Teyrnged i dad a gŵr 'anhygoel' wedi gwrthdrawiad beic modur

Pawel DlugoszFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ŵr a thad "anhygoel" a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ardal Wrecsam.

Bu farw Pawel Dlugosz, 49, yn dilyn gwrthdrawiad beic modur ar yr A525 ym Mwlchgwyn ar 24 Awst.

Dywedodd ei deulu ei fod yn "ddyn oedd bob tro yn gofalu am eraill, oedd wastad yn fodlon helpu, ac oedd yn gwneud i bobl deimlo'n ddiogel".

Roedd Mr Dlugosz yn byw yn ardal St Helens, a dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad i'w farwolaeth yn parhau.

Pynciau cysylltiedig