Y bachgen o Ddolgellau sy'n anelu i fod yn bencampwr byd
- Cyhoeddwyd
Mae gweini mewn bwyty'n gallu bod yn heriol, gyda gofynion o'r gegin a gan gwsmeriaid yn gallu creu tensiynau a phwysau aruthrol.
Ond mae un bachgen 18 oed o Ddolgellau yn gwneud enw i'w hun yn y diwydiant, a chreu gymaint o argraff nes ei fod wedi ennill tlws gweinydd ifanc gorau Cymru.
Yn dilyn y llwyddiant yma ar lefel genedlaethol, mae Jack Williams yn mynd ymlaen i gynrychioli'r genedl ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Singapore ddiwedd y flwyddyn.
Siaradodd Cymru Fyw gyda Jack i glywed mwy am y wobr, ei yrfa a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
“'Young Chef, Young Waiter' oedd enw'r gystadleuaeth", meddai Jack.
"Do’n i ddim yn gwybod amdano fo tan ddechrau’r flwyddyn. Roedd ‘na 12 person yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn timau o dri – un chef, un gweinydd ac un mixologist [gwneud coctêls] yn cydweithio i greu bwydlen a phrofiad ciniawa i’r beirniaid.”
Yn 18 mlwydd oed, Jack oedd y ieuangaf yn yr holl gystadleuaeth, gyda'r chef a enillodd yn 28 oed.
“Nes i ennill y gystadleuaeth waiter, nath y mixologist o’n i efo ennill ei gystadleuaeth o, a daeth ein chef ni'n ail."
Cynrychioli Cymru
Roedd ennill y gystadleuaeth yng Nghymru'n golygu bod Jack yn mynd ymlaen i gynrychioli'r wlad mewn cystadleuaeth ryngwladol.
“Mae’r gystadleuaeth ‘ma’n digwydd ar draws y byd, ac mae ychydig bach yn wahanol mewn gwahanol wledydd.
“Gan bo' fi wedi ennill cystadleuaeth gweinydd ifanc gorau Cymru, dwi’n mynd i Singapore ar gyfer cystadleuaeth y byd.”
Mae Jack yn gweithio yng Ngwesty Penmaenuchaf ger Dolgellau, sydd wedi cael perchnogion newydd yn gymharol ddiweddar.
“Nhw 'nath fy annog i i drio am y wobr – o’n i’n gorfod gwneud cais i ddechrau.”
Mae Penmaenuchaf yn eiddo i Seren – grŵp lletygarwch preifat sy’n cael ei arwain gan Neil a Zoe Kedward. Yn ogystal â Gwesty Penmaenuchaf mae’r grŵp yn berchen ar y Grove yn Arberth, a thair bwyty; y Beach House ym Mae Oxwich, Lan y Môr yn Llanusyllt a’r Fernery yn Arberth.
'Sylw i bob manylyn'
Felly, yn ôl Jack, beth sy'n gwneud gweinydd da?
“Mae rhaid gallu dangos dy bersonoliaeth, a gallu addasu i ddelio efo gwahanol fathau o bobl hefyd, achos mae pawb ti’n gwrdd am fod yn wahanol. Mae rhaid ti bron iawn diddanu pobl, ac mae rhai pobl yn haws i wneud efo na eraill! Felly mae’n bwysig trio gwneud argraff dda o’r dechrau.
“Mae rhoi dy sylw i bob manylyn bach yn bwysig, ac mae angen gweithio’n galed ac yn gywir i wneud siŵr bod petha’n iawn ac yn ei le fel y dyla fo fod."
Astudio'r fwydlen
Yn ogystal â gallu ymdrin â'r cwsmeriaid yn effeithiol, mae'n rhaid i Jack hefyd fod yn wybodus ynglŷn â'r hyn mae'r bwyty yn ei gynnig.
"Cyn dechrau pob shifft gyda'r nos 'dan ni'n cael briefing, ac os oes 'na rywbeth newydd yn cael ei gynnig 'dan ni'n dysgu am hwnna - ble mae'n dod, sut mae'n cael ei goginio a phethau fel'na.
"Dwi'n gweithio yn y gegin bob dydd Mawrth, a be' sy'n dda am hynny ydy dwi'n cael gweld sut mae popeth yn cael ei wneud, a gallu trafod y wybodaeth yna efo'r cwsmeriaid wedyn. Dwi hefyd yn gallu trafod y bwyd a'r dulliau coginio efo fy nghydweithwyr front of house.
"Efo gwin, mae'r bosus 'di bod yn dda iawn efo fi a dwi 'di dysgu lot ar sut i baru'r gwin, ble maen nhw'n dod a'r dulliau cafodd ei ddefnyddio i greu nhw.
"Mae Dylanwad Da a Llinos [Rowlands] sy'n rhedeg y lle wedi fy helpu i ddysgu am win hefyd."
Cystadlu yn Singapore
Felly, beth all Jack ei ddisgwyl o'r gystadleuaeth yn Singapore?
"Dwi heb gael y brief eto, dwi'n disgwyl ei gael o fis Hydref - rhaid disgwyl tan ar ôl i gystadleuaeth 'Young Chef, Young Waiter' Hong Kong gael ei gynnal.
"Dwi'n disgwyl y bydden ni'n gwybod be' 'di'r fwydlen cyn mynd i Singapore, ac mi fydda i'n gallu cynllunio ar gyfer y cyflwyniad ar y byrddau.
"Mi fyddan ni isio mynd â rwbath o Gymru draw 'na, a 'dan ni'n meddwl am hynny rŵan. Bydd pawb yn dod â chynhwysion a chynrychiolaeth o'u gwledydd nhw i'r gystadleuaeth, a dangos y talent sydd ganddyn nhw."
Bydd rhaid i Jack hefyd fod yn ymwybodol o themâu eraill all fod yn allweddol yn y gystadleuaeth.
"Mae cynaliadwyedd yn agwedd bwysig o letygarwch erbyn heddiw, a dwi'n disgwyl i hwnna fod yn rhan fawr o'r gystadleuaeth - o'dd o'n ran o gystadleuaeth Cymru, ac felly mae angen i'r fwydlen fod yn gynaliadwy. Enghraifft o hyn yw bod y mixologist yn defnyddio'r scraps o'r gegin ar gyfer cynnwys nhw yn y coctêls."
Agor bwyty yn Nolgellau rhyw ddydd?
Mae Jack yn trafod rhywfaint o'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
"Dwi ddim isio rheoli gwesty - dwi'n hoffi aros mewn gwesty ond dwi ddim yn meddwl byswn i isio bod berchen un, achos fyswn i isio canolbwyntio ar y bwyd ac agor restaurant fy hun."
Er y bydd Jack yn cystadlu'n rhyngwladol ymhen deufis, mae'n falch iawn o'i gynefin ac yn rhagweld y bydd yn gallu sefydlu ei hun yno yn yr hirdymor.
"Dwi wedi bod yn meddwl symud i America mewn cwpl o flynyddoedd. Ond mae 'na lot o gyfleoedd yn Nolgellau 'fyd, mae wedi gwella a gwella yma drwy gydol fy mywyd i, ac mi fyswn i'n sicr isio agor restaurant yn y dre rhywbryd."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd29 Awst 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024