Cyswllt rhwng dementia ac iechyd meddwl seren rygbi

  • Cyhoeddwyd
Dafydd James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dafydd James brofion am ddementia oherwydd ei fod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl

Mae'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Dafydd James wedi datgelu fod ganddo ddementia ac yntau ond yn 47 oed.

Mae'n credu fod ei broblemau diweddar gyda'i iechyd meddwl yn deillio o'i ddiagnosis o ddementia cynnar, ac mae'n gobeithio y bydd ei hanes yn gymorth i gyn-chwaraewyr eraill sy'n dioddef

Mae James hefyd wedi ymuno â her gyfreithiol gan gannoedd o gyn-chwaraewyr proffesiynol rygbi'r undeb, sy'n cyhuddo cyrff rheoli'r gamp o beidio gwneud digon i ddiogelu iechyd chwaraewyr.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC), Undeb Rygbi Lloegr (RFU) a World Rugby eu bod wedi'u tristau gan straeon personol dewr James a chyn-chwaraewyr eraill ond bod heriau cyfreithiol yn eu hatal rhag siarad gydag ef yn uniongyrchol.

'Ceisio dyfalu beth oedd yn bod'

Enillodd Dafydd James 48 o gapiau dros Gymru, ac fe gynrychiolodd y Llewod deirgwaith.

Yn ystod gyrfa barodd bron i 15 mlynedd chwaraeodd i Ben-y-bont, Pont-y-pŵl a Llanelli, yn ogystal â thri o ranbarthau Cymru tua diwedd ei yrfa.

Daeth ei yrfa i ben yn gynharach na fyddai wedi dymuno ar ôl iddo dorri asgwrn yn ei wddf, wnaeth olygu na chafod ei gytundeb gyda'r Scarlets ei adnewyddu yn 2009.

"Roeddwn i'n lwcus," meddai James. "Ro'n i'n byw breuddwyd pawb, ac er bod y freuddwyd 'di darfod, mae bywyd, fel rwy' 'di ddweud sawl tro, yn mynd yn ei flaen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mewn ffordd mae'n cynnig 'chydig o esboniad am yr hyn dwi'n teimlo," dywedodd Dafydd James

Yn y gorffennol mae wedi sôn iddo brofi heriau iechyd meddwl ers ei fod yn ei arddegau, ac ar ôl orffen chwarae cafodd gyfnodau o banig a gor-bryder.

Dywedodd iddo gael profion am ddementia oherwydd ei fod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl.

"Roeddwn i'n ceisio dyfalu beth oedd yn bod gyda fi. Rwy'n stryglo'n ddyddiol ac rwy'n gwybod mod i wedi newid fel person. Dwi'n gweld rhai newidiadau ynof i," meddai.

"Rwy' wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, a maen nhw'n dweud y bydd yn gwaethygu, sy'n newyddion caled. Ond mewn ffordd mae'n cynnig 'chydig o esboniad am yr hyn dwi'n teimlo.

"Yr elfen galed yw meddwl am sut rwy' am gario 'mlaen 'da'm mywyd, a cheisio cario 'mlaen gorau y galla i."

Siarad er mwyn helpu eraill

Yn ôl James mae'r diagnosis hefyd yn awgrymu fod ganddo arwyddion o CTE (enseffalopathi trawmatig cronig), sy'n gyflwr ar yr ymennydd sy'n dirywio dros amser.

Ei obaith yw bod ei onestrwydd a'i barodrwydd i siarad yn helpu eraill.

Dywedodd: "Rwy'n diodde' gyda'n iechyd meddwl, ac mewn ffordd mae'n fy helpu i ddweud wrth bobl achos rwy'n ceisio helpu pobl eraill sy'n diodde', ac mae 'na ddigonedd o bobl allan yna sy'n diodde'.

"Mae'n frwydr ddyddiol. Dwi wedi egluro wrth fy meibion, sy' ddim cweit yn deall, ond maen nhw wedi sylwi ar ambell newid.

"Ond maen nhw'n blant ac yn hynod gefnogol, ac yn hynny o beth rwy'n hynod o lwcus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd James nawr yn gweithio gydag elusennau ac yn gobeithio rhannu ei brofiad gydag eraill

Dywedodd James ei fod yn gweithio gyda sawl elusen, ac mae'n awyddus i ddysgu mwy ei hun ac i eraill am ei gyflwr.

"Rwy'n cael cur ofnadwy yn y pen, dwi'n mynd yn anniddig, yn rhwystredig ac mae fy nghroen yn cychwyn cosi ar hyd fy nghorff," meddai.

"Maen nhw'n credu fod rhain i gyd yn gysylltiedig â'r holl ergydion i fi ddiodde'.

"Hoffwn i gael mwy o wybodaeth a dysgu mwy am yr holl beth, ac os all y wybodaeth yna gael ei basio 'mlaen i genedlaethau y dyfodol, yna mae'n werth yr ymdrech."

Her gyfreithiol am anafiadau parhaol

Mae cannoedd o gyn-chwaraewyr - menywod a dynion fu'n chwarae rygbi'n broffesiynol - yn rhan o her gyfreithiol sy'n cyhuddo cyrff rheoli'r gamp o beidio gwneud digon i'w hamddiffyn rhag dioddef anafiadau parhaol.

Mae cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r chwaraewyr wedi dweud ddydd Mawrth fod 378 o chwaraewyr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair, yn ogystal â chwaraewyr pêl-droed, bellach wedi ymuno â'r achos.

Yn ddiweddar fe ddatgelodd BBC Cymru y gallai'r achos gyrraedd cannoedd o filiynau o bunnoedd oherwydd y niwed hirdymor a'r gofal parhaus fydd ei angen ar y chwaraewyr.

Ond mae disgwyl i unrhyw achos cyfreithiol fod yn un hir a chymhleth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd James nad yw eisiau i'r gêm ddiflannu, ond bod dysgu yn allweddol

Mae James hefyd yn gobeithio y bydd yr heriau cyfreithiol yn arwain at gêm fwy diogel.

"Rwy'n eitha' dideimlad am yr holl beth ar hyn o bryd, oherwydd bod e'n cymryd gymaint o amser i fi ddygymod â'r realiti," dywedodd.

"Gobeithio y bydd y gêm yn un fwy diogel yn y dyfodol.

"Mae 'na gyfrifoldeb ar y ddwy ochr i wneud pethau'n fwy diogel fel bod yna barhad ac y gall y gamp fynd yn ei blaen.

"I'r rhai sy'n diodde', rwy'n credu mai gwybodaeth yw'r allwedd i ddeall. Mae'n bwysig fod pobl yn dysgu, ac os oes yna ddata all gael ei ddefnyddio i reoli yr ergydion, mi fydd hynny o fudd i eraill."

Ychwanegodd: "Hir oes i'r gêm a gobeithio y bydd y ffynnu. Dwi bendant ddim yn un sydd am weld y gêm yn diflannu, oherwydd mae wedi rhoi cymaint o bleser i mi.

"Ond mae gwybodaeth a dysgu yn allweddol, ac mae'n bwysig bod pobl yn ymarfer gyda gofal."

'Straeon personol dewr'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd World Rugby, URC a'r RFU: "Rydym yn poeni'n fawr am bob aelod o'n teulu rygbi ac wedi ein tristau gan straeon personol dewr Dafydd a chyn-chwaraewyr eraill sy'n cael trafferth gyda materion iechyd.

"Tra bod heriau cyfreithiol yn ein hatal rhag siarad gyda Dafydd yn uniongyrchol, rydym eisiau iddo ef a'i deulu wybod ein bod yn poeni, ein bod yn gwrando, ac nad ydym byth yn sefyll yn llonydd pan mae'n dod i ymhellach gadarnhau rygbi fel y gamp fwyaf blaengar o ran lles athletwyr.

"Gan ymateb i'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf, a gydag arweiniad arbenigol, rydyn ni yn gweithio'n galed i ddiogelu a chefnogi pob un o'n chwaraewyr.

"Mae rygbi yn arwain y byd ar atal, rheoli ac adnabod ergydion i'r pen, ac mae World Rugby hefyd yn ariannu ymchwil arloesol, yn annog arloesedd ac yn ymchwilio i'r dechnoleg all wneud y gamp yn fwy hygyrch, cynhwysol ac mor ddiogel â phosib i bawb sy'n cymryd rhan."