Prif swyddog tân newydd eisiau 'newid diwylliannol enfawr'

Fin MonahanFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fin Monahan wedi cael ei benodi fel pennaeth newydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyflwyno newid diwylliannol o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru "yn farathon, nid sbrint", yn ôl y prif swyddog newydd.

Dywedodd y cyn-swyddog yn yr Awyrlu, Fin Monahan bod angen "newid diwylliannol enfawr" o fewn y gwasanaeth, ond y byddai hynny'n "cymryd amser hir iawn i'w gyflawni".

Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r gwasanaeth ar ôl i adroddiad ddatgelu diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.

Fe wnaeth y cyn brîf swyddog, Huw Jakeway, ymddeol yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad ar ddechrau'r flwyddyn.

Cafodd Stuart Millington ei benodi'n bennaeth dros dro ym mis Chwefror, ond yn fuan wedyn cafodd ei alw'n "fwli" a dywedodd Undeb y Frigâd Dân fod pethau wedi "gwaethygu" dan ei arweiniad.

Beth ydy'r cefndir?

Ym mis Ionawr, daeth adroddiad Fenella Morris CB i'r casgliad bod penaethiaid Gwasanaeth Tân De Cymru wedi goddef aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig y tu allan i'r gwaith.

Honiadau o rywiaeth ac ymddygiad ymosodol tuag at staff oedd wedi ysgogi lansio’r ymchwiliad, a ddaeth o hyd i "ddiffygion difrifol yn y gwasanaeth" ar ôl cael tystiolaeth gan dros 450 o staff.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd bod y gwasanaeth yn "goddef" diffoddwyr tân yn postio delweddau rhywiol yn eu gwisg swyddogol ar blatfform oedolion OnlyFans.

Ar ôl cyhoeddi'r canfyddiadau, ymddiheurodd y prif swyddog tân Huw Jakeway a chyhoeddi ei fod yn ymddeol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rheolaeth uniongyrchol dros y gwasanaeth yn dilyn yr honiadau.

Mae'r Is-Farshal Fin Monahan yn ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn gyrfa fel peilot ac yna arweinydd o fewn yr Awyrlu a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Mr Monahan: "Dwi 'di bod i mewn ers wythnos bellach a gallai ddweud bod gennym ni grŵp gwych o bobl allan yna, sy’n ymroddedig ac yn broffesiynol iawn.

“Dwi’n synhwyro grŵp o bobl sydd angen hwb i'w morâl ac mae'n rhaid i ni weithio drwyddo a chyflawni newid diwylliannol enfawr, a dyna pam rydw i wedi dod i mewn.”

Ond fe wnaeth gydnabod na fyddai hynny'n broses sydyn.

"Rydw i wedi sicrhau newid diwylliannol yn yr Awyrlu ac yn ehangach ym maes amddiffyn y DU.

"Mae newid diwylliannol yn farathon, nid sbrint. Mae'n cymryd amser hir i'w gyflawni.

“Mae’r tîm hyd yma wedi cyflawni tua 50% o argymhellion cychwynnol Fenella Morris, ond mae’n mynd i gymryd amser i’w cyflwyno nhw.

“Rydw i wedi cyrraedd ac rwy’n cyflymu’r rheiny, ond yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yw cynllun trawsnewid.”

'Pobl wedi cael eu siomi'

Ychwanegodd Mr Monahan bod adroddiad Fenella Morris wedi dod fel "sioc fawr" i lawer o bobl yn y gwasanaeth tân.

"Roedd llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan rai o’r bobl eraill yn y gwasanaeth tân ac achub, ac roedd y teimlad hwnnw o sioc yn amharu ar eu balchder."

Dywedodd ei fod eisiau gweithredu "un o'r newidiadau diwylliant mwyaf a mwyaf eang" mae'r sector erioed wedi'i weld.

Pan ofynnwyd i Mr Monahan a oedd o'n hyderus fod ei weithle'n un diogel, dywedodd: "Dim ond wythnos dwi wedi bod yma, felly mae'n anodd i mi farnu yn gyfan gwbl, ond yn sicr mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ers adroddiad Fenella Morris."

“Mae cyflawni hynny’n mynd i gymryd amser a byddaf yn sicr yn mynd â ni i bwynt lle bydd pawb yn ddiogel yn y gweithle.”