Prinder cyffur ffibrosis systig yn rhoi bywydau 'yn y fantol'

Moddion Creon
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r cyffur Creon yn cael ei ddefnyddio i reoli symptomau ffibrosis systig

  • Cyhoeddwyd

Mae iechyd ac, o bosib, bywydau miloedd o bobol sy’n byw gyda'r cyflwr ffibrosis systig yn y Deyrnas Unedig "yn y fantol", yn ôl Aelod o Senedd Cymru.

Mae’r cyffur Creon, sy'n cael ei ddefnyddio i reoli symptomau'r cyflwr, yn brin ac yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae'r sefyllfa erbyn hyn yn "argyfwng".

Wrth i'r cyflenwad fynd yn fwy prin bob dydd, mae un tad o Gonwy yn poeni beth fydd hyn yn ei olygu i'w ddwy ferch sy’n byw hefo'r cyflwr.

Mae Imogen ac Anabel yn cymryd gwahanol feddyginiaethau tuag at y cyflwr, gan gynnwys y cyffur Creon.

"Cyn iddyn nhw ddechrau cymryd Creon doedden nhw methu rhoi pwysau ymlaen," meddai eu tad, David Fare.

"Pan mae’r genod yn bwyta, heb rhain, mae braster yn mynd syth trwodd a rhoi poen bol. Maen nhw’n gorfod cael un o’r rhain hefo bob 3-5 gram o fraster maen nhw’n ei fwyta."

Cyflwr geneteg ydi ffibrosis cystig sy’n cael effaith ar tua 11,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig - gyda 450 o’r rheini yn cael triniaeth yng Nghymru.

Mae'r cyflwr yn achosi mwcws gludiog i gasglu yn yr ysgyfaint a'r system dreulio gan achosi heintiau a phroblemau gyda threulio bwyd.

Mae 80% yn gorfod cymryd tabled fel Creon gyda phob pryd o fwyd i reoli symptomau’r cyflwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy ferch David Fare angen y cyffur Creon i ddygymod â symptomau ffibrosis systig

"Rhwng y ddwy 'dan ni’n mynd trwy 30 Creon bob dydd," meddai David Fare. "Mae un potel o’r cyffur yn para tua deuddydd.

Ar hyn o bryd mae’r cyffur yn brin, ac yn ôl David mae bod hebddo yn risg.

"Mae tua mis o gyflenwad gennym ni ar ôl. Does na’m byd i gymryd yn eu lle nhw. Ar y funud 'dan ni’n iawn ond mae’n rywbeth i boeni amdano yn y tymor hir."

Er bod triniaeth sydd ar gael i fonitro’r cyflwr wedi datblygu, mae’r sefyllfa fel mae hi ar hyn o bryd yn poeni nifer o deuluoedd fel David a’i deulu.

“Mae cyffuriau newydd ‘ma wedi dechrau gwella bob dim ac mae’r genod yn gallu byw bywydau normal erbyn hyn, ond pan mae problemau fel hyn yn codi, mae’n dadsetlo pethau.”

'Tipyn o argyfwng'

Mae'r AS Mabon ap Gwynfor yn galw am newid ar unwaith wedi i sawl un o'i etholaeth gysylltu yn poeni am y diffyg cyflenwad.

Dywedodd bod "wedi canfod nad ydi’r cyffur yn hawdd i’w gael ac felly methu cario ymlaen hefo’r gofal sydd ei angen arnyn nhw".

Ychwanegodd: "Mae’n dipyn o argyfwng o ystyried nad ydi’r cyffur yma sydd yn arbed eu bywydau nhw ar gael a bod rhaid i gleifion sydd angen y cyffur gwtogi arno neu yn achos rhai ei dorri allan yn llwyr.

"Mae’r ffaith eu bod nhw felly methu cael y cyffur er mwyn cael y maeth yma i’w cyrff yn golygu bod eu hiechyd nhw ac o bosib eu bywydau nhw yn y fantol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae prinder y cyffur yn golgygu bod bywydau "yn y fantol"

Mae’n galw am fwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth felly er mwyn datblygu math arall o gyffur er mwyn sicrhau fod y gofal a’r trinaieth ar gael ar gyfer pobl sydd â ffibrosis cystig a chlefydau tebyg.

"Mae’n bryder sylweddol. Dwi wedi bod mewn cysylltiad hefo’r Llywodraeth ac wedi rhoi pwysau arnyn nhw i drafod hefo Llywodraeth San Steffan. Mae angen gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio yn agosach er mwyn sicrhau bod cyflenwad o Creon ar gael ar gyfer y bobl sydd ei angen."

Dywed yr Ymddireidolaeth Ffibrosis Systig eu bod yn monitro cyflenwad Creon ar draws y DU ers diwedd 2023, pan roedd rhai yn profi ymyrraeth byr dymor i gyflenwadau.

Mae hynny, medden nhw, wedi achosi pryder a straen sylweddol, gyda rhai yn gorfod teithio i sawl fferyllfa i ddod o hyd i’r cyffur sydd yn hanfodol i’r rhieni sy’n byw hefo ffibrosis systig.

Ychwanegon nhw eu bod yn poeni fod rhai wedi eu gorfodi i newid eu deiet o ganlyniad i’r prinder mewn rhai achosion.

'Wynebu problemau cyson'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "cynnal parhad cyflenwad meddyginiaethau i'r Deyrnas Unedig yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig" ond eu bod yn "gweithio'n agos" gyda nhw a chyrff iechyd i sicrhau bod "unrhyw amhariad i'r cyflenwad yn cael ei leihau i'r rhan fwyaf o bobl" sy'n derbyn y feddyginiaeth.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "wynebu problemau cyson sy'n effeithio argaeledd meddygyniaethau gan gynnwys Creon”.

Ychwanegodd llefarydd eu bod hefyd yn "gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd ac eraill yn y gadwyn gyflenwi i geisio lleihau y risg i gleifion a sicrhau bod cynnyrch eraill ar gael tan bod eu meddyginiaeth arferol ar gael eto".

Pynciau cysylltiedig