Cau ffordd drwy bentref am wythnosau'n 'gur pen' i bobl leol

Gwaith ffordd yr B4406 ym MhenmachnoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith yn rhan o Broseict Gwefru Penmachno er mwyn gwella cysylltiadau trydan yr ardal

  • Cyhoeddwyd

Bydd cau'r brif ffordd trwy bentref Penmachno yn ne Sir Conwy yn achosi "cur pen mawr", gyda'r gwaith sydd i ddod yn "ddychrynllyd", yn ôl pobl leol.

Bydd gwaith i ffordd y B4406 yn digwydd am hyd at bedair wythnos y flwyddyn nesaf.

Mae'r penderfyniad i gau'r ffordd yn rhan o Brosiect Gwefru Penmachno gan gwmni SP Energy Networks er mwyn gwella cysylltiadau trydan yr ardal.

Fe gaeodd y ffordd am bum niwrnod o 28 Tachwedd hyd at 4 Rhagfyr, gan eithrio'r penwythnos. Ers hynny, mae pobl wedi rhannu eu rhwystredigaeth gyda'r gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran SP Energy Network eu bod yn ymddiheuro gan egluro eu bod wedi "gwneud gwaith sylweddol i wella dygnwch eu rhwydwaith a sicrhau bod cyflenwadau yn gyson a dibynadwy".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cyngor Cymuned Bro Machno gyfarfod gyda chwmni SP Energy ddydd Mercher diwethaf

Yn ôl Ann Williams, sy'n byw yn lleol, mae'r gwaith yma yn achosi "cur pen mawr i drigolion lleol".

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd bod y gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf yn "ddychrynllyd" a bod sawl un yn "reit flin".

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae'r ffordd wedi bod ar gau rhwng 09:00 a 16:00 bob dydd.

Yn ôl Ms Williams, dim ond diwrnod o rybudd a gafwyd am y gwaith hwnnw, a bellach maent wedi cael gwybod y bydd yn parhau yn y flwyddyn newydd.

"Mae'r ffordd yn cau yn rhwystredig iawn ac ma' 'na bobl yn flin, flin iawn," meddai.

Yn dilyn y gwaith diweddar, dywedodd bod llawer o rieni lleol yn debygol o wynebu trafferthion yn mynd â phlant i'r ysgol.

"Mae'n anodd iawn, iawn i rieni sy'n byw tu allan i'r pentref sydd â phlant yn yr ysgol leol, gyda rhai yn dechrau meddwl cadw eu plant adre achos does dim ffordd iddyn nhw bigo eu plant fyny."

Er mwyn cyrraedd y pentref o gyfeiriad yr A5, fe allai teithwyr yrru drwy Ysbyty Ifan a dros ardal fynyddig y Migneint.

Ond i reini sy'n byw yn lleol, dywedodd Ms Williams y byddai pobl "ddim yn mentro" gyrru ar hyd y dargyfeiriad.

"Mae Hafod-y-Rhedrwydd fel gwydr adeg yma o'r flwyddyn ac yn beryglus iawn.

"Mae'r ffordd yn cau yn rhwystredig iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae Daniel Tomos o Gyngor Cymuned Bro Machno yn rhannu'r un pryderon.

Mae'r A5 dros fynydd Migneint "yn gul a braidd yn beryglus" meddai.

Er hyn, dywedodd bod y gwaith gan gwmni SP Energy yn "angenrheidiol".

'Penderfyniad allan o nunlle'

Dywedodd bod gan ardal Penmachno rai o'r "cysylltiadau trydan gwaethaf yng Nghymru, gyda thoriadau pŵer yn digwydd yn gyson iawn".

"Ma 'na linell voltage dros y caeau ac yn aml ma' 'na doriadau trydan lle mae'r holl bentref allan felly ma' rhaid i ni gael rhyw fath o back up.

"Dwi'n dallt bod hwn yn rhwystredig a lot ddim yn hapus ond mae'r gwaith yn angenrheidiol," ychwanegodd.

"Roedd o'n benderfyniad amhosib i'w wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfarfod ddydd Iau, roedd gan bobl leol gyfle i glywed mwy am y cynlluniau

Yn ôl Mr Tomos, cafodd y cyngor wybod am y penderfyniad i gau'r ffordd "allan o nunlle".

"Roedd yn ychydig o sioc i ni fel cyngor cymuned achos gethon ni gyfarfod gyda'r cwmni ar y dydd Mercher wedyn dewis i gau'r ffordd ar y dydd Iau."

Ond dywedodd mai dyma oedd yr "unig opsiwn".

"Wel ar ddydd Gwener mae'r pensiynwyr yn cael eu cinio Dolig nhw felly bydde hynny ddim wedi gallu digwydd pe bai'r ffordd ar gau yr wythnos yma.

"Rydyn ni'n gymuned glos iawn ac yn gofalu am ein gilydd a do'n ni ddim am weld y cinio ddim yn digwydd.

"Fel cyngor cymuned 'dan ni'n dallt y rhwystredigaeth ond dyma yw'r unig opsiwn."

Roedd gan drigolion lleol gyfle i glywed mwy am y prosiect mewn cyfarfod nos Iau.

Daeth cadarnhad y byddai'r gwaith yn dechrau ar 22 Chwefror y flwyddyn nesaf, gyda rhannau gwahanol o'r ffordd yn cau am 10 diwrnod ar y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran SP Energy Network: " Ry' ni'n gwneud gwaith sylweddol i wella dygnwch eu rhwydwaith a sicrhau bod cyflenwadau cwsmeriaid yn gyson a dibynadwy.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra gafodd ei achosi wrth i ni gyflwyno'r gwelliannau hanfodol yma, ac rydyn ni wastad yn ceisio lleihau'r effaith ar gwsmeriaid.

"Hoffem ddiolch i bob am eu hamynedd."

Pynciau cysylltiedig