Polisi cludiant ysgol Ceredigion yn 'cipio dewisiadau oddi ar blant'

Laine, 11 oed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laine, 11, yn dweud ei bod sefyllfa'r bws ysgol yn ei gwneud yn "bryderus iawn am fynd fyny i'r ysgol uwchradd"

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai rhieni yng Ngheredigion wedi cael gwybod nad yw eu plant yn gymwys i gael bws am ddim i'r ysgol uwchradd, er bod gan rai ohonyn nhw frodyr a chwiorydd hŷn ar y bws yn barod.

Mae rhieni'n dweud bod penderfyniadau ar gludiant ysgol yn "cipio dewisiadau plant" o ran pa ysgol i fynd iddi.

Mae pryderon hefyd ynghylch yr effaith ar yr amgylchedd, gyda rhieni'n dilyn bysiau ysgol, o ddrws i ddrws, yn eu ceir.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, er eu bod yn "cydnabod yr hawl i fynegi dewis am ysgol benodol", dydy'r dewis hwnnw "ddim yn cyflwyno hawl i gludiant am ddim".

'Poeni am beidio cael mynd ar y bws'

Bydd Laine ac Alana yn dechrau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi ym mis Medi ac mae'r ddwy yn poeni am sefyllfa trafnidiaeth.

Dywedodd Laine: "Nes i wir fwynhau'r diwrnod pontio ond dwi'n poeni'n ofnadwy am y bws ysgol ac maen fy ngwneud yn bryderus iawn am fynd fyny i'r ysgol uwchradd."

Ychwanegodd Alana: "Dwi'n poeni am beidio cael mynd ar y bws oherwydd y polisi yma.

"Mae fy mrawd ym mlwyddyn 8 ac yn cael mynd ar y bws, felly pam ddim fi?"

Miesha Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Miesha Evans yn dweud y gallai orfod rhoi'r gorau i'w gwaith oherwydd nad yw ei mab yn gallu mynd ar y bws i'r ysgol uwchradd

Yn fam i dri o blant, ac yn gweithio fel gwarchodwr plant, mae Miesha Evans yn ystyried lleihau ei horiau, neu roi'r gorau i'w gwaith yn llwyr, er mwyn cludo ei mab i'r ysgol.

Fe gafodd wybod eu bod yn methu allan ar fws o 0.2 milltir, a bod yr ysgol agosaf i'r cartref y tu allan i'r sir.

"Mae sawl plentyn yn ein pentref eisoes yn teithio ar y bws, ac mae'n stopio y tu allan i'r tŷ," meddai.

"Mae seddi gwag arno, ond dyw'r cyngor ddim yn gadael fy mab i fynd arno.

"Rydym yn rieni hunangyflogedig sy'n gweithio yn ystod argyfwng costau byw ac yn ceisio gwneud ein gorau.

"Nid yw'n bosibl i ni gasglu ein plant iau o'r ysgol gynradd a chyrraedd yr ysgol uwchradd mewn pryd."

'Diogelwch a lles mor bwysig'

Ychwanegodd: "Dwi hefyd yn gofalu am blant pobl eraill [fel rhan o'r busnes gwarchod plant] ac efallai na fyddaf yn gallu darparu'r gofal hwnnw mwyach, sy'n cael effaith ar ein hincwm ond hefyd ar oriau gwaith yr holl deuluoedd hynny hefyd.

"Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n briodol i blentyn 11 oed fod yn loetran o gwmpas y dref yn aros am fysiau cyhoeddus, yn enwedig yng nghanol y gaeaf.

"Ar fws ysgol mae gan y gyrrwr wiriad DBS, mae cod ar gyfer ymddygiad os oes problemau gyda bwlio - nid oes dim o hynny ar fws cyhoeddus.

"Mae diogelwch a lles ein plentyn mor bwysig i ni."

Ar draws Cymru, bydd awdurdodau lleol yn darparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion pump i 16 oed sydd ddim yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol agosaf.

Mae disgyblion ysgol uwchradd yn gymwys os ydyn nhw yn byw dros dair milltir o'u hysgol ddalgylch.

Mae'r pellteroedd yn cael eu mesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf, ond mae rhieni yng Ngheredigion yn dweud nad yw'r polisi hwn yn addas mewn ardaloedd gwledig lle mae'n rhy bell i gerdded.

Mewn dinasoedd mwy, mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn well yn gyffredinol, sy'n golygu bod mwy o opsiynau i rieni sy'n anfon eu plant i ysgol sydd ymhellach i ffwrdd.

Ond mae hyn hefyd yn arwain at gost ychwanegol.

Yn 2023, nododd adroddiad gan Gyngor Ceredigion 43% o gynnydd mewn cludiant o'r cartref i'r ysgol, a ychwanegodd £543,000 at y gyllideb flynyddol.

Naomi Jones sydd wedi sefydlu ymgyrch 'Gadewch i Ni Deithio'
Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi Jones wedi sefydlu ymgyrch yn galw am "gludiant ysgol teg, diogel a hygyrch" i bob plentyn

Mae grŵp ymgyrchu Gadewch i Ni Deithio yn dweud nad yw polisi Cyngor Ceredigion yn ystyried amgylchiadau unigryw cefn ardal wledig.

Mae gan Naomi Jones ferch sy'n mynd i Ysgol Uwchradd Aberteifi ym mis Medi, ac mae hi wedi sefydlu'r ymgyrch i alw am "gludiant ysgol teg, diogel a hygyrch" i bob plentyn.

"Mae Ceredigion yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yn y DU ac rydym yn edrych ar lawer o deuluoedd yn gorfod lleihau eu horiau gwaith a'u hincwm er mwyn cael eu plant i'r ysgol ac yn ôl, ac ar yr un pryd mae cynnydd yn eu biliau tanwydd.

"Nid yw'n sefyllfa gynaliadwy."

'Dewis ysgol ddim yn rhoi hawl i gludiant am ddim'

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud nad yw eu "polisi yn gweithredu ar sail dalgylch nac awdurdod lleol" a bod yr ysgol addas agosaf yn cael ei diffinio gan eu polisi yn unig.

"Mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg y Cyngor yn darparu cludiant cartref i ysgol am ddim i'r ysgol/coleg addas sydd agosaf i'r dysgwr yn unig, fel y diffinnir gan feini prawf pellter ac addasrwydd," meddai llefarydd.

"Nid yw hon yn sefyllfa unigryw, ac mae'n gyson â'n cyfrifoldebau statudol.

"Er bod y Cyngor yn cydnabod yr hawl i fynegi ffafriaeth ar gyfer ysgol benodol, nid yw'r dewis hwn yn cyflwyno hawl i gludiant am ddim.

"Pan fydd rhiant neu warcheidwad yn dewis ysgol nad yw'n cael ei hystyried fel yr ysgol addas agosaf gan y Cyngor, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb y rhiant neu'r gwarcheidwad i wneud ac ariannu trefniadau cludiant priodol.

"Er ein bod yn gwerthfawrogi y gallai'r rhai sy'n mynegi ffafriaeth i fynychu ysgol heblaw yr ysgol addas agosaf fod yn siomedig nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim, rhaid i'r Cyngor ystyried ceisiadau y mae'n eu derbyn yn unol â'r polisi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig