Dirwy i ffermwr yn dilyn achos o lygredd afon

Nant Castellau
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr achos o lygru wrth i Mr Pritchard gwblhau gwaith adeiladu ar safle cyfagos

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr wedi cael dirwy yn dilyn achos o lygru mewn rhan o afon yn Rhondda Cynon Taf.

Fe blediodd Huw Pritchard, o Fferm Castellau Fach, yn euog i achosi llygredd gwaddod (silt) yn Nant Castellau, sy'n llifo i Nant Muchudd - sy'n un o lednentydd Afon Trelái.

Ar ôl derbyn adroddiadau o "ddŵr afliwiedig" gan aelodau o'r cyhoedd ym mis Hydref 2022, fe wnaeth ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddod i'r casgliad bod y nant wedi cael ei lygru gan ddeunydd gwastraff o safle adeiladu cyfagos.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, cafodd Mr Pritchard ddirwy o £250, yn ogystal â gorchymyn i dalu £100 fel gordal dioddefwr ac £850 am gostau CNC.

Fe glywodd y llys bod Mr Pritchard yn adeiladu pwll a chodi cloddiau ger y nant er mwyn ceisio mynd i'r afael a llifogydd.

Doedd Mr Pritchard ddim wedi cael caniatâd gan CNC, a doedd mesurau atal llygredd ddim ar waith i atal y gwastraff rhag disgyn i'r nant.

Gall llygredd dwr effeithio ar ecoleg y nant, gan niweidio bywyd gwyllt a thyfiant planhigion.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau CNC, Fiona Hourahine: "Rydym mewn argyfwng natur felly mae ein gwaith i amddiffyn ein hafonydd rhag llygredd yn bwysicach nag erioed.

“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl y mae eu gweithredoedd yn llygru afonydd Cymru, yn niweidio'r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt lleol."

Pynciau cysylltiedig