Merch 5 oed wedi'i hanafu ar reid ffair yn Llandudno

Stryd yn llandudno Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llandudno Victorian Exchange yn cael ei gynnal ar un o brif strydoedd y dref

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi ei lansio ar ôl i ferch bump oed gael ei hanafu tra ar reid mewn ffair yn Llandudno.

Dywed trefnwyr digwyddiad y Llandudno Victorian Extravaganza mai gwall dynol oedd ar fai am y digwyddiad ar y reid i blant - a oedd yn cynnwys dau blentyn.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys fynychu'r digwyddiad, ac fe gafodd un o'r plant ei chludo i'r ysbyty.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ymchwilio i'r digwyddiad.

'Gallai fod wedi bod lot gwaeth'

Dywed Chris Williams, cyfarwyddwr Digwyddiadau Cymunedol Llandudno - oedd yn trefnu'r digwyddiad - fod y plentyn yn "sefydlog" yn yr ysbyty, a bod ei rhieni wedi dweud "y gallai wedi bod lot gwaeth".

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Mostyn yn Llandudno ar 3 Mai.

Fe wnaeth Mr Williams rannu gwybodaeth am y digwyddiad mewn datganiad.

Mae'n nodi: "Cafodd ymchwiliad cychwynnol i'r reid ei gynnal ac fe wnaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ymweld â'r Llandudno Victorian Extravaganza yn dilyn y digwyddiad, gan ganiatáu i'r reid i barhau i weithredu.

"Er hyn, mewn parch i'r teulu, rydym wedi gofyn i'r reid fod ynghau am weddill y digwyddiad.

"Fe ddaeth ymchwiliad mewnol cychwynnol i'r casgliad mai gwall dynol a achosodd y digwyddiad."

'Dymuno gwellhad buan'

Mae'r datganiad hefyd yn nodi fod y trefnwyr mewn cyswllt â rhieni'r plant ac wedi cael gwybod bod y ferch sydd yn yr ysbyty yn sefydlog.

"Rydym yn dymuno gwellhad buan i'r teulu yn dilyn y digwyddiad ac rydyn ni yma i'w cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn."

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi mynychu'r digwyddiad, gan ychwanegu bod "teulu'r ferch wedi cael sylw meddygol mewn gorsaf cymorth cyntaf, ac fe gafodd y reid ei chau am weddill yr ŵyl."

Pynciau cysylltiedig