Dyn o Ben Llŷn yn cyflawni heriau a theithio'r byd er cof am ei frawd

Llun o Guto'n croesi'r linell derfynFfynhonnell y llun, Sportograf i IRONMAN
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Guto Evans gwblhau triathlon Ironman yn Tallin, Estonia, yn ddiweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu o Lanbedrog ger Pwllheli yn teithio o amgylch y byd ac yn cyflawni heriau gwahanol – gan gynnwys triathlon Ironman - er cof am un o'u hanwyliaid fu farw ddegawd yn ôl.

Bu farw Robin Llyr Evans yn 20 oed yn dilyn damwain mewn stadiwm yn China yn 2015 tra'n gweithio i gwmni Hawkeye.

Daeth ei deulu o hyd i 'restr bwced', oedd yn cynnwys pethau roedd Robin yn awyddus i'w cyflawni yn ystod ei fywyd.

Fe benderfynon nhw y bydden nhw'n ceisio eu cwblhau ar ei ran.

Mae'r teulu hefyd wedi sefydlu ymddiriedolaeth Cofio Robin, sydd wedi helpu mwy na 100 o athletwyr ifanc a rhannu dros £100,000 mewn nawdd.

Llun o rieni Guto'n dal baner mawr y tu ol i Guto sy'n dal medal IronmanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadw enw Robin yn fyw drwy'r Ymddiriedolaeth Cofio Robin yn bwysig iawn i'w frawd Guto a'i rieni

Dywedodd ei frawd Guto mai colli Robin yw un o'r pethau anoddaf mae ef a'i deulu wedi mynd trwyddo.

"Mae'r rhestr bwced yn ogystal â sefydlu elusen er cof amdano ydi'r ffyrdd 'da ni'n delio efo fo ac yn prosesu'r boen," meddai.

Daeth y teulu o hyd i restr Robin - a oedd yn cynnwys tua 50 o bethau yr oedd eisiau eu gweld neu eu cyflawni - yn fuan ar ôl ei farwolaeth.

Yn eu plith mae gwneud naid bungee, dringo Kilimanjaro neu Everest, a nifer o leoliadau i ymweld â nhw gan gynnwys Brasil, Machu Picchu, Efrog Newydd a Hong Kong.

'Byw bywyd i'r eithaf'

"Byddai unrhyw un sy'n adnabod Robin wedi dweud ei fod yn mynd 1,000mya ac yn byw bywyd i'r eithaf," meddai Guto.

"Dwi'n meddwl y byddai o wedi cyflawni mwy mewn 20 mlynedd na'r rhan fwyaf o bobl mewn bywyd llawn."

"Felly doedd o ddim yn syndod bod ganddo fo'r cynlluniau mawr 'ma, a dwi'n siŵr, o'i 'nabod o, y byddai o wedi'u cwblhau'r rhestr yn gynt nag ydan ni'n gwneud."

Guto yn ystod yr IronmanFfynhonnell y llun, Sportograf i IRONMAN
Disgrifiad o’r llun,

Cwblhau triathlon Ironman oedd un o'r heriau mwyaf ar restr bwced Robin - un a gyflawnwyd gan Guto yn ddiweddar

Mae Guto newydd gyflawni un o'r heriau mwyaf ar y rhestr - cwblhau triathlon Ironman - a hynny yn Tallinn yn Estonia.

Dywedodd bod yr heriau a'r rhestr bwced yn ffordd dda o "helpu ffocysu'r meddwl" ac yn "ffordd o gysylltu hefo fo eto".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd ei fod yn "teimlo'n agosach iddo fo nag erioed yn gwneud yr ymarfer a'r her yma" a bod Robin gydag ef bob cam o'r ffordd.

Llun o Guto a'i gariadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 50 o bethau ar y rhestr bwced yn ôl Guto Evans

Mae 10 mlynedd wedi pasio eleni ers y ddamwain drasig, a byddai Robin wedi dathlu ei ben-blwydd yn 30 eleni hefyd.

"Dyna 'naeth ysbrydoli fi 'neud un o'r rhai mawr," meddai Guto.

"Dwi'n gobeithio bod o'n edrych i lawr yn hapus," meddai, cyn ychwanegu bod Robin gydag ef "bob un cam o'r Ironman ac yn dod efo ni i bob cam o'r byd".

Fe sefydlodd y teulu gronfa yn 2018 er cof am Robin.

Bwriad Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llyr Evans yw rhoi cymorth ariannol i unigolion o ogledd-orllewin Cymru sydd â breuddwydion ym myd chwaraeon.

Dywedodd Guto fod ceisio llwyddo ym myd chwaraeon yn gallu bod yn gostus, gan gyfeirio at brynu cyfarpar a chostau teithio.

"O'n ni just isio helpu tynnu'r rhwystr ariannol yna i ffwrdd o bobl ifanc a rheini sy'n gorfod rhoi fyny gymaint," meddai.

Llun o Guto (L) a'i frawd RobinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mi fyddai Robin (dde) wedi bod yn 30 eleni a dywedodd ei frawd Guto (chwith) bod eleni'n flwyddyn anodd i'r teulu

Ychwanegodd Guto fod Robin wedi eu hysbrydoli i sefydlu'r ymddiriedolaeth gan ei fod "wrth ei fodd â phob math o chwaraeon" ac yn mwynhau chwarae rygbi a hoci.

Esboniodd eu bod wedi "helpu dros 100 o athletwyr a wedi rhoi i ffwrdd dros £100,000 o gefnogaeth dros y blynyddoedd diwethaf".

Ymhlith y rheiny sydd wedi cael budd o'r ymddiriedolaeth mae'r nofiwr Medi Harris, Mared Griffiths sy'n chwarae pêl-droed dros Manchester United a Chymru, a'r seren saethu colomennod clai Owain Humphreys.

"Mae'n wych gweld y bobl ifanc yma'n gallu mynd ar ôl eu breuddwydion a llwyddo hefyd," meddai Guto.

"Ma' gw'bod bo' ni wedi chwarae rhan fach yn hwnna'n lot o gysur, a gw'bod bod ni'n helpu cadw cof Robin yn fyw drwy wneud hyn yn arbennig."

Llun o rieni Guto yn sefyll o flaen Christ the Redeemer ym MrasilFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Robin wedi teithio'r byd er cof amdano, ac yn bwriadu mynd i'r Aifft nesaf

Mae modd i unigolion o Wynedd a Chonwy dan 25 oed wneud ceisiadau am gymorth gan yr ymddiriedolaeth cyn diwedd mis Medi.

Dywedodd Guto ei fod ef a'i rieni tua thri chwarter ffordd trwy restr bwced Robin ar ôl "ticio nhw'n ara' deg".

Nesaf ar y rhestr i Guto mae dringo Kilimanjaro – mae'n gobeithio gwneud hynny ym mis Chwefror – ac mae ei rieni'n "bwriadu mynd i'r Aifft i 'neud y pyramids".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig