Criwiau i ddychwelyd i dân gwair mawr yng Ngwynedd fore Mercher

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw brynhawn Mawrth
- Cyhoeddwyd
Bydd diffoddwyr tân yn archwilio safle tân gwair mawr yng Ngwynedd eto ddydd Mercher wedi iddo losgi am oriau ddydd Mawrth.
Fe gafodd y gwasanaeth tân wybod am y tân yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog am 15:54 brynhawn Mawrth.
Roedd y tân yn ymestyn am dros 500 metr wrth i laswellt, yn bennaf, losgi.
Bu pedwar criw yn ceisio diffodd y tân nes iddi fynd yn rhy dywyll.
Mewn digwyddiad arall yng Ngwynedd nos Fawrth, cafodd pedwar criw eu hanfon i dân yn ardal Waunfawr, Caernarfon, ble roedd siediau amaethyddol pren a garej wedi eu llosgi'n llwyr, yn ogystal â pheiriannau.
Y gred yw bod llosgi dan reolaeth wedi lledaenu i'r siediau.
Roedd y digwyddiad drosodd erbyn 00:38 fore Mercher.