Canfod corff wrth chwilio am ddyn aeth ar goll yn Afon Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn yn ei 20au wedi cael ei ganfod yn ardal Aberteifi dros nos yn dilyn ymgyrch gan y gwasanaethau brys i chwilio am ganŵiwr oedd wedi mynd ar goll.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal tua 19:45 nos Iau yn dilyn adroddiadau bod person yn y dŵr.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys Police bod y corff heb gael ei adnabod yn swyddogol ond mae perthnasau'r canŵiwr wedi cael gwybod.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teulu.
Fe gafodd y corff ei ddarganfod tua 01:00 fore Gwener, rai oriau wedi i'r chwilio ddechrau.
Roedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau, bad achub RNLI Aberteifi, timau achub Aberteifi a Threwyddel, yr heddlu a chriwiau tân ac achub yn rhan o'r ymdrech.
Fe alwodd Heddlu Dyfed-Powys ar y cyhoedd i gadw draw o'r ardal tra bo'r chwilio yn mynd rhagddo.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criwiau wedi eu hanfon i'r ardal o orsafoedd Hwlffordd, Caerfyrddin, Aberteifi a Chrymych.
Aeth dau dîm o achubwyr ar yr afon mewn cychod er mwyn chwilio am y person coll wrth i gydweithwyr archwilio hyd glannau'r afon.
Roedd y canŵiwr yn dal ar goll pan benderfynwyd, yn dilyn cyfarfod am 23:23 nos Iau, bod hi'n bryd i'w criwiau tân ac achub adael.