Cartref gofal i fod yn nwylo cyngor wedi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cymryd perchnogaeth o gartref gofal yn Aberystwyth, ar ôl i'w berchnogion presennol ddweud eu bod yn cael trafferthion ariannol a'u bod yn ystyried ei werthu.
Ym mis Mai, dywedodd Methodist Homes for the Aged (MHA) eu bod yn chwilio am berchnogion newydd ar gyfer 10 o'u cartrefi gofal gan gynnwys Hafan y Waun - mae’r naw arall yn Lloegr.
Yn ôl datganiad gan brif weithredwr MHA, Sam Monaghan, daeth y penderfyniad yn dilyn “adolygiad yn edrych ar gynaliadwyedd hirdymor ein holl wasanaethau”.
Bydd adroddiad gan y Cynghorydd Alun Williams – sydd â gwasanaethau gofal yn rhan o’i bortffolio – yn cael ei ystyried gan Gabinet Ceredigion yr wythnos nesaf.
Gwelyau gwag
Mae'r adroddiad yn dweud fod yr “opsiwn o ddod â’r ddarpariaeth drosodd i berchnogaeth y Cyngor trwy drosglwyddo’r llesddaliad... wedi dechrau cael ei archwilio".
Ychwanegodd yr adroddiad y byddai hyn yn “sicrhau bod y cartref gofal yn parhau i weithredu, bod swyddi Ceredigion yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd, a bod adnodd gwerthfawr yn parhau i fod ar gael i’r sir a’n cymunedau".
Mae hefyd yn dweud y byddai mynd â’r cartref i berchnogaeth y cyngor “yn rhoi sicrwydd i’r trigolion presennol a’u teuluoedd ac yn atal y cynnwrf sylweddol o... osod dros 50 o unigolion mewn cartrefi gofal newydd".
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams na fyddai "unrhyw darfu ar y gofal" i breswylwyr.
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Bryan Davies, nad yw Hafan y Waun yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial ar hyn o bryd, ac felly bod posib ceisio cynyddu nifer y staff a phreswylwyr sydd yno.
“Mae lawr i tua 50% yn wag ar hyn o bryd," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Ma' 90 o welyau i gael yma, a’r cwbl yn en-suite. Y gobaith yw bod ni’n cynyddu y bobl sy’n gallu dod 'ma i sefyll.
“Mae rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am edrych ar ôl trigolion Ceredigion, pobl fregus yn aml, a fi’n credu... bod ni’n gallu rhoi stamp ein hunain ar y cynllun."
Colledion ariannol
Agorodd Hafan y Waun yn 2007 i ddarparu gofal seibiant a gofal i breswylwyr sydd â dementia.
Roedd hefyd yn darparu gofal nyrsio i ddechrau, ond gostyngodd hyn yn raddol dros y blynyddoedd cyn dod i ben yn llwyr yn 2016.
Yn ôl telerau’r brydles bydd yr adeilad a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu yn trosglwyddo i Gyngor Ceredigion heb unrhyw gost i’r cyngor erbyn mis Medi eleni.
Mae'r cyngor yn credu y gallai Hafan y Waun gynnig cyfle ar gyfer "prosiectau arloesol trwy gydweithio gyda phartneriaid", gan gynnwys darpariaeth cam-i-lawr posibl ar gyfer Ysbyty Bronglais.
Ond mae adroddiad y cabinet yn nodi bod MHA am drosglwyddo perchnogaeth y cartref oherwydd ei fod yn gwneud colledion ariannol.
Mae’r cyngor yn dweud y dylid ystyried clustnodi cyllid refeniw o £1m ar gyfer y cyfnod trosiannol.
Ond maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod risg y gallai’r colledion ariannol barhau pan ddaw’r cartref dan reolaeth y cyngor.
“Os na fydd opsiynau arloesol yn cael eu datblygu yn y dyfodol (a bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn yr un ffordd yn union) yna ni fydd yn gynaliadwy yn ariannol," meddai'r adroddiad.
Cydweithio â'r bwrdd iechyd
Y brif her, meddai'r cyngor, fyddai "cynnal lefelau staffio digonol", a dyna oedd y rheswm pam fod gan MHA wedi cyfyngu nifer y preswylwyr i ychydig dros 50.
"Ni yn cydweithio gyda phartneriaid agos, mae’r brifysgol gyda ni yn Aberystwyth sydd yn edrych i gynnal cyrsiau falle yn y sector gofal," meddai'r Cynghorydd Davies.
"Felly y gobaith yw bod ni yn gallu magu a thyfu staff ac arbenigedd ein hunain o fewn y sir.”
Ers nifer o flynyddoedd, mae pobl o Geredigion sydd â dementia mwy difrifol wedi gorfod mynd am ofal i gartrefi mewn rhannau eraill o Gymru, oherwydd diffyg darpariaeth o fewn y sir.
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn gobeithio gallu darparu'r gwasanaeth hwn yn Hafan y Waun yn y dyfodol.
"Mae sefyllfa pawb yn wahanol, falle bod perthnase pobl yn byw tu allan i’r sir hefyd," meddai Mr Davies.
"Felly yn naturiol maen nhw ishe anwyliaid i fod ar bwys nhw. Gobeithio gallwn ni gynnig y gwasanaeth yma iddyn nhw a chael nhw 'nôl i Geredigion.”
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, a ddywedodd bod rhaid "sicrhau bod y gwelyau gwag yn cael eu defnyddio".
"Fy ngobaith i yw y bydd y cyngor sir nawr yn gallu mynd ati i lenwi y gwelyau hynny drwy adleoli rhai pobl sydd wedi cael gofal tu allan i Geredigion oherwydd y prinder hyn," meddai.
Ychwanegodd Elin Jones, cynrychiolydd y sir yn Senedd Cymru, ei bod yn gobeithio y bydd y cyngor yn gallu cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
"[Mae angen] edrych ar sut mae modd defnyddio’r adeilad yn ei gapasiti llawn i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau," meddai.