Canfod dyn oedd ar goll 'yn ddiogel' yn Iwerddon

Chris ElleryFfynhonnell y llun, Llun Teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dyn oedd ar goll ers dydd Iau wedi ei ganfod yn "ddiogel" yn Iwerddon.

Bu criwiau achub yn chwilio am Chris Ellery, 54, fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau nad oedd wedi dychwelyd ar ôl bod ar daith cwch ar ei ben ei hun oddi ar arfordir Sir Benfro.

Nid oedd ei deulu wedi clywed wrtho ac fe aeth ei ferch, Kenzie, ati i ofyn am help i chwilio amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod Chris Ellery wedi croesi Môr Iwerddon yn ei gwch bach, a'i fod wedi torri lawr hanner ffordd rhwng y ddau arfordir a'i fod wedi ffeindio'i hun yn sownd heb unrhyw ffordd o gysylltu â neb.

Fe gyrrhaeddodd y lan yn Wicklow gan wneud ei ffordd i orsaf heddlu leol.

Roedd y criwiau'n chwilio o amgylch gogledd Sir Benfro, yn ochrau Bae Aberteifi a Bae St Brides.

Brynhawn Sadwrn, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod Mr Ellery wedi ei ganfod yn ddiogel.