Gwynedd: Beic modur 'ar ochr arall y ffordd' cyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Roedd beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi gwyro i ochr anghywir y ffordd, mae cwest wedi clywed.
Bu farw Neil Vaughan, 66, wedi i’w feic modur fod mewn gwrthdrawiad â char ar yr A4212 ger Capel Celyn ar 6 Ebrill eleni.
Roedd Mr Vaughan, oedd yn byw yng Nghaer, wedi bod yn rhan o grŵp beicio modur oedd yn teithio i gyfeiriad Trawsfynydd pan fu mewn gwrthdrawiad â char Hyundai glas am 11:24 y bore hwnnw.
Cadarnhawyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle, gydag adolygiad post mortem yn datgelu bod Mr Vaughan wedi dioddef gwaedu ar ei ymennydd.
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod y tad i ddau wedi cael ei ddisgrifio fel "pen petrol" a "beiciwr modur brwd ond gofalus".
Yn teithio y bore hwnnw gyda 14 o feicwyr ar eu taith gyntaf o'r flwyddyn, dywedwyd bod y grŵp yn adnabod y ffordd yn dda.
Ond dangosodd lluniau camera cerbyd fod beic Mr Vaughan wedi dod allan o dro yng nghanol y lôn anghywir, cyn taro'n erbyn yr Hyundai oedd yn teithio i gyfeiriad Y Bala.
Dywedwyd nad oedd gyrrwr y cerbyd wedi cael unrhyw gyfle i ymateb.
Clywodd y cwest bod cyflymder yn ffactor, fwy na thebyg, gydag ymchwilwyr Heddlu Gogledd Cymru o'r farn "pe bai Mr Vaughan wedi cymryd y tro ar gyflymder priodol, byddai wedi dod drwyddo'n ofalus".
Dywedodd y crwner Kate Robertson fod y ffordd y bore hwnnw yn "llaith ond mewn cyflwr da", ac nad oedd unrhyw alcohol na sylweddau eraill wedi eu canfod yng ngwaed Mr Vaughan.
Wrth gofnodi ei farwolaeth fel un o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd, dywedodd ei bod yn "debygol fod Mr Vaughan wedi goddiweddyd beic arall cyn colli rheolaeth".
Yn dilyn ei farwolaeth roedd teulu Mr Vaughan wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd" ac yn "ffrind annwyl i lawer".
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Neil oedd tad annwyl Karis a Keenan, gŵr i Kiki.
"Roedd yn angerddol am gerddoriaeth, antur a theithio.
"Bydd Neil yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei adnabod ac yn ei garu."