'Rhedeg drwy storm bywyd': Sut wnaeth rhedeg helpu gyda thriniaeth canser

Anita ar ddiwedd ras Ultra 40 milltir Vogum
- Cyhoeddwyd
Pan ymunodd Tucknutt gyda chlwb rhedeg yn 2021 doedd dim syniad ganddi sut oedd ei bywyd hi ar fin newid.
Yn Ebrill 2022 cafodd y fam i dri o Gaerdydd diagnosis o ganser y coluddyn, wnaeth newid cwrs ei bywyd yn llwyr, fel mae'n sôn mewn sgwrs ar raglen Un Cam gydag Elin Fflur ar Radio Cymru.
Erbyn hyn mae ganddi stoma a bu'n rhannu sut mae'r clwb rhedeg wedi bod yn achubiaeth iddi yn ystod cyfnod anodd.
Dyma ei stori:
Roedd ymuno gyda chlwb rhedeg Mae hi'n Rhedeg Caerdydd ym mis Tachwedd 2021 yn gyfle i fi ymuno gyda grŵp oedd am les menywod. Roedd hi'n amlwg bod nhw'n edrych ar ôl ei gilydd ac yn helpu menywod i fwynhau rhedeg mewn grŵp cymdeithasol.
Yn Ebrill 2022 ges i'r diagnosis o ganser y coluddyn stage 3 a newidodd cwrs fy mywyd yn gyfan gwbl.
Es i mewn i'r ysbyty ar 7 Ebrill, cael llawdriniaeth a biopsi a chael bag stoma dros nos - o'n i ddim yn gwybod bod hwnna'n mynd i ddigwydd. A phwy droiodd lan wrth ochr fy ngwely i y diwrnod wedyn ond un o'r buddies rhedeg.

Anita gyda rai o aelodau Mae hi'n Rhedeg Caerdydd
Cefnogaeth
Ac ers hynny wnaethon nhw helpu fi drwy gyfnod wir anodd mewn bywyd. Heb Mae hi'n Rhedeg Caerdydd 'se i'n gwybod sut fydden i wedi ymdopi a dod trwy'r holl broses o'r cemotherapi a radiotherapi a'r llawdriniaeth enfawr ges i yn mis Ionawr 2023.
Yn lwcus o'n i'n gryf a'n medru rhedeg trwy'r broses ac yn medru rhedeg trwy'r cemotherapi, er oeddwn i'n gorfod adeiladu'n raddol ar ôl y llawdriniaeth ges i'n mis Ionawr.
Cymuned
Gyda'r corff yn gryf a'r meddwl yn gryf oedd e wedi helpu fi trwy'r holl broses 'nes i fynd trwyddo. A gyda chymuned mor agos i helpu fi trwy hynny hefyd.
(Mae'r grŵp yn) rhoi breichiau o gwmpas ti. Yn gyntaf pan es i mewn i'r ysbyty, troiais i at un o'r doctoriaid sydd yn rhan o'r grŵp. Roeddwn i'n gwybod bod pobl yn edrych ar ôl lles yr aelodau ac oedden nhw yna yn syth.
Roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gallu troi at unrhyw un i ofyn, 'chi'n gallu helpu fi trwy hyn?' Roedden nhw yna i wneud hynny.
Mae angen bod yn gryf i fedru rhedeg drwy storm bywyd. Mae gymaint o'r grŵp yna i gefnogi ti. Ti'n adeiladu gymaint o ffrindiau, ti'n gwybod bod pobl i droi atynt pan ti'n teimlo'n isel.
Os oedd nos Fercher (noson y clwb rhedeg) yn dod ac os oeddwn i wedi cael cemotherapi yr un wythnos roeddwn i'n meddwl, os ydw i'n gallu hyd yn oed mynd a bod yn y cefn a cherdded. Ti'n gwybod bod rhywun yna i helpu ti s'dim ots pa gyflymder.
Roedd hynny wedi helpu fi trwy'r holl broses gyda iechyd meddwl hefyd.

Anita yn canu'r cloch ar ddiwedd ei thriniaeth am ganser
Stoma
Pan es i mewn i'r ysbyty ar 7 Ebrill 2022, o'n i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd stoma. O'n i'n meddwl beth fydd yn digwydd i fy nghorff i a'n methu dygymod â beth a sut o'n i'n mynd i fyw bywyd ar ôl.
Ond drwy siarad gyda'r nyrsys a'r doctoriaid oedd yn dweud bydd bywyd yn gallu dod nôl i ti, dim ond i ti gadw'n gryf. A dyna beth wnes i.
O'n i ddim yn fodlon i'r canser na chael stoma stopio fi rhag byw bywyd, achos mae bywyd yn rhy fyr. Beth mae storm bywyd yn dangos i ti yw mae angen i ti frwydro trwyddo fe.
Mae tri o blant gen i ac oedd angen i fi sicrhau bod fi'n gallu cadw'n gryf. Dyw'r stoma ddim wedi stopio fi rhag gwneud dim byd.
Blwyddyn ddiwethaf 'nes i redeg Ultra (ras dros bellter hir) cyntaf fi, dim ond achos bod Mae hi'n Rhedeg Caerdydd wedi ysbrydoli fi. Bydden i byth yn y byd yn meddwl fydden i wedi gallu gwneud y fath beth cyn siarad gyda'r merched.
Dwi wedi gwneud 40 milltir, 43 milltir ac yn meddwl, sut yn y byd? Dyw'r bag stoma ddim yn stopio fi rhag gwneud dim byd.
Gwrandewch ar raglen Un Cam gydag Elin Fflur ar Radio Cymru ar ddydd Sul 25 Mai am 4:00.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024