Dyn 'wedi cyfaddef' lladd menyw wrth gael ei arestio - cwest

Cafwyd hyd i Lisa Fraser wedi marw o anafiadau niferus yn ei chartref yn Noc Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwest llawn wedi dechrau yn achos menyw 52 oed y daeth yr heddlu o hyd i'w chorff ag anafiadau niferus gan ryw fath o arf finiog yn ei chartref yn Noc Penfro.
Bu farw Lisa Fraser ar 13 Mai 2022 yn ei thŷ ar Military Road, ac fe gafodd dyn 41 oed o Hwlffordd, Matthew Harris, ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.
Bythefnos wedi hynny, ag yntau yn y ddalfa, fe ddaeth swyddogion carchar o hyd iddo'n crogi yn ei gell.
Mae disgwyl i'r cwest, sy'n cael ei gynnal yn Hwlffordd, bara tan ddydd Iau.
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd gŵr Lisa Fraser ei bod yn gweithio fel glanhawr cyn ei marwolaeth, ac yntau'n saer coed hunangyflogedig.
Roedd Julian Fraser wedi gadael y tŷ am 07:00, a doedd drysau blaen a chefn yr eiddo heb eu cloi.
Dywedodd iddo dderbyn galwad gan swyddog heddlu am 09:27 yn gofyn iddo fynd i orsaf heddlu Doc Penfro, ac fe ffoniodd ei ferch Phoebe, a roddodd wybod iddo bod ei wraig wedi cael ei lladd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Military Road yn dilyn adroddiadau bod dyn yn bygwth pobl yn yr ardal gyda chyllell fawr
Roedd yr heddlu wedi cael galwad, am 08:00, yn dweud bod dyn wedi bygwth gyrrwr trwy ffenestr ei gar gyda chyllell mawr ar gyffordd Military Road ag Owen Street.
Dywedodd wrth y gyrrwr: "Rwyt ti'n mynd i farw." Llwyddodd y gyrrwr i yrru'r car am yn ôl a dianc, ac fe gafodd dau swyddog arfog eu hanfon i'r ardal fel rhan o'r ymateb.
Dywedodd y Cwnstabl Simon Hayward ei fod o, a thri swyddog heddlu arall, wedi gweld Harris yn cerdded o dŷ Lisa Fraser gyda'i ddwylo yn yr awyr, ac yn dweud "bod angen iddo fynd i'r carchar".
Sylwodd y swyddogion bod gwaed ar wyneb ac esgidiau Harris.
'Euog o'r cyhuddiad'
Mewn adroddiad, dywedodd y Cwnstabl James Lang-Ford bod y dyn, tra'n eistedd ar garreg y drws, wedi dweud wrthyn nhw: "Rwy' newydd ladd Natsi i mewn yn fan'na."
Fe gadarnhaodd mai Matthew Harris oedd ei enw ac wedi i'r heddlu ddarganfod corff yn y tŷ fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mewn ymateb i hynny fe atebodd: "Euog o'r cyhuddiad."
Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi gwrthod cael cynrychiolydd cyfreithiol yn yr orsaf heddlu.
Pan gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, difrod troseddol, bygythiadau i ladd a lladrata ar 15 Mai, dywedodd Harris: "Rwy'n wallgof ac angen help."
Cafodd ei gadw yn y lle cyntaf yng Ngharchar Abertawe a'i symud i Garchar Long Lartin, yn Sir Caerwrangon.
Bu farw mewn ysbyty lleol ddiwrnod ar ôl cael ei ganfod yn crogi yn ei gell ar 27 Mai 2022.
'Ei ddwylo i weld yn crynu'
Yn ei dystiolaeth yntau, dywedodd Joe Davies, prentis trydanol ei fod yn cael lifft i'r gwaith ar ddiwrnod y farwolaeth pan welodd ddyn mewn siwmper hoodie du yn eistedd tu allan i dŷ ar Military Road.
Roedd "ei ddwylo i weld yn crynu", meddai, a'r dyn "o bosib yn siarad â'i hun".
Fe welodd gerbydau heddlu wrth y tŷ, wrth deithio'n ôl adref, a "meddwl gall e fod yn ymwneud â'r dyn a weles i" a chael "sioc" o ddysgu beth oedd wedi digwydd.
Clywodd y cwest gan dyst arall a welodd ddyn ar Military Road yr un diwrnod yn cario rhywbeth tebyg i "fag sbwriel gwag" hyd at ei ganol.

Roedd Matthew Harris yn cael ei gadw yng Ngharchar Long Lartin cyn iddo farw
Clywodd y cwest dystiolaeth gan James Frank Jarrett, oedd wedi cydweitho gyda Matthew Harris, ac a oedd yn gwneud gwaith yn ei garej ddiwrnod cyn y farwolaeth.
Daeth Harris yna, oedd ynddo'i hun yn "anarferol", mewn balaclafa, yn "mwmian" ac yn pwyntio i'w wddf ei hun.
Yn lle ateb cwestiynau Mr Jarrett ar lafar, fe ysgrifennodd ei atebion mewn llyfr nodiadau oedd yn y garej gan ddatgan bod ei fam wedi marw a'i fod "yn falch" o hynny.
Roedd y sefyllfa, meddai Mr Jarrett, yn "destun pryder" oherwydd cyflwr Harris - er y balaclafa roedd yn gweld fod "ei lygaid yn troi yn ei ben".
Fe gadarnhaodd ffrind yn ddiweddarach bod mam Harris heb farw ond bod ei rieni wedi torri cysylltiad yn dilyn ffrae.
Ychwanegodd Mr Jarrett ei fod yn ymwybodol bod Harris wedi bod "yn cymryd cyffuriau am gyfnod hir."
Mae'r cwest yn parhau.