Ateb y Galw: Rhian Cadwaladr

Rhian CadwaladrFfynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch
Disgrifiad o’r llun,

Gwaddol fydd pumed nofel Rhian Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhian Cadwaladr yn adnabyddus am ei nofelau ac hefyd am ei ryseitiau blasus sydd wedi'u cyhoeddi mewn sawl llyfr coginio.

Mae'r awdur o Rosgadfan ger Caernarfon ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf ar ddiwedd Mehefin o'r enw Gwaddol.

Nofel yw hi am heneiddio, am deulu, am gariad a galar.

Cyn i'r nofel gael ei chyhoeddi, dyma ddod i adnabod Rhian Cadwaladr ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Clywed sŵn cân y fan hufen iâ yn y tŷ lle o'n i'n byw tan o'n i'n dair a hanner.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy ngardd yn Rhosgadfan yn edrych lawr ar Gastell Caernarfon a draw dros Ynys Môn.

Mae'n olygfa sydd dal i gymryd fy ngwynt er mod i yma ers 36 o flynyddoedd - ac mae'r awyr yn anferth ac yn wahanol bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa o Ynys Môn o ardd gefn Rhian yn Rhosgadfan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae erioed yn amser hir!

Dwi wedi cael amryw noson gofiadwy ond does dim un yn sefyll allan. Gobeithio bod yr orau eto i ddod!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol, diamynedd, siaradus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Parti Dolig yn fy ngardd efo tair o fy ffrindiau hynaf yn 2020 adeg Covid, pan oedda ni ddim yn cael mynd i'r tŷ - pawb wedi lapio fel nionod ac yn dawnsio dan y sêr a jest yn falch o gael cwmni'n gilydd unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Y parti Dolig nôl yn 2020 sydd yn gwneud i Rhian wenu

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gollwng platiad o chips, bîns a ŵy ar lin cwsmar pan o'n i'n waitress ifanc tair ar ddeg oed, yng nghaffi fy mam.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wrth wylio rhagen drist ar y teledu ddoe, dwi'n crïo'n hawdd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes - siarad ar draws pan dwi yn sgwrsio am rhywbeth sy'n golygu lot i mi, sori pawb dwi'n trïo peidio!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Gwallt coch oedd gen i pan o'n i'n ifanc.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwladr
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r dystiolaeth, gwallt coch oedd gan Rhian pan oedd hi'n iau

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfr sgrap llawn rysetiau sydd gen i ers o'n i'n ddeuddeg oed - cychwyn taith oes o arbrofi yn y gegin.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Mi faswn i'n licio cyfarfod fy nain fuo farw cyn i mi gael fy ngeni, dwi'n gwybod fawr dim amdani ond roedd ganddi enw gwych - Beneth Maglona.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Trïo cael fy nheulu yngyd a deud wrthyn nhw gymaint dwi'n eu caru a pa mor falch dwi ohonyn nhw.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Tydw i ddim yn un i roi lluniau'r teulu hyd y tŷ ond mae gen i un mewn ffrâm wrth fy nesg - fy nhad efo fy mhlant pan oedda nhw'n fach.

Dwi wedi colli dad ers 2001 a dwi dal yn hiraethu amdano, ac am y plantos bach yn y llun.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r llun sydd wrth ddesg Rhian, ei diweddar thad gyda'i phlant.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Comisiynydd drama S4C er mwyn comisiynu troi un o fy nofelau i yn ffilm!

Pynciau cysylltiedig