Storm Floris i daro gogledd Cymru â thywydd 'anarferol o wyntog'

Tywyn, GwyneddFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Beefy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tonnau mawr yn dod i'r lan yn Nhywyn, Gwynedd fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Storm Floris daro rhan helaeth o ogledd Cymru ddydd Llun gyda thywydd "anarferol o wyntog".

Mae rhybudd melyn mewn grym rhwng 06:00 a hanner nos.

Dyma'r chweched storm i gael ei henwi gan y Swyddfa Dywydd y tymor hwn a'r gyntaf ers mis Ionawr.

Map rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd y tywydd yn anarferol o wyntog ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn ac fe allai gwyntoedd gyrraedd 70mya ar yr arfordir.

Mae cwmni Irish Ferries wedi canslo teithiau 07:30 a 13:50 rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Llun oherwydd y tywydd, ond mae'r teithiau eraill yn rhedeg fel yr arfer.

Mae disgwyl i Storm Floris daro gogledd Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd Lloegr.

Fe allai'r tywydd garw, a fydd hefyd yn cynnwys glaw trwm amharu ar wasanaethau ffyrdd, a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig