Porthmadog: Llys yn gweld fideo o ymosodiad honedig heddwas

- Cyhoeddwyd
Mae'r achos yn erbyn plismon sy'n wynebu dau gyhuddiad mewn cysylltiad ag arestio dyn ym Mhorthmadog wedi gweld fideo o'r digwyddiad ym Mai 2023.
Fe ymddangosodd Richard Williams, 43, yn Llys y Goron Caernarfon fore Mawrth wedi'i gyhuddo o dagu yn fwriadol ac o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â'r defnydd o rym tra'n arestio Steven Clark ar 10 Mai 2023.
Mae Mr Williams yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.
Tu hwnt i rym 'rhesymol'
Clywodd y llys fod Mr Clark wedi dweud wrth ddau swyddog heddlu oedd ar fin ei arestio fod ei arddwrn yn brifo yn dilyn damwain ddiweddar, a'i fod mewn poen ar ôl i gyffion gael eu gosod ar ei fraich chwith.
Dywedodd yr erlyniad fod Mr Williams yn honni fod Mr Clark yn ceisio atal y swyddogion rhag ei arestio ar amheuaeth o ymosod, a bod y tri wedi disgyn i'r llawr.
Yn ôl yr erlynydd, Richard Edwards, fe wnaeth Mr Williams afael yn Mr Clark gerfydd ei wddf, ei wthio i'r llawr a'i daro sawl tro yn ei wyneb.
"Fe ddigwyddodd hyn i gyd yn ystod amser cinio ar stryd brysur ym Mhorthmadog," meddai.
Ychwanegodd Mr Edwards fod "cleisiau yn amlwg" ar wyneb Mr Clark wedi'r digwyddiad, a bod ei lygad chwith wedi chwyddo yn sylweddol.
Wrth gyfeirio at y ffaith fod Mr Williams wedi awgrymu iddo ddefnyddio grym rhesymol, dywedodd yr erlyniad: "Nid oes gan swyddog heddlu rwydd hynt i wneud fel y mynnon nhw wrth arestio rhywun.
"Mae'r diffynnydd yn dweud iddo ddefnyddio grym rhesymol i arestio Steven Clark gan ei fod yn ceisio eu hatal rhag gwneud hynny, ond mae'r Goron yn dweud fod gweithredoedd y diffynnydd yn mynd tu hwnt i rym allai gael ei ystyried yn rhesymol, a'i fod wedi ymosod ar Steven Clark."
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023