
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Durrant gyda thimau iau Everton, Lerpwl a Blackburn Rovers

Curtis Jemmett Hutson

Mae Curtis Huston yn dod o ardal Trelluest (Grangetown) o Gaerdydd ac mae wedi chwarae dros nifer o glybiau yng Nghymru; Port Talbot, Casnewydd, Y Barri, Caerau Ely, Goytre, Pen-y-bont, Merthyr a Llanelli. Mae bellach gyda Frome Town.

Pan oedd gyda Merthyr yn 2023 cafodd ei alw i garfan genedlaethol Barbados, ac mae wedi ennill pedwar cap dros y wlad.

Curtis HutsonFfynhonnell y llun, Lewis Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Curtis Hutson yn gymwys i chwarae dros Barbados drwy ei dad

Ibou Touray

Daw Ibou Touray o Lerpwl ac roedd gyda charfan ieuenctid Everton. Chwaraeodd dros Gaer, Nantwich Town a Salford City, cyn ymuno a Stockport County, ble mae hyd heddiw.

Ond yn 2015/16 roedd yn chwarae dros Y Rhyl, pan ddechreuodd ei yrfa ryngwladol gyda Gambia. Mae bellach wedi ennill 23 o gapiau rhyngwladol.

Ibou TourayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ibou Touray (ar y dde) yn cynrychioli Gambia yn erbyn Mali, 16 Ionawr 2022

Pynciau cysylltiedig