Arestio pum person ar ôl i ddynes farw yn dilyn gwrthdrawiad

Bu farw ddynes 47 oed yn dilyn gwrthdrawiad yn Hightown nos Lun
- Cyhoeddwyd
Mae pum person wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam.
Bu farw dynes 47 oed o ardal Wrecsam yn yr ysbyty ddydd Mercher wedi gwrthdrawiad yn Hightown nos Lun, toc wedi 21:30.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ffordd Belgrave a Ffordd Percy ar ôl i Mercedes arian daro Toyota wrth geisio dianc rhag swyddogion, meddai Heddlu'r Gogledd.
Cafodd y dyn a'r ddynes 47 oed a oedd yn y Toyota eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol a bu farw'r ddynes ddeuddydd yn ddiweddarach.
Mae'r dyn yn parhau yn yr ysbyty.
Fe wnaeth y ddau ddyn yn yr Mercedes arian adael y lleoliad ar ôl y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn y digwyddiad.
Arestio pump
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod pum person wedi cael eu harestio ddydd Iau mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd dyn 22 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, tra bod ymholiadau'n parhau i ddod o hyd i ail ddyn wnaeth adael y safle.
Arestiwyd dynes 20 oed, dau ddyn 37 oed, a dyn 50 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r dyn 22 oed a'r ddynes 20 oed bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau.
Mae'r dyn 50 oed, a'r dynion 37 oed yn parhau yn y ddalfa, lle maen nhw'n cael eu holi gan swyddogion.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Beck: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r ddynes sy'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol yn ystod y cyfnod hynod drist ac anodd hwn."
Ychwanegodd fod galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.