'Ymateb anhygoel' i lyfr sy'n 'dysgu Cymraeg' i anifeiliaid

Disgrifiad,

Mae’r ymateb i’r gyfrol wedi bod yn “anhygoel” yn ôl Anne

  • Cyhoeddwyd

Pan berfformiodd Taylor Swift yng Nghaerdydd dros yr haf, cafodd gopi o'r llyfr 'Teach your Cat Welsh' fel anrheg.

A hithau'n berchen ar gathod, cafodd y gantores bop fyd enwog gopi o'r llyfr gan Croeso Cymru.

Bwriad y llyfr yw annog pobl i ymarfer eu Cymraeg gyda'u hanifeiliaid anwes, ac mae awdur y llyfr Anne Cakebread yn gobeithio y bydd hynny'n "helpu hyrwyddo’r iaith Gymraeg".

“Mae’n rhaid bod gan Taylor Swift gath mae hi’n siarad Cymraeg gyda,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anne yn gobeithio fod ei llyfrau yn "helpu hyrwyddo’r iaith Gymraeg"

Nid 'Teach your Cat Welsh' yw'r llyfr cyntaf i Anne ei gyhoeddi.

Cyhoeddodd yr awdur a'r arlunydd y llyfr 'Teach Your Dog Welsh' ar ôl iddi achub milgi oedd ond yn ymateb i’r Gymraeg.

A hithau wedi dysgu Cymraeg ei hun, aeth Anne ati i ysgrifennu a dylunio’r llyfr er mwyn cyflwyno'r iaith i bobl mewn ffordd hwylus a hygyrch.

Mae’r llyfr bellach ar gael mewn 13 o ieithoedd gwahanol.

Ers 2018 mae dros 90,000 copi o'r llyfrau wedi eu gwerthu, ac yn ogystal â Taylor Swift, mae amryw o enwogion eraill yn berchen ar gopi hefyd.

Gobaith Anne, sy'n byw yn Llandudoch yn Sir Benfro, yw bod y llyfrau yn hybu mwy o bobl i ddysgu ac i ailgydio yn yr iaith mewn ffordd hwylus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfrau Anne bellach ar gael mewn 13 o ieithoedd gwahanol

Er ei bod hi wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae Anne yn dweud nad oedd hi wedi defnyddio'r iaith "o ddifrif" ac fe roddodd y gorau i siarad Cymraeg yn ei harddegau.

Ond penderfynodd ailgydio yn y Gymraeg ar ôl symud o Gaerdydd i Landudoch, gan ddweud fod hynny wedi ei galluogi i ddefnyddio’r iaith “bob dydd”.

“Oeddwn i wir moyn gwella fy Nghymraeg. Dwi’n meddwl ei fod yn bwysig ofnadwy - dwi’n hoffi gweld y byd gyda llygaid Cymraeg,” meddai.

Ychwanegodd bod symud i'r gorllewin wedi ei "hysbrydoli" fel arlunydd a'i bod yn mwynhau peintio darnau o gelf sy'n portreadu’r arfordir lleol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Anne ailgydio yn y Gymraeg ar ôl symud o Gaerdydd i Landudoch

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anne wedi cael ei hysbrydoli gan Landudoch wrth greu ei gwaith celf hefyd

Ailgartrefu ei milgi bach o’r enw Frieda yn 2011 wnaeth ysbrydoli Anne i greu'r llyfr er mwyn i bobl fedru dysgu Cymraeg drwy eu hanifail anwes.

Roedd Frieda yn ymateb i orchmynion yn Gymraeg yn unig, ac mae Anne yn cofio'r “lightbulb moment” pan gafodd hi’r syniad i ysgrifennu llyfr.

Mae'n cofio meddwl y byddai’r llyfr yn ddefnyddiol yn enwedig i “bobl Cymraeg sy’n dod o gefndir iaith Saesneg” fel hi.

Disgrifiad o’r llun,

Ailgartrefu milgi bach o’r enw Frieda wnaeth ysbrydoli Anne i greu'r llyfr

Gyda'r llyfr ar gael mewn 13 o ieithoedd - gan gynnwys Eidaleg, Almaeneg a Chernyweg - gobaith Anne yw annog pobl i ddysgu ieithoedd newydd neu i ailgydio mewn ieithoedd maen nhw wedi rhoi’r gorau i'w dysgu.

Mae’r ymateb i’r gyfrol wedi bod yn “anhygoel”, meddai.

"Mae pobl yn pigo lan y llyfr a jyst yn dechrau chwerthin, ond mae e’n eithaf defnyddiol hefyd,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae enwogion fel Olly Alexander, Ian McKellen a Taylor Swift yn berchen ar gopi o lyfrau Anne

Yn ôl Anne, mae’r llyfr wedi bod yn "Trojan Horse" wrth gyflwyno pobl i ieithoedd newydd.

Mae nifer o bobl adnabyddus yn berchen ar gopi hefyd, gan gynnwys Ian McKellen, Dawn French, Olly Alexander, a Joanna Page.

Nod Anne ar gyfer dyfodol y gyfrol yw cynnwys rhagor o ieithoedd, gan gynnwys iaith arwyddion Prydain.