Canfod 'problemau diogelwch' ar ail reid mewn ffair ble anafwyd 13

Parc Pleser Traeth Coney
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Barc Pleser Traeth Coney gau yn barhaol fis nesaf

  • Cyhoeddwyd

Daeth arolygwyr o hyd i "broblemau diogelwch" ar ail reid mewn parc pleser ym Mhorthcawl lle cafodd 13 o blant eu hanafu mewn damwain.

Bu'n rhaid cludo rhai i'r ysbyty am driniaeth yn dilyn y digwyddiad ar reid Wacky Worm, ym Mharc Pleser Traeth Coney ar 13 Awst.

Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch [HSE] fod "hysbysiad gwahardd" wedi cael ei roi i atyniad Mini Jet gerllaw, ar ôl archwilio'r safle.

Mae'r BBC yn deall mai mesur rhagofalus oedd yr hysbysiad, a bod yr atyniad wedi'i drwsio ers hynny.

Dywedodd rheolwyr y parc bod "mater bach heb gysylltiad" i'r digwyddiad ym mis Awst wedi ei ganfod, ac nad oedd yn cael "unrhyw effaith" ar ddiogelwch y reid dan sylw.

Mae hysbysiad gwahardd yn golygu bod angen i reid gael ei "thrwsio a'i gwirio gan berson annibynnol a chymwys cyn ei rhoi yn ôl mewn gwasanaeth".

Dywedodd rheolwyr y parc bod reid y Mini Jet wedi'i thrwsio "mewn llai na 10 munud" ac yna fe gafwyd caniatad i "weithredu'n arferol am weddill y dydd".

Ychwanegodd y llefarydd mai busnes arall oedd yn berchen ar y reid, ond eu bod bellach wedi ei symud wrth i'r parc symud tuag at gau'n gyfan gwbl erbyn diwedd Hydref.

Reid Wacky WormFfynhonnell y llun, Rebecca Eccleston
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr gwyddonol bellach yn archwilio'r reid Wacky Worm mewn labordy

Mewn diweddariad gan yr HSE i'r digwyddiad ar y Wacky Worm, dywedon nhw fod arbenigwyr gwyddonol yn archwilio'r reid mewn labordy yn Buxton, fel rhan o'u hymchwiliad.

Dywedodd prif arolygydd HSE, Simon Chilcott, eu bod yn gweithio'n agos gyda'r heddlu ac wedi gweithredu'n gyflym i gadw tystiolaeth a chadw pobl yn saff.

"Mae adroddiadau gan dystion wedi cael eu rhannu gyda ni, yn ogystal â lluniau a gafodd eu tynnu ar ddiwrnod y digwyddiad a bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lywio ein hymchwiliad.

"Mae'n debygol y bydd yr ymchwiliad yn cymryd peth amser, ond unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa gamau pellach y dylid eu cymryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.