Statws arbennig yn rhoi 'hygrededd' i wisgi Cymreig

Nigel Short yn nistyllfa Penderyn yn Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd cwmni Penderyn, Nigel Short, yn dweud bod cael statws arbennig yn helpu hyrwyddo wisgi Cymreig

  • Cyhoeddwyd

Mae rhoi statws arbennig i wisgi brag sengl Cymreig wedi rhoi “hygrededd” i’r ddiod, meddai cadeirydd cwmni Penderyn.

Dywedodd Nigel Short bod y ddiod “o safon byd-eang” a bod derbyn y statws i’w warchod y llynedd wedi cadarnhau hynny.

Mae wisgi brag sengl ymhlith 20 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i gael statws gwarchodedig (PGI).

Mae cig oen Cymreig, cennin a chaws Caerffili hefyd wedi’u gwarchod.

Pwrpas y statws PGI yw diogelu a hyrwyddo cynhyrchion o ranbarth neu wlad benodol.

Fe gymerodd hi dair blynedd i wisgi Cymreig gael ei warchod, gyda’r broses yn cynnwys archwiliad i gadarnhau bod y brag sengl wedi ei wneud yng Nghymru o gynhwysion Cymreig.

Mae Penderyn yn un o bum cynhyrchydd brag sengl Cymreig yng Nghymru sy’n gallu defnyddio’r statws PGI, sy’n eu hamddiffyn rhag dynwared ac yn rhoi amddiffyniad tebyg i’r hyn sydd gan wisgi o’r Alban ac Iwerddon.

“O amgylch y byd, yn llysgenadaethau Prydain ac yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru, rydych chi’n cael hygrededd a statws na fyddech chi’n ei fwynhau fel arall," meddai Mr Short.

"Felly mae'n rhoi tic mawr yn y blwch o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y cwmni distyllfeydd ym Mhenderyn ym Mannau Brycheiniog, Llandudno ac Abertawe

Mae pencadlys y cwmni ym Mhenderyn ym Mannau Brycheiniog, ac mae ganddyn nhw ddwy ddistyllfa arall yn Llandudno ac Abertawe.

Mae cynhyrchiant wisgi Cymreig yn fach iawn o gymharu ag allbwn Yr Alban, sydd werth bron i £6bn i economi’r DU.

Mae'r ffaith fod gwerthiant nwyddau drud yn arafu wedi taro’r diwydiant yn ddiweddar, ac mae Penderyn yn gobeithio y gall statws PGI ychwanegu at ei apêl.

“Ar hyn o bryd rydyn ni’n allforio i tua 40 o wledydd, gyda’r marchnadoedd mwyaf yn America, Ffrainc a’r Almaen,” meddai Mr Short.

“Rwy’n meddwl bod yr hygrededd, o gael [PGI] y llynedd, yn helpu hynny, oherwydd rhoddodd statws i ni sy’n cyfateb i wisgi Albanaidd neu Wyddelig.”

Cynnyrch Gwarchodedig

Ymhlith y cynhyrchion Cymreig sydd â statws gwarchodedig mae:

  • Cennin Cymreig

  • Cregyn Gleision Conwy

  • Eirin Dinbych

  • Halen môr Ynys Môn

  • Cig oen a chig eidion Cymreig

Disgrifiad o’r llun,

Caws Teifi ydy un o dri cwmni sy'n cynhyrchu caws Caerffili gyda'r gwarchodaeth arbennig

Ar Fferm Glynhynod yng Ngheredigion mae busnes teuluol yn gyfrifol am ddau gynnyrch sy'n elwa o statws PGI.

Mae distyllfa Da Mhile yn cynhyrchu wisgi brag sengl, tra bod Caws Teifi yn un o dri chynhyrchydd caws Caerffili i dderbyn gwarchodaeth.

“Rwy’n meddwl ei fod e’n wych iawn pan rydych chi’n ceisio cadw rhai cynhyrchion yn fyw, achos mi allai fod mor hawdd i ddilyn ffasiwn yn lle,” meddai Rob Savage-Onstwedder.

Sefydlodd ei rieni Caws Teifi ar ddechrau'r 1980au a bellach y cwmni ydy’r gwneuthurwr caws crefftus hynaf yng Nghymru.

Cafodd caws Caerffili ei enwi ar ôl y dref lle’r oedd yn cael ei werthu, ond yn draddodiadol roedd wedi’i wneud mewn ffermdai ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae caws Caerffili wedi cael statws PGI ers 2018

Mae amddiffyn y cynnyrch rhag dynwared hefyd yn ffordd bwysig o gadw dulliau a ryseitiau traddodiadol yn fyw, yn ôl Mr Savage-Onstwedder.

“Yn Ffrainc, mae’r PGIs hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Mae cymaint o fathau o gaws yn dal yn fyw yno oherwydd yr amddiffyniad sy’n cael ei roi i rai cawsiau o ardaloedd penodol, a dwi’n meddwl y gall PGI wneud yr un peth yng Nghymru,” meddai.

Cafodd y statws ei roi i gaws Caerffili yn 2018.

“Mae yna lawer o reolau a ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni gadw atynt yn ein rysáit, ac yn y cynnyrch terfynol, sy’n wych,” meddai Mr Savage-Onstwedder.

Pynciau cysylltiedig