Hel atgofion am leoliadau coll Cymru

Mae pafiliwn a phier ysblennydd Y Rhyl bellach wedi diflannu
- Cyhoeddwyd
Sut beth fyddai cofio rhywle sydd bellach ddim yn bodoli?
Dyna sy'n cael ei drafod yn y gyfres Vanished Wales ar ITV; y llefydd hynny sydd wedi diflannu oddi ar fapiau Cymru.
Ac yn ôl Owain Meredith, archifydd ITV Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae wedi dysgu fod Cymru yn llawn lleoliadau coll:
"[Wrth] edrych drwy'r archif, dod ar draws y pentref hudol coll 'ma uwchben Dowlais o'r enw Pantywaen; strydoedd, tafarn, ysgol, capel – do'n i erioed wedi clywed am y lle.

Pentref Pantywaen a gafodd ei ddymchwel ar gyfer glo brig
"Edrych am y lle ar y map ac roedd y lle wedi diflannu'n llwyr, a methu credu fod lle mor fawr wedi diflannu'n gyfan gwbl.
"Dyma ysgogodd fi i ddysgu mwy am y lle – a ffeindio allan fod 'na gymaint o lefydd eraill yng Nghymru yn rhannu'r un stori."

Neuadd y Brenin, Aberystwyth - mae 'na fflatiau nawr lle'r oedd yr adeilad Art Deco trawiadol
Dyma'r ddiweddaraf o bedair cyfres o Vanished Wales, pob un yn adrodd 16 stori wahanol, gyda phobl yn rhannu eu hatgofion am y lle a'r newidiadau a ddigwyddodd i'w cymuned.
"'Dan ni'n edrych yn ôl ar gymdeithasau, ffatrïoedd, adeiladau; llefydd o bwys sydd wedi diflannu'n gyfan gwbl oddi ar y map. Y peth pwysig i ni ydi ei fod o o fewn cof pobl sy'n cofio'r lle cyn iddo ddiflannu.
"Mae'n anhygoel pa mor deinamig mae Cymru wedi bod yn y 60 mlynedd dwytha. Mae 'na gymaint o lefydd a phentrefi cyfan wedi diflannu a ffatrïoedd; mae'n syfrdanol faint o newid sydd wedi bod mewn cymdeithas."
"Mae'r holl straeon mae pobl yn eu cofio i gyd yn diflannu wrth i bentref diflannu"
Owain Meredith o ITV Cymru yn trafod y gyfres Vanished Wales ar BBC Radio Cymru
Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i gofnodi'r atgofion yma cyn iddyn nhw gael eu colli am byth, eglurodd Owain.
"Mae gan bob ardal a charreg a phob troad yn yr afon ei stori a'i hanes. Pan mae'r pentrefi 'ma'n diflannu, mae pob hanes o beth ddigwyddodd ar bob cornel stryd, ym mha dŷ, mewn tafarn – yr holl straeon mae pobl yn eu cofio i gyd yn diflannu wrth i bentref diflannu.
"Mae 'na rywbeth dirdynnol iawn am fynd yn ôl a chlywed yr holl straeon yn dod yn fyw eto, am rywle sydd ddim yna bellach."
Oes gennych chi atgofion am y lleoliadau yma?
Ffordd osgoi Caernarfon - cafodd rhan fawr o dref Caernarfon ei dymchwel ddiwedd yr 1970au er mwyn ei hadeiladu, gan hollti'r dref yn ddwy
Cymerodd ffordd osgoi Caernarfon ddwy flynedd i'w hadeiladu
Awyrendy Pengam – wyddoch chi mai hwn oedd prif awyrendy Caerdydd tan ddiwedd yr 1940au?
Ffatri Wells Kelo yng Nghaergybi – roedd y ffatri yng nghanol y dref yn rhan o ddiwydiant teganau mawr Cymru
Traphont Crymlyn - daeth Sophia Loren a Gregory Peck yma i ffilmio ffilm Arabesque yn yr 1960au - treuliodd Sophia wythnos yn cysgu mewn carafan gerllaw yn ystod y cyfnod ffilmio!

Traphont Crymlyn
Coleg weirles Bae Colwyn – o'r 1920au lle'r oedd swyddogion radio yn dod i ddysgu technegau cyfathrebu
Butlin's Ynys y Barri – safle enfawr oedd yn hafan i ymwelwyr am 30 mlynedd cyn cau yn 1996

Hoffodd Owain ddysgu mwy am drosbont Gabalfa yng Nghaerdydd a gafodd ei hagor ddechrau'r 1970au, meddai.
"Mi oedd 'na bentref cyfan o lyfrgell a sinema a siopau a strydoedd. Y peth dwi'n ei ffeindio fwyaf rhyfedd am hwnna ydi bellach bod lle oedd y pentref yna bellach yn awyr [oherwydd y cloddio ddigwyddodd wrth adeiladu'r ffordd].
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n ysfa mae'r rhan fwyaf ohona ni'n ei hadnabod – pan 'dan ni'n cerdded ar y topiau ac yn dod ar draws hen furddun, ac mae'r dychymyg yn tanio'n syth; yn meddwl pa deulu oedd yn byw yno, y straeon rownd y tân.
"Beth oedd yno ers talwm? Mae hi'n ysfa gyffredin i ni i gyd."
Oes gennych chi atgofion o leoliad sydd bellach wedi diflannu? Mae Owain yn awyddus i glywed eich hanesion – owain.meredith@itv.com
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023