Cerddwr wedi canfod corff dyn oedd ar goll mewn ardal anghysbell

Cafodd gweddillion Jordan Moray eu canfod ar 29 Awst 2025
- Cyhoeddwyd
Daeth cerddwr o hyd i weddillion dyn, oedd wedi bod ar goll ers chwe blynedd, mewn ardal anghysbell ger Merthyr Tudful, mae cwest wedi clywed.
Aeth Jordan Moray, o Gwmbach ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, ar goll yn 2019.
Clywodd Llys Crwner Pontypridd ei fod wedi cael ei ddynodi'n berson coll risg uchel ers mis Awst y flwyddyn honno.
Wrth agor y cwest ddydd Gwener, clywodd y llys na chafodd gweddillion Mr Moray eu canfod tan 29 Awst 2025, er i'r heddlu wneud gwaith chwilio helaeth.
Aelod o'r cyhoedd, oedd yn cerdded mewn ardal anghysbell ger Merthyr Tudful, ddaeth o hyd i'w gorff.
- Cyhoeddwyd10 Medi
Roedd Heddlu'r De wedi dweud yn gynharach eu bod wedi derbyn adroddiad am weddillion dynol ger Cronfa Ddŵr Llwyn-onn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal, ond nid oedd modd i'r patholegydd gadarnhau achos y farwolaeth.
Mynegodd y crwner cynorthwyol, Andrew Morse, ei gydymdeimlad i deulu Mr Moray.
Cafodd y cwest llawn ei ohirio.