Dynes yn byw mewn ofn ar ôl dau brofiad 'erchyll' o stelcian
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o’r gogledd wnaeth brofi achos o stelcian ddwywaith yn dweud bod angen i heddluoedd wneud mwy i erlyn troseddwyr ac ei bod hi'n dal i fyw mewn ofn wedi profiadau "erchyll".
Yn ôl elusen Cymorth Byw Heb Ofn maen nhw’n derbyn dros 400 o adroddiadau o stelcian bob wythnos.
Mae arolwg diweddaraf troseddau Cymru a Lloegr yn dangos bod un ym mhob pump menyw yn profi stelcian yn ystod eu bywydau.
Mae lluoedd heddlu Cymru’n dweud bod taclo stelcian yn flaenoriaeth ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r drosedd.
Un sydd wedi dioddef yw Megan – nid ei henw iawn – o ogledd Cymru.
Mae Megan wedi profi stelcian ar ddau achlysur gan ddau berson gwahanol tra’n astudio yn y brifysgol yn Lloegr - gyda’r diweddaraf yn digwydd yn 2020.
“Roedd o’n gyfnod erchyll ac ofnus iawn. Dwi’n cofio bod yn y fferyllfa ac oedd o tu ôl i fi yn y ciw. O’n i’n dechrau gweld o bob tro o’n i’n mynd i siopa, hyd yn oed pan o’n i’n mynd i ochr arall y ddinas er mwyn ei osgoi o.
“A’r gwaethaf oedd un diwrnod o’n i’n cael cawod ac o’n i efo siampŵ yn llygaid fi a nesh i agor nhw ac roedd o yn fy ffenest yn watchad fi. Nes i sgrechian a nath o redeg i ffwrdd.”
'Dal i deimlo'r effeithiau'
Aeth Megan at yr heddlu ar y ddau achlysur i adrodd ei phrofiadau, ond fe gafodd hi’r un ymateb.
“Dwi’n cofio nhw’n trio gwneud pob dim fatha odd o’n bai fi a gofyn a oeddwn i’n dweud y gwir. O’n i fatha, pa fath o berson sa’n gallu dod fyny efo hyn? Roedd o’n dorcalonnus iawn. A heddwas nath deutha fi hyn, oedd yn rili siomedig”
“Dwi dal i deimlo’r effeithiau o’r profiadau nawr. Dwi methu cael cawod heb rywun arall yn y tŷ er enghraifft. Dwi hefyd yn poeni o hyd am fynd allan o’r tŷ. Mae’n rili anodd.”
Mae lluoedd heddlu’n dweud bod taclo stelcian yn flaenoriaeth.
Mae pob llu yn dweud bod ganddyn nhw staff penodol i nodi achosion lle gallai hi fod yn briodol i gyflwyno gorchmynion amddiffyn a’u bod nhw’n defnyddio amryw o fesurau fel hyfforddiant ychwanegol i alluogi’r holl staff i ofyn cwestiynau treiddgar iawn wrth nodi achosion posibl.
Mae Ann Williams yn cefnogi dioddefwyr yn ddyddiol yn ei rôl fel rheolwr llinell yr elusen Cymorth Byw Heb Ofn.
“Un broblem fawr ry'n ni’n gweld yw bob pobl ddim o hyd yn ymwybodol bod yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw yn stelcian. Mae pethau bach fel derbyn blodau a siocled yn gallu bod yn bryderus os yw’r perthynas wedi torri lawr,” meddai.
Dyw'r elusen ddim yn gofyn i bobl rannu eu manylion personol wrth gysylltu â nhw, a’r nod yw helpu pobl i rannu’n agored.
Dywedodd Ann: “Mae’r effeithiau’n gallu bod yn ddirdynnol. Mae’n gallu achosi trawma ac felly dydi o ddim yn rhywbeth i gymryd yn ysgafn.
"‘Dan ni yn galw ar yr heddlu i gymryd stelcian o ddifri i daclo’r broblem yma.
"Mae angen addysg a phan mae’r gorchmynion amddiffyn stelcian yma yn cael eu rhoi yn eu lle os dydyn nhw ddim yn cael eu cymryd o ddifri dydyn nhw ddim gwerth y papur maen nhw wedi’u hysgrifennu arno fo.”
Ym mis Ionawr 2020 cafodd yr heddlu’r grym i gyhoeddi Gorchmynion Amddiffyn Stelcian. Nod rhain yw amddiffyn dioddefwyr rhag aflonyddu pellach.
Mae'r heddlu'n gwneud cais i'r llys ynadon am orchymyn, ac os caiff ei ganiatáu - mae'n drosedd torri amodau gorchymyn.
Ond mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos mai pump gorchymyn amddiffyn rhag stelcian a gafodd eu cyhoeddi gan luoedd heddlu Cymru yn 2023. Derbyniodd yr heddlu 8,000 adroddiad o’r drosedd yn yr un cyfnod.
“Mae’r ffigyrau yn siomedig iawn, ond dyw nhw ddim yn sioc,” meddai Fflur Jones, rheolwr polisi Ymddiriedolaeth Suzy Lamplough sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr stelcian ar draws Prydain.
Dywedodd: “Ni wedi codi nifer o faterion systemig o ran ymateb yr heddlu i adroddiadau o stelcian ac un o’r rheini oedd bod nhw’n bychanu dioddefwyr. Ers 2020 maen nhw wedi gallu defnyddio gorchmynion amddiffyn ac mae’n hen bryd iddyn nhw ddechrau defnyddio nhw.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw’n cymryd stelcian o ddifrif. Mae hynny’n cynnwys creu swyddi penodol i ganolbwyntio ar y drosedd.
Cafodd Sally White ei phenodi i un o’r swyddi ym mis Medi.
“Mae mor bwysig cael rôl bwrpasol oherwydd mae effaith stelcian yn ddinistriol iawn,” meddai.
“Mae’n deg dweud nad ydyn ni bob amser wedi gwneud pethau’n iawn o’r blaen felly mae yna ddigon o waith i’w wneud i fynd i’r afael â hynny.”
Dywedodd Sally fod stelcian yn drosedd gymhleth ac nad yw'r arwyddion bob amser yn amlwg.
“Rydym wedi cyflwyno hyfforddiant ar draws yr heddlu ac asesiad risg arbenigol i alluogi’r holl staff i ofyn cwestiynau treiddgar iawn i nodi achosion posibl.”
Mae gweddill lluoedd Cymru hefyd yn dweud bod stelcian yn flaenoriaeth a'u bod nhw wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r drosedd.
Mae pob llu yn dweud bod ganddyn nhw staff penodol i nodi achosion lle gallai cyflwyno gorchmynion amddiffyn fod yn briodol.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.