Ateb y Galw: Gwilym Bowen Rhys

  • Cyhoeddwyd
Gwilym Bowen RhysFfynhonnell y llun, Gwilym Bowen Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Bowen Rhys

Y cerddor gwerin a phrif leisydd Y Bandana Gwilym Bowen Rhys sy'n ateb y galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Elidyr Glyn.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio mynd i'r Ysgol Feithrin ym Methel, oedd mewn carafan statig wrth ymyl y neuadd goffa. Bob bore byswn i'n rhedeg fewn trwy'r drws, dringo'r sleid bach oedd yng nghanol y stafell a sleidio i lawr cyn i'r 'antis' gael cyfle i'n rhwystro i. Roedd o fel ritual boreuol. Gen i rhyw frith gof bod Martin Geraint wedi ymweld â ni unwaith hefyd... ond bosib mai breuddwyd oedd hwna. (Stwff breuddwydion yn wir!)

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Es i i Gwm Cynfal ger Llanffestiniog am y tro cynta' cwpwl o flynyddoedd yn ôl a chael fy nghyfareddu yn llwyr. Ceunant tyfn wedi'i orchuddio gan goedwig deri. Byd o fwsog a chen a madarch a dŵr melynfrown mawnog, gyda phwlpud Huw Llwyd yn tyrru yn ei chanol. Ac o fewn tafliad carreg safai Llech Ronw, y garreg â thwll drwyddi lle lladdwyd Gronw Pebr gan waywffon Lleu. Os bydd cyfaill o dramor yn aros efo fi, fydda i'n gwneud pwynt o fynd â nhw yno bob tro.

Ar wahan i fan'na, mae tafarn y Glôb ym Mangor Ucha' yn agos iawn i 'nghalon i hefyd.

Ffynhonnell y llun, Tafarn y Glob
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym (dde) yn jamio yn y Glôb gyda'i ffrind a'r cerddor Elidyr Glyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Amhosib dewis un ... ond ymysg y goreuon ydi'r noson nes i ganu yn theatr mawreddog Kursaal yn Donostia, Gwlad y Basg yn 2018. Ro'n i'n canu mewn grŵp amlieithog o'r enw Tosta Banda i thua 2000 o bobl. Roedd yr ymateb yn wych, a'r cyfan yn cael ei ddarlledu ar EITB1 (prif sianel deledu'r wlad). Wedi'r sioe, a ninnau'n llawn adrenalin; noson allan yn Donostia, oedd yn cynnwys bwyd a diod anfarwol, canu, dawnsio a dathlu gyda chyfeillion hen a newydd. 'Wawch! dyna fywoliaeth!' (i ddyfynnu Lewis Morris Môn).

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Canwr. Awchus. Chwilfrydig.

Disgrifiad o’r llun,

Gwilym yn gwneud sesiwn ar Awr Werin Lisa Gwilym ar Radio Cymru

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n cofio chwarae yng nghlwb rygbi Ffwrnes ger Llanelli unwaith efo'r Bandana. Oedd fy ngitâr wedi torri a ges i fenthyg un arall oedd lot trymach na'n un i. Wrth neidio oddi ar yr amp (fel oni'n dueddol o neud, gan mod i'n hynod cŵl a roc a rôl) nes i headbuttio'r gitâr ac agorodd fy ael. Am weddill y set roedd gwaed yn llifo lawr fy wyneb. Llwyddon ni i lapio fy mhen efo rhwymyn oedd yn ddiangen o fawr ac aethon ni allan i Lanelli, a finna'n edrych fel Pudsey. Roedd pobl yn gadael i fi sgipip'r ciw wrth y bar, fatha 'swn i newydd ddod o faes y gad. Un o lawer o droeon trwstan efo'r band sy'n neud i fi chwerthin!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio cystadlu'n unigol yn steddfod gylch yr Urdd ar y trwmped pan o'n i tua 12. O'n i wedi cael llwyddiant yn y gorffennol, ond y flwyddyn honno nes i ddewis darn uchelgeisiol iawn, gradd 6 os dwi'n cofio'n iawn! Es i ar lwyfan Ysgol Brynrefail, a dechrau chwythu ... ond dim ond gwichian truenus ddaeth allan. Mi chwythish ac mi chwythish, ond y mwya' o'n i'n chwythu a chochi ... y mwya truenus oedd y gwichian yn mynd, nes yn y diwedd oedd o jest yn swnio fatha rhech malwan ar ben cyfeiliant hynod fedrus a chywir y pianydd. Dyna oedd diwedd fy ngyrfa proffesiynol fel trwmpedydd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wrth wylio'r ffilm Disney Pixar, Coco, yn ddiweddar. Os 'dach chi'n gwbod, 'dach chi'n gwbod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi 'ngwinadd!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Rhaid dewis dau lyfr - y cyntaf ydi Wild Wales gan George Borrow. Dyddiadur teithio sy'n disgrifio taith cerdded yr awdur o gwmpas Cymru yn ystod yr 1850au. Yn wahanol i'r rhan helaeth o'r twristiaid eraill oedd yn 'sgwennu am Gymru ar y pryd, roedd George yn medru'r Gymraeg, ac ar ben hynny, yn ymddiddori yn ein llenyddiaeth, ein hanes a'n diwylliant. Mae'n ddarlun lliwgar, difyr, doniol a dwys o Gymru ac o'r Cymry ar y pryd, yn ogystal â bod yn gyflwyniad gwych i'n llenyddiaeth ni fel cenedl.

Yr ail ydi Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad gan Gwenllian Awbery (Llyfrau Llafar Gwlad 31, Carreg Gwalch) sef casgliad o enwau am blanhigion a gasglwyd ar lafar gwlad yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae'n gasgliad anhygoel o enwau llawn cymeriad a dychymyg a doethineb gwerin sydd wedi diflannu i raddau helaeth o'n ymwybyddiaeth cyffredin ni. Diolch byth eu bônt wedi eu casglu cyn mynd i ebargofiant. Os byddai byth yn gweld unrhyw un o'r ddau lyfr yma mewn siop, byddai'n eu prynu'n syth er mwyn eu rhoi i rywun arall.

Ffynhonnell y llun, BBC Gorwelion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym hefyd yn aelod o'r grŵp Plu gyda'i chwiorydd Marged (chwith) ac Elan (dde)

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Ibn Battuta (er dwi ddim yn meddwl bysa fo'n derbyn peint o gwrw gen i, gan fod o'n Fwslim defosiynol iawn).

Teithiwr o Forocco oedd Ibn Battuta oedd yn byw yn ystod y 14eg ganrif. Cwblhaodd ei bererindod cyntaf i Fecca yn 21 oed, ac roedd o'n amlwg wedi cael blas ar deithio gan iddo dreulio rhan fwyaf o weddill ei fywyd ar daith. Teithiodd hyd arfordir dwyreiniol Affrica hyd at Tanzania ein dyddiau ni, wedyn i India, ynysoedd de ddwyrain Asia ac hyd at China. Teithiodd y dwyrain canol benbaladr, wedyn Rwsia, Wcráin a gwledydd y Baltig. Ysgrifennodd hanes ei deithiau yn yn y flwyddyn 1355 sy'n frith o ryfeddodau fel palasau enfawr India a chymdeithas fatriarchaidd ynysoedd y Maldives. Dydi o ddim yn adnabyddus i ni gan i'w waith ddim cael ei gyfieithu o'r Arabeg tan ddiwedd yr 19eg ganrif. Rŵan, bysa ganddo fo hanesion difyr i'w hadrodd yn saff 'ti.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi 'di dechrau astudio mewn dwy brifysgol, a 'di dropio allan o'r ddwy.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dringo mynydd, nofio'n y môr, cael gwledd o fwyd a diod ar y traeth a jamio a chanu tan y wawr gyda chyfeillion a theulu.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dyma lun o gig cynta' Y Bandana, sef fi a fy nau gefnder - Tomos a Siôn Owens (roedd Robin y drymiwr heb ymuno eto) yn Neuadd Hendre ger Abergwyngregyn, fis Medi 2007. Mae'n bwysig i mi gan fod o'n nodi dechrau fy ngyrfa fel cerddor, a dwi'n cyfri'n hun yn ffodus dros ben o allu canu yn Gymraeg fel gyrfa llawn amser.

Ffynhonnell y llun, Y Bandana
Disgrifiad o’r llun,

Yr aelodau teuluol - Tomos Owens, Gwilym Rhys a Sion Owens

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rhywun stiwpid o or-gyfoethog fel Elon Musk, rhoi fy mhres i gyd i achosion da, a dweud "be bynnag dwi'n dweud fory, peidiwch a rhoi'r prês yn ôl i fi".

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig