Mab cyn-brop Cymru fu farw â dementia am i rieni rygbi gael rhybudd

Conor a'i dadFfynhonnell y llun, Conor Buckett
Disgrifiad o’r llun,

Conor a'i dad, y cyn-chwaraewr rygbi Ian Buckett, a fu farw ym mis Gorffennaf 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae mab cyn-chwaraewr rygbi Cymru a fu farw yn 56 oed gyda dementia yn credu y dylai rhieni gael eu rhybuddio pan fydd eu plant yn dechrau chwarae'r gêm.

Chwaraeodd Ian Buckett i Gymru, Abertawe a Phrifysgol Rhydychen a chafodd ddiagnosis o CTE yn dilyn ei farwolaeth y llynedd.

Dywedodd ei fab Conor, 28, ei fod yn cofio bod eisiau gwneud diagnosis a "thrwsio" ei dad yn fachgen ifanc, ac nad yw am i eraill fynd trwy'r un peth.

Lansiodd Undeb Rygbi Cymru gynllun ym mis Rhagfyr i helpu cyn-chwaraewyr elitaidd i ganfod anafiadau i'r ymennydd.

Ffynhonnell y llun, Conor Buckett
Disgrifiad o’r llun,

Gwelodd Conor Buckett, 28, bob ochr i'w dad, Ian

"Yn ei fywyd byr iawn fe wnaeth fy nhad lawer o bethau gwych - mae yna lawer o fersiynau gwahanol o Ian Buckett," dywedodd Conor.

"Roedd yn ddeallus, yn garedig, yn gawr mawr cyfeillgar."

Gwelodd Conor Buckett bob ochr i Ian Buckett, y chwaraewr rygbi poblogaidd a welodd y cyhoedd, a'r bardd ac arlunydd yn breifat.

"Roedd yn fardd credwch neu beidio, mae gen i gasgliad y mae wedi'i ysgrifennu - ac roedd wrth ei fodd yn paentio," meddai.

'Disgyn i le tywyll iawn'

Gwnaeth Ian Buckett 186 o ymddangosiadau dros 10 tymor i glwb rygbi Abertawe, gan gynnwys chwarae yn erbyn Seland Newydd a De Affrica.

Yn gyfreithiwr, chwaraeodd rygbi i Brifysgol Rhydychen, Cymry Llundain a'r Barbariaid, ac enillodd dri chap i Gymru yn y 1990au.

Yn ddiweddarach dychwelodd y brodor o Dreffynnon i ogledd Cymru a bu'n ymwneud â rhedeg Clwb Rygbi Fflint ac RGC14 yn ei ddyddiau ar ôl chwarae.

Dywedodd Conor fod ei dad yn chwarae rygbi oedolion yn 14 oed.

Ond fel bachgen ifanc wyth neu naw oed dywedodd Conor ei fod yn cofio ei dad yn newid.

Gwahanodd rhieni Conor pan oedd yn ifanc, ond fe arhoson nhw'n agos.

"Dyna pryd y dechreuodd ddangos symptomau - pan o'n i'n ifanc iawn," meddai.

"Dros yr 16 mlynedd nesaf fe wnes i ei wylio yn disgyn i le tywyll iawn."

Ffynhonnell y llun, Conor Buckett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Conor ei fod yn cofio eisiau helpu ei dad pan ddechreuodd ddangos symptomau

Symudodd Conor, sy'n siarad Arabeg yn rhugl, i'r Aifft gyda'i fam sy'n athrawes Saesneg a chwaraeodd i dîm rygbi dan-21 yr Aifft yn 17 oed.

Byddai'n dychwelyd i Gymru yn yr haf ac adeg y Nadolig i ymweld â'i deulu a'i dad.

Dywedodd iddo sylwi sut roedd cyflwr ei dad yn newid ar y teithiau hir o Lundain i ogledd Cymru.

"Byddai'n chwerthin ac yn siarad gyda'i hun - byddai'n cael deialog lawn gyda'i hun," meddai.

"Fe aeth y teithiau'n ychydig yn dywyllach wrth i amser fynd yn ei flaen - byddai'r chwerthin yn cynyddu, a'r siarad."

'Doedd gan neb yr ateb'

Dywedodd Conor ei fod yn cofio fel bachgen gymaint yr oedd eisiau helpu ei dad, ond nad oedd yn deall beth oedd yn digwydd.

"Rwy'n meddwl ei fod yn anarferol iawn i blentyn fod yn ceisio gwneud diagnosis o'i dad - ond dyna oedd y realiti," meddai.

"Roedd rhan fawr o fy mywyd yn ymwneud ag ymchwilio a trio gwneud diagnosis ohono, oherwydd doedd gan neb yr ateb.

"Roeddwn i eisiau ei helpu, roedd gennai'r ffantasi o drwsio fo."

Ffynhonnell y llun, Conor Buckett
Disgrifiad o’r llun,

"Dydw i ddim eisiau i neb brofi'r be wnes i wrth dyfu i fyny," meddai Conor

Bu farw Ian Buckett yr haf diwethaf yn 56 oed, roedd wedi cael diagnosis o ddementia ond yn ddiweddarach daeth hi i'r amlwg ei fod yn dioddef o CTE.

Mae'r GIG yn disgrifio enseffalopathi trawmatig cronig (CTE) fel cyflwr ar yr ymennydd y credir ei fod yn gysylltiedig ag anafiadau aml i'r pen, sy'n gwaethygu'n araf dros amser ac yn arwain at ddementia.

"Dim ond ar ôl iddo farw wnaethon ni ddeall beth oedd hyn i gyd - roedd ganddo CTE a dementia," meddai Conor.

"Mae'n gwneud synnwyr nawr. Mae'r ffaith ei fod yn ddyn mor wych yn gwneud yr 16 mlynedd olaf o'i fywyd gymaint yn anoddach i ni fel teulu."

'Mae'n syml'

Mae Conor wedi byw a chwarae rygbi ar draws y byd, gan gynnwys yng Nghymru. Mae bellach yn byw yn Dubai, yn hyfforddi i fod yn gyfreithiwr, fel ei dad.

Mae'n credu y dylai rhieni a gwarcheidwaid gael eu rhybuddio am risgiau posib anafiadau i'r ymennydd cyn i'w plant ddechrau chwarae rygbi.

"Dydw i ddim eisiau i neb brofi be wnes i wrth dyfu i fyny," meddai.

Dywedodd Conor ei fod nawr eisiau codi ymwybyddiaeth o ddementia a CTE yn rygbi.

Dywedodd ei fod "wrth ei fodd yn gwylio rygbi a'i chwarae" ond ei fod yn credu bod angen "ailfeddwl yn llwyr" y wybodaeth sy'n cael ei roi i rieni a chwaraewyr.

"Eisteddwch lawr gyda'r rhieni a dywedwch mewn iaith plaen iawn, dyma'r risgiau - yn eich pedwardegau, ac efallai na fyddwch chi'n gallu gweithio, efallai na fyddwch chi'n gallu cael perthynas gref gyda'ch plant.

"Mae'n beth syml iawn i'w wneud," meddai.

Ym mis Rhagfyr lansiodd Undeb Rygbi Cymru (URC), Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) a World Rugby gynllun i gefnogi cyn-chwaraewyr elitaidd yng Nghymru a helpu i ganfod a oeddent wedi dioddef anafiadau i'r ymennydd yn ystod eu gyrfaoedd.

Pynciau cysylltiedig