Tiwtor Cymraeg yn Texas yn cwestiynu pa mor effeithiol yw apiau dysgu iaith

Mae Kate Phillips wedi addysgu Cymraeg yng Nghaerdydd, Efrog Newydd ac Ohio
- Cyhoeddwyd
Mae tiwtor Cymraeg sy'n byw yn America yn dweud bod angen mwy nag apiau i ddysgu'r iaith.
Dywedodd Dr Kate Phillips bod rhai pobl sy'n eu defnyddio'n rheolaidd am flynyddoedd yn "methu â dweud pethau sylfaenol".
Mae Dr Phillips, sy'n byw yn Texas, wedi dysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn cynnal gwersi ei hun.
Dywedodd ei bod wedi cael "sioc" ar ôl siarad â menyw oedd yn dal i gael trafferth er iddi ddefnyddio ap am flynyddoedd.
'Dysgwyr yn gwneud athrawon gwell'
Yn 2023, fe benderfynodd yr ap poblogaidd Duolingo beidio â diweddaru'r cwrs dysgu Cymraeg.
Mae dros ddwy filiwn o bobl wedi defnyddio'r cwrs Cymraeg ers ei lansio.
Ond mae Dr Kate Phillips, sy'n ffisiolegwr, yn dweud fod "llawer yn treulio blynyddoedd ar apiau a ddim yn cyrraedd unrhywle".
Mae'n cydnabod potensial apiau, ond "defnyddio nhw i ymarfer sydd eisiau... siarad mewn gwersi a dysgu am ramadeg yw'r ffordd o adeiladu sgwrs – a dyna lle dwi'n dod mewn".
Mae'n rhoi pwyslais ar ramadeg yn ei gwersi "oherwydd yn fy mhrofiad i, mae oedolion yn gwerthfawrogi gwybod y rheswm pam".

Fe lansiodd Duolingo y cwrs Cymraeg cyntaf yn 2016
Dywedodd Dr Kate Phillips - a ddysgodd i siarad Cymraeg pan yn oedolyn ac yn byw yng Nghaerdydd - fod pobl yn aml yn troi at eraill sydd wedi dysgu'r iaith i gael cyngor.
"Roedd fy ngŵr yn anobeithiol yn fy helpu," meddai, "gan fod e'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf dyw e ddim yn meddwl am y rhesymau dros dreiglo ac ati, mae e'n treiglo'n awtomatig.
"Dwi wir yn credu bod dysgwyr yn gwneud athrawon gwell achos dwi'n deall y problemau."
Mae taith a pherthynas Dr Phillips â'r Gymraeg "wedi mynd o un lle i'r llall".
Ar ôl dysgu, dechreuodd gynnal gwersi yng Nghaerdydd, cyn symud i America.

Mae Dr Kate Phillips yn ffisiolegwr ond hefyd yn diwtor Cymraeg
Bellach mae wedi cynnal gwersi yn Efrog Newydd, Ohio ac nawr ar-lein.
"Fe symudon ni i America bron i 20 mlynedd yn ôl ac ar ôl byw yn Connecticut am ychydig fe symudon ni i New Jersey, a daethon ni o hyd i fwyty Cymreig yn Brooklyn yn Efrog Newydd," meddai.
Yno roedden nhw'n mwynhau cymdeithasu a gwylio gemau rygbi Cymru a "dysgon ni bod diddordeb gan bobl yno yn y Gymraeg felly es i at y perchnogion a gofyn, 'Why don't I give free Welsh lessons here?'."
Fe gytunon nhw, a dyna sut ddechreuodd y gwersi Cymraeg yng nghanol Brooklyn.
'Ble bynnag dwi'n mynd ma' 'na alw'
Mae'n egluro ei bod "wedi symud eto, rai blynyddoedd wedyn, story of my life, i Ohio".
Cafodd sioc fod gan gymaint o bobl a oedd yn byw yno rhyw gysylltiad â Chymru.
Drwy gydweithio â Chymdeithas Gymreig Central Ohio, fe ddechreuodd gynnal gwersi Cymraeg yno hefyd.
"Ble bynnag dwi'n mynd mae 'na alw am y Gymraeg," meddai.

Symudodd Dr Kate Phillips gyda'i theulu i America yn 2007 ond mae hi a'i gŵr Geraint am ddychwelyd i Gymru eleni
Bellach, mae'n byw yn Texas ond yn bwriadu symud yn ôl i Gymru eleni ac mae am glywed mwy o Gymraeg yn Sir Benfro.
"Dwi ddim yn deall Sir Benfro... gallech chi fod mewn un lle ac mae pawb yn siarad Cymraeg, a pum munud lawr y lôn does neb yno'n siarad Cymraeg," meddai.
"Dwi'n gobeithio dysgu mwy wyneb yn wyneb ar ôl dod yn ôl."
Mae'n gobeithio "dangos i bobl leol, dydy e ddim yn rhy anodd, dydych chi ddim yn rhy hen, does dim ots os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg perffaith, mae unrhyw beth yn well na dim".
Mae BBC Cymru Fyw wedi gwneud cais i Duolingo am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd12 Mai 2017