Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth bachgen mewn ffair yn y de

Ceir heddluFfynhonnell y llun, Visit Barry Island
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, am tua 17:00

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth bachgen 16 oed, wnaeth ddioddef yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "digwyddiad meddygol" ar Ynys y Barri.

Dywedodd yr heddlu fod swyddogion yn ceisio "canfod yr amgylchiadau llawn" i farwolaeth y bachgen yn y Parc Pleser.

Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, am tua 17:00.

Dywedodd llefarydd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un oedd yn y Parc Pleser yn ystod y digwyddiad, sydd â gwybodaeth, i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y parc fod y newyddion am y farwolaeth yn drist iawn a bod eu tîm "wedi gwneud eu gorau i gynorthwyo'r gwasanaethau brys" ar y pryd.

"Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu ar yr amser trist iawn hwn."

Mae'r parc yn parhau i fod ar agor ers 11:00 fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig