Llwyddiant ysgubol i Lafur a chwalfa i'r Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur wedi sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol, ar noson drychinebus i'r Ceidwadwyr.
Yng Nghymru, mae'r Ceidwadwyr wedi colli pob sedd, gyda phum cyn-Ysgrifennydd Cymru yn colli eu seddi ar draws y DU.
Fe gipiodd y blaid Lafur naw o seddi newydd yng Nghymru ers 2019, gan ennill cyfanswm o 27.
Fe gipiodd Plaid Cymru bedair sedd, wrth i'w harweinydd Rhun ap Iorwerth ddweud bod y canlyniad yn "hanesyddol" i'r blaid.
Mi lwyddodd y blaid i gipio dwy sedd oddi ar y Ceidwadwyr, sef Ynys Môn a Chaerfyrddin.
Roedd newyddion da i'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wrth iddyn nhw gipio sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe oddi ar y Ceidwadwyr.
Mae'n golygu bod ganddyn nhw aelod seneddol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2019.
Dim ond 56.2% o’r rheiny oedd yn gymwys wnaeth bleidleisio yng Nghymru, o’i gymharu â 60% ar draws y DU – ond gyda dwy sedd yn weddill.
Roedd y ffigwr yng Nghymru dros 10% yn is na'r etholiad yn Rhagfyr 2019, ac roedd gostyngiad ym mhob etholaeth.
Does dim digon o drafodaeth o'r ffigyrau hyn wedi bod, medd yr Athro Richard Wyn Jones.
"[Roedd hwn yn] etholiad pwysig dros ben ac eto llawer iawn o bobl 'di dweud, 'di hynny’n ddim byd i 'neud efo fi'.
"Mae hynny’n her i'r holl bleidiau ac i bawb sy’n credu mewn cymdeithas ddemocrataidd."
Llwyddiant i Lafur
Fe lwyddodd Llafur i gipio Pen-y-bont, Sir Fynwy a Wrecsam, yn ogystal ag ennill seddi newydd Bangor Aberconwy, Gogledd Clwyd, Dwyrain Clwyd, Maldwyn a Glyndŵr a Canol a De Sir Benfro.
Fe wnaeth y blaid gadw gafael ar seddi Gŵyr, Pontypridd, Torfaen, Caerffili, Dwyrain Casnewydd, Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr a De Caerdydd a Penarth.
ASau Llafur fydd hefyd yn cynrychioli Alun a Glannau Dyfrdwy, Llanelli, Gorllewin Caerdydd, Dwyrain Caerdydd, Merthyr Tudful ac Aberdâr a Blaenau Gwent a Rhymni.
Roedd yna fuddugoliaeth hefyd i Torsten Bell yn sedd Gorllewin Abertawe.
Er i nifer eu seddi gynyddu yng Nghymru, mae'r niferoedd o bleidleisiau i Lafur wedi gostwng o'i gymharu ag etholiad cyffredinol 2019.
Fe wnaeth 487,636 o bobl bleidleisio dros Lafur yma - 37% o'r holl bleidleisiau yng Nghymru.
Fe wnaeth cyfran y bleidlais ostwng i Lafur wrth i blaid Reform UK ddod yn ail mewn 13 o etholaethau.
Daeth Reform o fewn trwch blewyn i gipio sedd Llanelli, ond fe lwyddodd Llafur i gadw gafael ar y sedd honno gyda mwyafrif o 1,504.
Gyda nifer y seddi yng Nghymru wedi gostwng o 40 i 32, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod y canlyniad yr un gorau erioed i'w blaid mewn etholiad cyffredinol o ran cyfran yr Aelodau Seneddol.
Er disgwyl ras agos, llwyddodd Ann Davies i gipio Caerfyrddin gyda mwyafrif o 4,535 dros Martha O'Neil i'r Blaid Lafur.
Cipiodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, Ynys Môn.
Dywedodd Mr ap Iorwerth: "Rydyn ni hefyd wedi cynyddu mwyafrif yng Ngheredigion a Dwyfor Meirionnydd a'r cynnydd yn y bleidlais gan ein hymgeiswyr gwych ar draws Cymru.
"Ma' hon di bod yn etholiad lle oeddan ni'n gwybod fod gennym ni neges glir a phositif ac mae'r canlyniad yn un hanesyddol."
Chwalfa i'r Ceidwadwyr
David TC Davies o'r Blaid Geidwadol ydi'r Ysgrifennydd Cymru cyntaf i golli ei sedd tra yn y swydd.
Collodd ei sedd i'r Blaid Lafur yn Sir Fynwy.
Dywedodd "mai'r ffaith ydi fod pobl eisiau newid...dyna ydi democratiaeth".
Ychwanegodd bod yn "rhaid derbyn y canlyniad".
Wrth ymateb i sefyllfa'r Blaid Geidwadol, dywedodd y cyn-aelod seneddol, Glyn Davies ei fod yn "siomedig wrth gwrs".
"Fi'n gwybod ma' her o'n blaenau ni i troi pethe a ma rhaid i ni mynd allan a perswadio pobol i ddod yn ôl a dyna beth ydi'r her on blaenau, ond dwi yn barod i helpu i wneud hynny."
Roedd ergydion eraill i'r Ceidwadwyr wrth i dri cyn-ysgrifennydd Cymru golli eu seddi.
Roedd buddugoliaeth Plaid Cymru yn etholaeth Caerfyrddin yn golygu na fydd Simon Hart yn dychwelyd i'r Senedd.
Fe wnaeth Alun Cairns golli sedd Bro Morgannwg - etholaeth y mae ef wedi ei chynrychioli ers 2010.
Kanishka Narayan o’r Blaid Lafur gipiodd y sedd honno, yr AS Cymreig cyntaf erioed o gefndir ethnig lleiafrifol.
Daeth Stephen Crabb yn ail yn y bleidlais yn sedd Canol a De Sir Benfro gyda Henry Tufnell yn cipio'r sedd honno i Lafur.
Yn ogystal, fe gollodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland ei sedd i Lafur yn Swindon South.
Yn etholiad cyffredinol 2019, fe enillodd y Ceidwadwyr 14 o 40 sedd yng Nghymru, ond wedi'r newid mewn ffiniau etholaethol, roedd nifer y seddi wedi gostwng i 32 yn yr etholiad hwn.
Wrth fethu ag ennill unrhyw sedd, mae'r Ceidwadwyr wedi ailadrodd yr hyn welwyd yn etholiad cyffredinol 1997 pan ddaeth Tony Blair yn Brif Weinidog, ac eto yn 2001.
Mae un Ceidwadwr wedi dweud fod peryg y gallai'r blaid Geidwadol droi i fod yn blaid "Lloegr yn unig", fyddai "ddim yn edrych yn dda" i'r blaid.
'Angen ailadeiladu’r blaid'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies Leader ei fod yn "grac iawn" am y canlyniad.
"Mae hon yn ergyd drom, drom i ni fel plaid," dywedodd.
Dywedodd Aled Thomas, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli, fod angen creu pellter rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a’r Ceidwadwyr yn San Steffan.
Dywedodd wrth raglen etholiad S4C: “Mae’n noson anodd hyd yn hyn i’r Ceidwadwyr.
"Fi’n credu bod Andrew RT yn 'neud jobyn dda yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni ddechrau ailadeiladu’r blaid yma yn barod am etholiad [y Senedd] 2026.
“Fi’n credu bod angen pellhau ein hunain bach o’r blaid yn San Steffan, fel mae’r Alban wedi'i wneud. Mae’n rhaid i ni gael mwy o identity Cymraeg ar y blaid.”
'Rhaid i ni symud ymlaen gyda'n gilydd'
Drwy'r DU, mae Llafur wedi ennill cyfanswm o 412 o seddi, tra bod nifer seddi'r Ceidwadwyr wedi gostwng i 121 - gyda chanlyniadau dwy sedd yn weddill.
Dyma berfformiad gwaethaf y Torïaid mewn etholiad cyffredinol ers yr Ail Ryfel Byd.
Mewn araith fore Gwener, fe gadarnhaodd Rishi Sunak y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
Syr Keir Starmer felly ydy Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.
Yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir Starmer fod "rhaid i ni symud ymlaen gyda'n gilydd".
"Yr unig ffordd i adfer ffydd, a thrin y clwyf, yw drwy weithredu," meddai.
"Dim gyda geiriau y mae gwneud hynny, dwi'n deall hynny, ac mae modd i ni ddechrau ar hynny heddiw. Mae cael gwasanaethu'r cyhoedd yn fraint.
"Fe fydd fy llywodraeth i yn eich gwasanaethu chi.
"Mae modd i wleidyddiaeth fod yn rhywbeth gwerthfawr, ac fe wnawn ni ddangos hynny.
"Ry'n ni wedi newid y blaid ac wedi blaenoriaethu'r syniad o wasanaethu. Y wlad sy'n dod gyntaf, a'r blaid yn ail."
Mewn araith y tu allan i rif 10 Downing Street, fe wnaeth Rishi Sunak gadarnhau y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
"Rwy'n ymddiheuro i'r wlad, rwyf wedi rhoi popeth sydd gennyf i'r swydd ond rydych wedi anfon neges glir fod rhaid i Lywodraeth y DU newid," meddai.
"A'ch dyfarniad chi ydy'r unig un sy'n cyfrif. Rwyf wedi clywed eich dicter, eich siom ac rwy'n cymryd cyfrifoldeb am y golled.
"Mae'n loes meddwl faint o gydweithwyr a gyfrannodd cymaint i'w cymunedau a'n gwlad fydd nawr ddim yn eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae fy niolch yn fawr iddyn nhw."
Ychwanegodd: "Byddaf yn ymddiswyddo... ddim yn syth, ond unwaith bydd y prosesau ffurfiol o ran dewis arweinydd newydd yn eu lle".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024