Pêl-rwyd: Cymru 70-55 Trinidad a Tobago

CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi ennill am yr eildro yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd, gan drechu Trinidad a Tobago o 70-55.

Roedden nhw ar y blaen o 18-14 ar y chwarter a 32-28 ar yr hanner, ac fe wnaethon nhw ymestyn eu mantais i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n gorffen yn bumed allan o chwech yng Ngrŵp F, a hynny yn ail rownd y gystadleuaeth.

Ddydd Mercher fe gollon nhw o 56-73 yn erbyn Uganda, a hynny ar ôl i Seland Newydd eu trechu o 83-34.

Roedd Cymru eisoes wedi colli i Jamaica a De Affrica, a churo Sri Lanka, yn y rownd gyntaf.

Mae ganddyn nhw un gêm ar ôl yn y gystadleuaeth, i weld pwy fydd yn gorffen yn 9fed neu 10fed, a hynny yn erbyn Fiji neu'r Alban ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig