Dileu grantiau ôl-radd i 'ddyfnhau' rhaniadau cymdeithas
- Cyhoeddwyd
Mae grwpiau myfyrwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dileu grantiau ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.
Dim ond benthyciadau fydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau meistr o fis Medi ymlaen.
Mae’n rhan o gyllideb sy’n torri'n ôl mewn sawl maes er mwyn gwarchod gwariant ar wasanaethau eraill, gan gynnwys gofal iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi cyhoeddi cynnydd yn uchafswm cost ffioedd dysgu yr wythnos hon, yn dweud eu bod am ddiogelu cyllid ar gyfer addysg graidd.
Beth yw'r sefyllfa i fyfyrwyr ôl-raddedig?
Ers 2019, mae ôl-raddedigion wedi cael cynnig cyllid o hyd at £18,000, ac mae o leiaf £1,000 ohono ar ffurf grant.
Gall y grant godi i £6,885 yn dibynnu ar incwm y teulu.
Roedd grantiau'n cael eu talu i tua 6,200 o fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Fe fydd myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn grantiau yn parhau i gael eu talu, ond fe fydd myfyrwyr newydd ond yn gallu benthyg arian o fis Medi.
Ers cwblhau gradd meistr mewn llywodraeth a gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd llynedd, mae Mabon Evans yn chwilio am swyddi.
Roedd yr argyfwng costau byw ar ei anterth pan ddechreuodd Mr Evans, 26 oed o Benarth, y cwrs yn 2022.
Derbyniodd grant gan y llywodraeth, yn ogystal â benthyciad, a dywedodd bod hynny’n help “enfawr” iddo gychwyn ar y cwrs.
“Nes i ddewis mynd 'nôl i ’r brifysgol mewn amser o chwyddiant uchel ac roedd costau byw yn mynd lan ym mhopeth," meddai.
“Ar y pryd o’n i’n pryderu ydy hwn yn syniad da?"
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
“Allen i just wedi cadw 'mlaen gweithio, ond diolch i’r cymorth ariannol yna nes i gradd meistr.
“Heb y cymorth ariannol fydden i falle wedi cario mlaen gweithio.”
Er ei fod yn cydnabod bod y llywodraeth yn wynebu "amodau economaidd sal", dywedodd Mr Evans: "Mae angen gwneud pob dim i roi cymhelliant i bobl wella eu sgiliau nhw sy’n fuddiol i’r economi a’r gymdeithas ehangach.”
Effaith ar ddarpariaeth addysg Cymraeg
Mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n arbed £9.6m, gyda £3.2m arall yn cael ei dorri o fwrsarïau i ddenu pobl i gyrsiau meistr.
Mae’r llywodraeth yn cyfaddef bod y taliadau wedi bod yn fuddiol i fenywod yn enwedig, a'n cyfaddef y gallai torri'n ôl hefyd effeithio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ni fydd y toriadau yn effeithio ar gyrsiau hyfforddi athrawon.
Mae bron i £54m yn cael ei dynnu allan o grantiau i israddedigion hefyd, ond dywed y llywodraeth bod hynny oherwydd llai o alw gan fyfyrwyr - ac y bydd myfyrwyr yn dal i gael yr un lefel o gyllid.
Mae’r newidiadau’n cael eu cyflwyno gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles – un o’r ddau ymgeisydd yn y ras i arwain Llafur Cymru.
Dywedodd wrth Aelodau’r Senedd fod cyllid ysgolion yn flaenoriaeth a bod torri grantiau “yn benderfyniad anodd”.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Rydym yn parhau i gynnig lefel uwch o gefnogaeth i fyfyrwyr meistr ôl-raddedig na’r hyn sydd ar gael yn Lloegr, yn ogystal â’n pecyn cymorth hael ar gyfer astudiaethau israddedig.
“Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, wedi diogelu cyllid ar gyfer y rhai sy’n dilyn cwrs addysg uwch am y tro cyntaf.”
Cyhoeddodd Mr Miles yn ddiweddar hefyd y bydd y cap ar ffioedd dysgu prifysgolion yng Nghymru yn codi o £9,000 i £9,250 y flwyddyn o fis Medi ymlaen.
Addysg uwch yn 'anfforddiadwy' i rai
Dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Orla Tarn, fod Mr Miles wedi sôn o'r blaen am roi "ail gyfle" drwy addysg.
Ychwanegodd: “Mae cael gwared ar grantiau a bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn dyfnhau rhaniad dosbarth, ac yn gwneud astudiaethau ôl-raddedig yn anfforddiadwy i rai o gefndiroedd llai cefnog."
Dywedodd Micaela Panes, sy’n cynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig ar Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: “Er mwyn diogelu tegwch cyfleoedd, amrywiaeth, a chynwysoldeb addysg uwch, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried toriadau i gyllid ôl-raddedig.”
'Rheswm bod grantiau'n bodoli'
Dywedodd yr AS Ceidwadol, Tom Giffard, nad oedd y llywodraeth wedi gwneud digon i asesu effaith y toriadau.
“Mae rhai myfyrwyr yn dibynnu ar y grantiau hyn i wneud eu cyrsiau felly os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd yn ôl o’r grantiau, bod nhw’n deall beth sydd wedi digwydd.”
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: “Mae ‘na reswm pam bod grantiau yn bodoli ac mae hynny oherwydd bod ‘na sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen ar Gymru, ar economi Cymru.”