Ymosodiad Southport: Cyhuddo dyn o drosedd derfysgol ar wahân
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn ifanc sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio tair merch ifanc yn Southport wedi cael ei gyhuddo hefyd o gynhyrchu gwenwyn a chael deunydd sy'n ymwneud â hyfforddiant Al Qaeda yn ei feddiant.
Mae Axel Rudakubana, 18, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, yn wynebu cyhuddiadau o gynhyrchu tocsin biolegol, ac o gael dogfen PDF fyddai'n debygol o fod o ddefnydd i berson sy'n paratoi gweithred derfysgol.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi y bydd y llu yn parhau i arwain yr ymchwiliad i farwolaethau'r tair merch ifanc yn Southport ym mis Gorffennaf.
Mae Heddlu Gwrth Derfysgaeth wedi penderfynu peidio dynodi'r digwyddiad hwnnw fel un terfysgol.
Cafodd y gwenwyn - ricin - a'r deunydd hyfforddi Al Qaeda eu darganfod wrth i'r heddlu chwilio cartref y diffynnydd ym mhentref Banks yn Sir Gaerhirfryn wrth ymchwilio i'r achosion o drywanu.
Dywedodd yr heddlu fod y gwenwyn yn debygol o fod yn risg isel i'r cyhoedd.
Mae Axel Rudakubana eisoes wedi'i gyhuddo o lofruddio Bebe King, chwech, Elsie Dot Stancombe, saith, ac Alice da Silva Aguiar, naw, mewn dosbarth dawns.
Mae hefyd yn wynebu deg cyhuddiad o geisio llofruddio, a chael cyllell yn ei feddiant.
Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau fis Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf