O'r 'stafell ddosbarth i'r Llew Coch yn Llansannan
- Cyhoeddwyd
"Mae'r bobl leol wedi cael eu tafarn 'yn dol' fel maen nhw'n ddeud yma."
Dyna ddywed Sara Croesor sy'n rhedeg tafarn Llew Coch neu Y Red fel caiff ei alw'n lleol ers mis Medi eleni.
Dros y misoedd diwethaf mae Sara, sydd o bentref Croesor yn wreiddiol, wedi ei llorio gan y gefnogaeth ers iddi ddod yn denant yno.
Mae rhedeg tafarn wedi bod yn freuddwyd i Sara sy'n gyn-athrawes Gymraeg erioed. Ac yn rhan o'r freuddwyd honno mae ei hawch i drefnu gigs Cymraeg "er mwyn gwneud ei rhan hi i warchod yr iaith" mewn cymunedau gwledig a Chymreig fel pentref Llansannan yn Nyffryn Aled.
Gwireddu breuddwyd
Y cyfnod clo fu'r sbardun oedd Sara ei angen i ddilyn ei breuddwyd.
Meddai'r gyn-athrawes Gymraeg yn Ysgol John Bright, Llandudno: "Ddoth y cyfnod clo ac oeddan nhw yn cynnig redundancies – dyma fi'n penderfynu bod hi'n adag i fi adael dysgu. O'n i wedi mwynhau ond o'n i'n dechra' colli mynadd a teimlo bod hi'n amsar i fi fynd.
"A wedyn dyma fi'n mynd yn ôl i weithio mewn tafarn, o'n i o hyd yn gweithio mewn tafarndai pan o'n i'n iau ond o'n i erioed wedi meddwl amdano fo fel gyrfa rywsut a wedyn neshi ddechra gweithio yn Virginia yn Llanfairfechan – cymryd mwy o oria' mlaen – wedyn neshi benderfynu bo fi isio neud mwy na gweithio tu ôl i bar – bo' fi isio pub fi fy hun."
Cyn y daeth y cyfle i fod yn denant newydd i'r Llew Coch, penderfynodd Sara i sefydlu bar symudol yn Llanfairfechan, lle roedd hi'n byw ar y pryd. Dyna ddechrau ei thaith i wireddu ei breuddwyd o'r diwedd.
"Ges i drwydded a wedyn wnes i brynu bar. Ro'n i'n gosod y bar yn Neuadd y Dref ac yn cynnal gigs yno a chael pobl fel Cowbois Rhos Botwnnog, Celt a Chôr y Brythoniaid i ddod yno i ganu."
A phan roedd bragdy J. W Lees yn chwilio am denant newydd i'r Llew Coch, roedd cynnal nosweithiau Cymraeg yn rhan o gynllun busnes Sara unwaith yn rhagor.
"Mi roedd y bragdy wedi eu plesio gan y cynllun busnes, felly mi wnaethon nhw ofyn i fi os fasa gen i ddiddordeb cymryd Y Red drosodd, felly ddes i yma i gael golwg a phenderfynu, baswn, wrth gwrs faswn i hefo diddordab rhedeg y lle."
Ond pa mor wahanol ydy rhedeg tafarn i gadw trefn ar ddosbarth o blant?
"Mae o yr un skill set dydi. Deud wrth bobl fihafio ydw i dal i fod!" chwarddai Sara.
Croeso cynnes yn Llansannan
Ers agor Llew Coch ar dydd Gwener, 13 Medi eleni mae Sara wedi dotio at ei chymuned newydd.
"Mae o'n union be o'n i isio. Pyb bach gymunedol, gwledig, Cymraeg.
"Mae o'n ganol nunlla ond yn ganol y byd hefyd. Mae Llansannan fel alwodd rywun – yn un o blwyfi mwyaf Cymru felly mae'r catchment lleol yn anfarth.
"Mae'r locals yn dod o Lansannan, Llangernyw, Gwytherin, Llannefydd – dydi Dinbych ddim yn bell, dydi Llanrwst ddim yn bell a wedyn ffor' arall mae gen ti Abergele.
"Ond pobl y pentrefi faswn i yn deud sy'n dod yma. Mae'r locals werth y byd, dwi'n teimlo'n hollol gartrefol yma.
"Dwi'm yn meddwl bo' nhw yn dalld ardal mor Gymraeg ydi fama – mae jest clwad yr iaith Gymraeg o dy gwmpas di – mae o'n llonni dy galon di dydi."
Un peth sy'n llonni calon Sara hyd yn oed yn fwy yw gweld pobl o bob oed yn mwynhau'r gigs mae hi wedi dechrau eu cynnal yno. Dros y misoedd diwethaf mae Elidyr Glyn a Gwilym Bowen Rhys, hogiau lleol Tew Tew Tenau a Ffion Wyn wedi bod draw i ganu yno.
Meddai Sara: "Pan ddoth Gwilym ag Elidyr yma, oedd o reit emosiynol i fi, pobl ifanc lleol yn gofyn am gân ac yn morio canu efo nhw. Dwi'n teimlo gymaint o anrhydedd.
"Mae gynnon ni gymaint o ddiwylliant yng Nghymru, gymaint o artistiaid sydd isio llwyfan i'w crefft felly mae'n bwysig i fi roi'r cyfle yna i gerddorion a hefyd rhoi cyfle i 'nghwsmeriaid i gael eu gweld nhw."
Ond yn wyneb y bygythiadau sydd i gynnal tafarn yng nghefn gwlad, ydy Sara'n poeni am ddyfodol tafarndai fel Y Red?
"Ar y funud dwi ddim," meddai. "Dwi'n teimlo bod rhaid i chdi gael y bobl iawn.
"Mae'r Ring yn Llanfrothen 'wan yn mynd yn dafarn gymunedol, sbia ar dafarn yr Iorwerth, Tafarn y Plu, Tafarn yr Heliwr – pobl leol sy'n cadw'r dafarn i fynd a mae rhaid i chdi gadw nhw ar dy ochr di. Dwi'n hynod lwcus yn fan'ma bo fi'n cael ffasiwn gefnogaeth.
'Y cam nesaf ydi cael tîm darts'
Yn ôl Sara, mae tafarndai lleol yn fan pwysig i glybiau o bob math ffynnu hefyd.
Meddai: "Mae'r clwb bowlio yn dod yma ar nos Lun, nos Ferchar pobl sydd wedi bod yn chwara' golff, nos Iau mae'r côr yn dod i mewn ar ôl yr ymarfer, nos Wenar a nos Sadwrn mae pawb a bob dim yn dod i mewn, a nos Sul mae pobl leol yn dod i mewn.
"Mae'r tîm pŵl hefyd wedi dod yn ôl yma'n ddiweddar. Y cam nesaf ydy cael tîm darts!"
Ond tan hynny, mae Sara'n edrych ymlaen at roi croeso cynnes a Chymreig a thanllwyth o dân i'w chwsmeriaid dros gyfnod y Nadolig.
"Mae noswyl y nadolig yn noson bwysig yma meddan nhw wrtha i – mae pawb yn dod adra at eu teulu.
"A diwrnod Dolig – mae Dolig yn amsar sy'n gallu bod yn galad iawn i rai pobl felly mae'n bwysig bod yna rwla i bobl fynd lle mae 'na groeso a bod yna sgwrs i gael yndê.
"Mi fydda i ar agor diwrnod Dolig a dwi wedi cael cynnig dau ginio Dolig yn barod. Dwi'n siŵr y bydd yna bump plat ar y bar erbyn diwadd y dydd!"
Bydd Sara yn sgwrsio ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru fore Nadolig rhwng 8 ac 11.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022