Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae'r 10 artist sydd wedi cyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 wedi cael eu cyhoeddi.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Radio Cymru sy'n trefnu'r wobr sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni.
Bwriad y wobr ydy dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Mirain Iwerydd ar Radio Cymru nos Fercher.
Rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024:
Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes
Bolmynydd - Pys Melyn
Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym
Dim dwywaith - Mellt
Galargan - The Gentle Good
Llond Llaw - Los Blancos
Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
Sŵn o’r stafell arall - Hyll
Swrealaeth - M-Digidol
Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym
Yn beirniadu eleni yr oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O' Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am 15:00 ar 9 Awst.