Cath Ayres: 'Dathlu gweithio tu fas i Gymru yn hala fi'n benwan'

Roedd Cath Ayres yn chwarae rhan Nia yn y gyfres dditectif, Missing You ar Netflix
- Cyhoeddwyd
Mae'r actores Cath Ayres wedi dweud bod gweld Cymry'n dathlu llwyddiannau yn fwy os ydyn nhw'n digwydd tu hwnt i Glawdd Offa yn ei gwneud hi'n "benwan".
Dywedodd bod y sylw mae hi wedi ei gael yng Nghymru ers gwneud cyfres ddiweddar i Netflix wedi bod yn "anghrediniol" - er mai'r un yw safon ei gwaith pan mae hi'n gweithio yn ei gwlad ei hun.
Mae hi'n dweud bod hynny'n batrwm cyffredin ymysg Cymry - a'i bod hi'n euog o wneud hyn ei hun hefyd.
Yn ôl y digrifwr Steffan Alun, dyna oedd y rheswm dros ei benderfyniad i weithio yn Lloegr, a bod hynny wedi arwain at gael mwy o waith yng Nghymru.
Mae'r ddau wedi bod yn trafod sefyllfa'r celfyddydau ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru.

Ymysg y rhai oedd yn y drafodaeth ar raglen Ffion Dafis oedd y cerddor opera Leah-Marian Jones, yr actores Cath Ayres, y digrifwr Steffan Alun a'r cerddor Llinos Owen
Mae Cath Ayres yn wyneb cyfarwydd ers blynyddoedd ar ôl actio mewn cyfresi fel Byw Celwydd ac Un Bore Mercher / Keeping Faith.
Mae hi hefyd wedi ymddangos yn Coronation Street ac yn ddiweddar bu'n actio yn y gyfres Missing You, sydd ar Netflix.
Dywedodd ar raglen Ffion Dafis: "Ma' 'da ni'r meddylfryd yma fi'n credu fel perfformwyr lle ni'n meddwl - ni'n dechre'n gyrfa yng Nghymru ac wedyn 'you've made it' pan wyt ti'n cael swyddi tu allan i Gymru, sy' yn hala fi yn benwan.
"Ni'n dathlu pobl gymaint yn fwy os ma' nhw wedi neud rhywbeth tu fas i Gymru.
"Er enghraifft nes i wneud cyfres llynedd i Netflix.
"Ro'n i'n ffodus iawn, job grêt ac o'n i wrth fy modd yn cael neud e, ond ma'r sylw fi wedi cael o Gymru - y sylw yn fwy yng Nghymru ers 'neud swydd tu allan i Gymru - ma'n anghrediniol.
"Ni'n creu gwaith fel hyn yng Nghymru trwy'r amser - neu oedden ni'n neud e lot ond mae cyllidebau yn golygu bod llai nawr - ond pam nag y'n ni yn dathlu be' sydd gyda ni yng Nghymru?
"Mae o jest yn hala fi'n benwan bod ni - a ni gyd yn euog o fe - yn dathlu pobl gymaint yn fwy am neud rhywbeth tu fas."

Bydd Steffan Alun yn perfformio eto yng Ngŵyl Caeredin eleni
Yn ystod y drafodaeth dywedodd y digrifwr Steffan Alun ei fod wedi penderfynu canolbwyntio ar weithio tu allan i Gymru ar un cyfnod er mwyn cael mwy o waith safonol yng Nghymru.
Dywedodd nad oedd erioed wedi trafod y peth yn gyhoeddus ar blaen.
Meddai: "Be' o'n i'n gweld oedd yr opsiyne i fod yn ddigrifwr llwyddiannus yng Nghymru oedd naill ai model Tudur Owen neu model Elis James, achos nhw oedd y ddau ddigrifwr mawr oedd gyda ni sydd wedi datblygu yn y cyfnod diweddar.
"Ac mae'r ddau ohonyn nhw yn gigio yn Saesneg."
Yr heriau sy'n wynebu perfformwyr yn y byd celfyddydol
Rhaglen arbennig am sefyllfa'r celfyddydau ar Ffion Dafis ar BBC Sounds
Dywedodd bod nifer o bobl "ffantastig" yn gweithio yn y cyfryngau Cymraeg sy'n gefnogol i artistiaid Cymraeg, ond bod llwyddiant dros y ffin yn sicr yn help i gael gwaith.
"Fi 'di cael llwyth o waith yn Gymraeg… ond ddim falle y gwaith mwya', nid falle y gwaith mwya' cyffrous, a hefyd nid y datblygiad sydd ei angen," meddai.
"Nes i gyfres blant oedd yn ffantastig i 'neud ac yn lot o hwyl - ond fi yn teimlo bydde fi ddim 'di gael e oni bai bod fi wedi 'neud yn wych yng Nghaeredin yn Saesneg.
"A chwarae teg roedd cynhyrchydd Cymraeg wedi dod i wylio fi yng Nghaeredin - maen nhw yn gwneud y gwaith ac yn dod i chwilio - ond ti yn teimlo, pam ddyle hynny ddigwydd?"
'Dweud yr un peth bob tro'
Ychwanegodd mai problem ddiwylliannol oedd wrth wraidd y sefyllfa - nid problem unigolion o fewn y proffesiwn.
Dywedodd Cath Ayres ei bod hi ei hun yn euog o roi llai o bwyslais ar ei gwaith yn y Gymraeg wrth drafod ei gyrfa gydag actorion eraill yn Lloegr.
"Pam fi'n gweithio tu allan i Gymru fi'n clywed fy hunan yn d'eud yr un peth bob tro, a fi'n casáu fy hunan am 'weud e," meddai.
"Ma' pobl yn gofyn 'be' wyt ti wedi 'neud cyn hyn' - jest sgwrs gydag actorion ar set tu allan i Gymru - a'r ateb bob tro 'oh, I've just done kind of S4C things'.
"Ti'n clywed dy hunan yn 'neud a ti'n meddwl 'os ydw i'n 'neud e fel person sy'n trio ymladd yn erbyn hynny, pa obaith sydd gyda ni?'"
Bydd y drafodaeth i'w chlywed ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru dydd Sul, 6 Gorffennaf am 13:00 ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Mehefin