Swyddogion yn ymateb i danau gwyllt ar draws Cymru

Mae'r gwasanaeth tân yn dweud nad oes risg i fywyd nac eiddo ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion tân wedi bod yn ymateb i danau gwyllt ar draws Cymru, a'r gred yw bod un ohonynt wedi cael ei gynnau'n fwriadol.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd nos Fawrth fod fflamau yn effeithio ar tua 500 metr sgwâr o dir yn Llandudno.
Cafodd dau griw eu hanfon i'r digwyddiad ar lethrau uwchben Ysbyty Llandudno, ond maen nhw'n dweud nad oedd risg i fywyd nac eiddo.
Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth, maen nhw'n amau fod y tân wedi cael ei gynnau yn fwriadol a bod pobl ifanc wedi cael eu gweld yn gadael yr ardal.
Roedd yna danau hefyd ym mhenrhyn Gŵyr, Penrhyndeudraeth a Rhydaman dros nos.
Roedd y tân yn ardal Penrhyndeudraeth yn effeithio ar tua 75 metr sgwâr o dir.
Yn Rhydaman roedd chwe hectar o dir ger fferm wynt ar dân ac mewn digwyddiad gwahanol roedd 15 hectar o dir ar dân ar Ffordd Pontardawe.