Rhybudd am safon y dŵr yn Afon Gwy yn 'siomedig'
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion sy’n byw ger un o afonydd amlycaf Cymru yn “siomedig” ar ôl cael rhybudd i beidio nofio mewn llecyn poblogaidd oherwydd safon y dŵr.
Yr wythnos diwethaf cafodd pobl Y Gelli Gandryll wybod fod lefelau uchel o facteria niweidiol wedi’u canfod yn Afon Gwy gerllaw.
Daw hynny ddim ond fis ers i ran o’r afon, sef safle’r Warin ger Y Gelli, dderbyn statws dŵr ymdrochi swyddogol.
Ond er gwaethaf pryder am yr effaith ar dwristiaeth yn yr ardal, mae eraill yn dweud y bydd y profion nawr yn gwthio’r awdurdodau i daclo’r broblem.
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Fe gafodd y statws dŵr ymdrochi swyddogol ei roi i’r Warin yn dilyn apêl yn erbyn penderfyniad gwreiddiol Llywodraeth Cymru.
Ond gyda’r statws newydd – y tro cyntaf i ran o afon yng Nghymru gael ei dynodi’n ddŵr ymdrochi – roedd gofyn hefyd am brofion amlach.
Fis yma, dangosodd y canlyniadau cyntaf bod lefelau uchel o E.coli a bacteria enterococci perfeddol yn yr afon.
Roedd y profion yn dangos bod y ddau fath o facteria bump a saith gwaith yn uwch na’r lefelau sy’n cael eu hystyried yn “ddigonol”.
“Mi ydan ni’n siomedig ac wedi’n synnu rywfaint efo pa mor sâl oedd canlyniadau’r profion dŵr cyntaf,” meddai Tom Tibbits, cadeirydd ymddiriedolwyr Ffrindiau Afon Gwy.
“Nid dyma beth oedden ni eisiau ei weld, yn amlwg.
“Ond nawr ein bod ni’n gwybod beth yw’r broblem, rydyn ni eisiau gweld hynny’n cael ei daclo.”
Mae arwyddion bellach wedi’u gosod ger y safle gan Gyngor Sir Powys, yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â nofio yn yr afon.
Oherwydd hynny mae trigolion lleol fel Rose Linn-Pearl yn poeni a yw’n saff iddi hi a’i phlant fod yn y dŵr.
“’Dyn ni lawr fan hyn drwy’r amser, yn enwedig yn y gwyliau haf,” meddai.
“Nawr bo’ fi’n gwybod pa mor frwnt yw e mae rhaid i fi ailfeddwl.”
'Siomedig dros ben'
Ychwanegodd: “O’n i’n hapus dros ben fod e wedi cael ei ddynodi yn ardal nofio yn y lle cyntaf, ni 'di bod yn aros am hwnna ers amser hir,” meddai.
“Ond wrth gwrs, siomedig dros ben bod y dŵr mor wael.
“Rwy’n gobeithio nawr bydd y cwmnïau, ffermwyr, llywodraeth yn ymateb i weld gwelliant yn y safon dŵr.”
Mae Jane Dodds, Aelod o'r Senedd ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn byw yn lleol, ac yn un arall sy’n hoff o ymdrochi yn yr afon.
“Ar ôl clywed y newyddion dwi ddim am nofio rŵan tan fod 'na wybodaeth sy’n dweud beth yn union ydi’r sefyllfa,” meddai.
“Mae pawb yn dod fan hyn pan mae’r haul allan, mae’r dref i gyd yn dod – felly mae am effeithio hynny. Mae’n sefyllfa drist iawn a rhywbeth sy’n poeni ni i gyd.”
Ychwanegodd ei bod hi’n poeni am yr “effaith negyddol” bosib ar ymwelwyr fyddai’n dod i’r Gelli, gyda’r dref a’r afon yn gyrchfan poblogaidd i’r rheiny sydd am fwynhau byd natur.
“Os ydy Llywodraeth Cymru eisiau gweld afonydd fel hyn yn fwy glân, mae’n rhaid iddyn nhw roi arian i sicrhau bod 'na ddigon o bobl i brofi, a rhoi rhyw fath o hyder i bobl,” meddai.
Mae Haydn Jones yn gweithio i’r busnes teuluol, sef caffi ar lan Afon Wysg yn y dref.
“Mae afon lân yn bwysig i’r economi leol, mae o’n chwarae rhan hanfodol yn y dref o ran twristiaeth,” meddai.
Ond dydy ei gyfnither Catherine Hughes ddim yn credu y bydd y newyddion am safon y dŵr yn effeithio ar ymwelwyr, gan ddweud ei bod hi'n falch fod y wybodaeth bellach ar gael.
“Dwi’n hapus bod profi yn digwydd ar yr afon o’r diwedd,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi ymchwilio i darddiad y llygredd yn dilyn canlyniadau’r profion.
“Fe wnaeth ein swyddogion archwilio’r ardal i geisio dod o hyd i ffynhonnell y lefel uwch o facteria yn y sampl, ond ni chafodd achos uniongyrchol ei ddarganfod,” meddai.
“Dyma’r sampl dŵr cyntaf mewn cyfres fydd yn cael eu cymryd drwy gydol y tymor ymdrochi dŵr sy’n dod i ben ar 30 Medi.
“Byddwn yn parhau i fonitro canlyniadau pob sampl ac yn darparu’r wybodaeth ar ein Proffil Dŵr Ymdrochi.”
Yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Materion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies gynnal uwchgynhadledd afonydd i drafod ansawdd dŵr yng Nghymru.
Yn dilyn y cyfarfod hwnnw fe gadarnhaodd ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru “adolygu’r cyfundrefnau rheoleiddio ehangach sy’n llywodraethu’r gwaith o wasgaru pob math o ddeunydd organig, a nodi sut y gellid gwneud y trefniadau hyn yn fwy effeithiol”.
Ychwanegodd: “Byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar weithrediad treulio anaerobig yng Nghymru, a’r lle sydd gennym i wneud gwelliannau yn y gwerth sy’n deillio o’i allbwn a’i reoleiddio.”