Andy John: 'Penderfyniad iawn i ymddeol ond yn boenus ofnadwy'

Disgrifiad,

Mae'r cyn-Archesgob Andy John yn siarad am y tro cyntaf er ei ymddeoliad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Archesgob Cymru wedi dweud wrth y BBC mai ei benderfyniad i ymddeol oedd y peth iawn i'w wneud er ei les ei hun a dyfodol yr Eglwys.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd y Gwir Barchedicaf Andrew John bod y penderfyniad wedi cael effaith fawr arno.

Dyma ei gyfweliad cyntaf ers i drafferthion Cadeirlan ac Esgobaeth Bangor ddod i'r amlwg.

"Mae wedi bod yn boenus ofnadwy ac mae fy iechyd meddwl wedi ei effeithio mewn modd 'sai byth wedi ei brofi o'r blaen, ond dyna beth sy'n digwydd os y'ch chi'n wynebu gwneud penderfyniadau mawr," meddai.

Fe wnaeth y Parchedig Andy John ddweud ei fod yn ymddeol yn syth ychydig dros wythnos yn ôl, wedi cyfnod helbulus i Gadeirlan ac Esgobaeth Bangor ac wedi i ddau grynodeb o adroddiadau damniol gael eu cyhoeddi.

Roedd y crynodebau yn sôn am "gymylu ffiniau rhywiol", yfed alcohol i ormodedd a gwendidau diogelu a llywodraethiant yng Nghadeirlan Bangor.

'Roedd e'n hunllefus'

Er nad oes awgrym o gwbl bod yr Archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol, fe ddywedodd corff cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru bod angen "newid mewn arweinyddiaeth, gweithdrefnau a llywodraethu yn Esgobaeth Bangor".

Wedi cyhoeddi'r crynodebau, roedd yna alwadau ar y Parchedig John i ymddiswyddo ac am ymchwiliad annibynnol i'r Esgobaeth.

Dywedodd nad oedd ganddo fawr o ddewis ond ymddeol o'i swydd.

"I fod yn bresennol yn y cyfarfod ac i glywed pobl bron yn gofyn am eich ymddiswyddiad, roedd e'n hunllefus," meddai.

"Dwi'n 'nabod y bobl yn y corff yna a dwi'n meddwl na ches i'r cyfle i sôn am y newidiadau ry'n ni 'di 'neud yn y Gadeirlan a'r Esgobaeth, nac egluro pa mor gymhleth yw pethau, ond wedi clywed ganddynt dwi ddim am fod yn broblem i'r fainc chwaith.

"Dwi'n hollol siŵr mi oedd e'n benderfyniad da ar gyfer y dyfodol."

'Sioc clywed am oryfed'

Yn ogystal â pheidio cael y cyfle i bwysleisio y gwelliannau oedd eisoes wedi cael eu gwneud, dywedodd ei bod yn edifar ganddo i beidio bod yn fwy agored gyda'r wasg am yr hyn oedd yn digwydd.

Roedd hynny'n anodd, meddai, gan fod yn rhaid i'r Eglwys ddangos bod y wybodaeth a roddwyd gan y rhai a roddodd dystiolaeth yn gwbl gyfrinachol.

Wrth siarad â John Roberts am y tro cyntaf wedi i gynnwys yr adroddiadau ddod i'r amlwg, ychwanegodd Andy John nad oedd yn ymwybodol o'r "diwylliant yfed" yng nghôr Cadeirlan Bangor.

"Mae'r syniad, ar ôl gwasanaethau mawr, bod y côr yn mynd allan yn hwyr yn newyddion trist i fi - trist iawn iawn.

"Oherwydd mae beth sy'n digwydd tu allan i'r Sul yn adlewyrchu ar beth sy'n digwydd ar y Sul hefyd.

"Mae'n rhoi'r argraff fod beth sy'n digwydd yn y gadeirlan yn ofnadwy. Roedd hi'n sioc i glywed am oryfed yn y gadeirlan."

Dywedodd bod honiadau am bobl yn gwneud jôcs amhriodol pan oedd plant o gwmpas yn "annerbyniol", a bod newidiadau i'r diwylliant yn angenrheidiol.

Andy John
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Andy John yn cydnabod camreolaeth ariannol, ond yn amddiffyn teithiau tramor

Mae'r Parchedig Andy John yn cydnabod bod camreolaeth ariannol wedi bod yn broblem a bod "sawl camgymeriad wedi'i wneud".

Ond dywedodd nad oedd yn anhapus bod oddeutu £20,000 wedi cael ei wario ar ddau drip i Rufain ac un i Ddulyn.

"Dwi ddim yn anhapus ynglŷn â'r teithiau yna o gwbl oherwydd fe gytunodd yr esgobaeth ar dair pererindod," meddai.

"Dwi'n credu fod hyn yn dda. Gyda dros 20 o bobl yn mynd dramor, doedd e ddim yn ormod o gwbl."

'Y diffyg sylw 'nes i roi yn faich'

Mae'n cyfaddef na roddodd ddigon o sylw i'r Gadeirlan a bod ei rôl fel Archesgob yn golygu ei fod wedi gorfod ymroi i ddiddordebau ehangach.

Wrth gael ei holi am yr hyn roedd e'n fwyaf edifar amdano, atebodd gan ddweud mai peidio sicrhau bod strwythur yn y Gadeirlan i ddelio â rhai o'r materion, a'i fod ef wedi bod yn rhan o'r broblem.

"Dwi wedi bod yn ffynnon o dramgwydd - o dan fy ngoruchwyliaeth mae pethe wedi digwydd ac mae'n rhaid i fi fyw hynny yn y dyfodol hefyd.

"Mae Esgobaeth Bangor yn lle ffantastig - mae'r anafiadau sydd wedi eu gwneud i'r esgobaeth oherwydd y diffyg sylw 'nes i roi at y problemau yn faich arna' i."

Dywedodd ei fod yn credu y gallai gymryd blynyddoedd i sicrhau newid, ond bod yn rhaid i'r Eglwys weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod newid yn digwydd.

Dywedodd y Parchedig Andy John nad yw'n credu ei fod wedi cael ei drin yn annheg ond ei fod wedi'i synnu gan rai o'r sylwadau amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi yn esgob a dwi yn arweinydd yn yr eglwys a mae'r pethau yma wedi digwydd yn fy amser i a dwi'n siŵr taw'r peth da yw rhoi'r cyfle i rywun arall gymryd cyfrifoldeb dros y dyfodol."

Mae cyfweliad y cyn-Archesgob Andy John i'w glywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ar Radio Cymru ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig